Llynpenmaen, Dolgellau
Mae Richard James Jones yn ffermwr hunangyflogedig ger Dolgellau, lle mae'n rheoli busnes ffermio a busnes sydd wedi’i arallgyfeirio i faes twristiaeth ar 430 erw yng nghanol Eryri. Ers cymryd yr awenau ar fferm y teulu’n 2020, mae wedi bod yn gyfrifol am ddatblygu a moderneiddio'r fenter, gan gyfuno ffermio da byw traddodiadol â chynigion lletygarwch sy'n tyfu.
Mae'r busnes yn cynnwys mentrau defaid a gwartheg ochr yn ochr â llety gwyliau, glampio a gweithgareddau marchogaeth. Mae gan Richard ran ganolog ym mhob agwedd ar y gweithrediad, gan gynnwys rheoli tir, gofalu am dda byw, marchnata, ymgysylltu â chwsmeriaid a rheolaeth ariannol. Mae wedi llwyddo i adeiladu presenoldeb cryf ar-lein, gan helpu i hyrwyddo'r busnes a denu ymwelwyr i'r ardal.
Mae Richard yn dod ag ystod eang o brofiad, ar ôl gweithio ar draws gwahanol sectorau gan gynnwys cynhyrchu llaeth a dofednod cyn dychwelyd i redeg fferm y teulu. Mae hyn wedi helpu i lunio dull blaengar o ddatblygu busnes ac arallgyfeirio.
Gan edrych tua’r dyfodol, mae'n canolbwyntio ar wella cynaliadwyedd a gwydnwch ymhellach trwy fuddsoddi mewn ynni adnewyddadwy, arferion cadwraeth ac arallgyfeirio parhaus. Trwy'r Academi Amaeth, mae Richard yn awyddus i adeiladu ar ei brofiad, ennill syniadau newydd a pharhau i ddatblygu busnes ffermio blaengar ac sy'n gyfrifol yn amgylcheddol.