29 Mehefin 2026
Rhowch gynnig ar arallgyfeirio a meithrin cyfleoedd newydd ym maes garddwriaeth!
Yn dilyn llwyddiant ei lansiad yn 2025, mae rhaglen Bwyd o’r Tir – Tyfu ar gyfer y dyfodol Cyswllt Ffermio yn dychwelyd am ail dymor, i ysbrydoli mwy o ffermwyr yng Nghymru i edrych ar yr opsiynau arallgyfeirio cyffrous ym maes garddwriaeth a deall sut i’w wneud yn fenter busnes llwyddiannus. Bydd Castell Howell a CFfI yn cydweithio unwaith eto ar y rhaglen Bwyd o’r Tir – Tyfu ar gyfer y dyfodol yn dilyn llwyddiant y llynedd.
Fel rhan o raglen ehangach Agrisgôp, mae’r rhaglen ‘Bwyd o’r Tir’ – Tyfu ar gyfer y dyfodol yn cynnig cyfle i ffermwyr dros 16 mlwydd oed archwilio mentrau cynhyrchu llysiau proffidiol trwy deithiau astudio i ymweld â ffermydd sy’n arddangos gwahanol gnydau a modelau busnes.
Paratowch i gael eich ysbrydoli gan dyfwyr blaengar o bob cwr o Gymru a thu hwnt!
Mae’r rhaglen yn cynnwys dwy daith astudio dros nos i ymweld ag amrywiaeth o fusnesau garddwriaeth. Bydd un o’r teithiau astudio hyn wedi’i lleoli yng Ngogledd Cymru a’r llall yn Ne Cymru, lle bydd arbenigwyr o’r diwydiant yn rhannu cyngor busnes ac ariannol hanfodol i’ch helpu i ddatblygu eich menter garddwriaeth lwyddiannus eich hun. Cynhelir sesiynau rhithwir ategol hefyd lle byddwch yn clywed gan arbenigwyr o’r sector ac yn derbyn cymorth pellach ar gyfer eich syniadau arallgyfeirio.
Ewch i wefan Cyswllt Ffermio i weld yr amserlen ac i ymgeisio ar gyfer rhaglen Bwyd o’r Tir 2026 YMA!
Bydd y cyfnod ymgeisio yn cau am 5pm ar 27 Gorffennaf 2026. Peidiwch â cholli’r cyfle!
Os hoffech drafod y rhaglen neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Hannah Norman ar hannah.norman@mentera.cymru neu 07497 368 476.
Mae’n rhaid i ymgeiswyr fod dros 16 mlwydd oed. Nid oes angen profiad ym maes garddwriaeth i wneud cais.