BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Harri Whittingham

Rhuthun, Sir Ddinbych

Harri Whittingham  Mae Harri Whittingham yn ffermwr a chontractwr hunangyflogedig ar Fferm Wern Fawr ger Rhuthun yn Sir Ddinbych, lle mae'n gweithio ar y cyd â'i dad ar fenter bîff a defaid y teulu. Mae ei rôl yn cynnwys rheoli da byw, rheoli glaswelltir a gweithrediadau fferm ehangach, ochr yn ochr â rhedeg busnes contractio amaethyddol llwyddiannus.

Yn ogystal â fferm y teulu, mae Harri wedi datblygu busnes arbenigol sy'n canolbwyntio ar brynu a phesgi ŵyn stôr, gan reoli nifer sylweddol bob blwyddyn ar draws tir sy'n eiddo iddo a thir rhent. Mae ei ddull yn cynnwys defnyddio cyfleoedd ar gyfer pori ar ffermydd llaeth a thir âr, gan ddangos dull hyblyg ac entrepreneuraidd o gynhyrchu da byw.

Mae Harri hefyd yn ymgymryd â gwaith contractio gan gynnwys gweithrediadau slyri a silwair, gan ddarparu llif incwm cyson ochr yn ochr â mentrau da byw mwy amrywiol.

Gan edrych tua’r dyfodol, uchelgais Harri yw cymryd yr awenau ar fferm y teulu a pharhau i ehangu'r mentrau defaid a gwartheg. Mae hefyd yn edrych ar gyfleoedd pellach i arallgyfeirio i gryfhau gwydnwch y busnes a chynhyrchu ffrydiau incwm ychwanegol.

Drwy’r Academi Amaeth, mae’n awyddus i ddatblygu ei fusnes, cael syniadau newydd a pharhau i adeiladu menter ffermio flaengar a chynaliadwy.


I gael cymorth neu gyngor busnes ffoniwch

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30yb a 5yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.