Hwlffordd, Sir Benfro
Mae Geraint George yn weithiwr fferm sy'n gweithio ar fferm bîff a thir âr teuluol ger Hwlffordd yn Sir Benfro. Gan weithio o fewn y busnes teuluol, mae Geraint yn cyflawni ystod eang o gyfrifoldebau gan gynnwys porthi, gwaith gyda chnydau, gweithredu peiriannau, trin da byw, ffensio a chynnal a chadw’r fferm yn gyffredinol, ochr yn ochr â chynorthwyo gyda gwaith gweinyddol y busnes a llety gwyliau ar y fferm.
Wedi’i fagu ar fferm 475 erw sy'n canolbwyntio ar besgi gwartheg stôr, mae Geraint wedi datblygu sgiliau ymarferol cryf a dealltwriaeth glir o systemau da byw ers iddo fod yn ifanc iawn.
Gan edrych tua’r dyfodol, mae Geraint yn anelu at gymryd yr awenau ar fferm y teulu a datblygu'r busnes ymhellach i wella gwydnwch hirdymor. Un ffocws allweddol yw cynyddu nifer y defaid i leihau dibyniaeth ar wartheg a brynir i mewn, gan helpu i reoli heriau TB parhaus wrth gynnal lefelau stoc. Mae diddordeb cryf hefyd mewn gweithredu system bori cylchdro i wella rheolaeth glaswelltir, iechyd yr anifeiliaid ac effeithlonrwydd cyffredinol.
Drwy’r Academi Amaeth, mae Geraint yn awyddus i feithrin hyder, dysgu gan eraill mewn swyddi tebyg a chael syniadau newydd i gynorthwyo gyda datblygiad y busnes yn y dyfodol.