BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Rhian Jones

Rhian JonesEnw: Rhian Jones

E-bost: rhian.jones@agrisgop.cymru

Symudol: 07551 700391

Lleoliad: Sir Ddinbych/Cymru Gyfan

Arbenigedd(au): Iechyd a Gwyddor Anifeiliaid, Bîff, Defaid, Arallgyfeirio, Marchnata, Cyfryngau Cymdeithasol 

 

  • Mae Rhian Jones, sy’n wyres ffermwr, yn treulio unrhyw amser hamdden sydd ganddi yn ffermio ochr yn ochr â'i gŵr, sy'n cadw diadell o thua 2,500 o famogiaid a 300 o wartheg sugno ar y fferm deuluol sydd hefyd yn gwerthu gwrtaith a gwellt.   Mae Rhian hefyd yn gyfrifol am lety gwyliau, prosiect arallgyfeirio proffidiol y mae'n falch o fod wedi ei ysgogi, gan ymdrin â’r holl reolaeth, cyllid a marchnata cyfryngau cymdeithasol ei hun. 
  • Am y 10 mlynedd diwethaf mae Rhian wedi mwynhau darlithio pynciau gwyddor anifeiliaid i fyfyrwyr amaethyddiaeth 16-19 oed yng Ngholeg Llysfasi.   Cyn hynny bu'n gweithio i Gyngor Sir Ddinbych fel swyddog gorfodi iechyd anifeiliaid. Mae ei rôl ddarlithio, sy'n golygu asesu cynnydd dysgwyr a helpu pobl i gyflawni eu nodau, yn academaidd ac o ran dilyniant gyrfa, a'i phrofiad ymarferol o reoli busnes, wedi rhoi sgiliau bywyd a gwybodaeth mae bellach yn awyddus i'w rhoi ar waith fel arweinydd Agrisgôp newydd! 
  • Yn gynigydd brwd o ddysgu gydol oes — mae Rhian wedi cynnal nifer o gyrsiau byr ar bynciau sy'n amrywio o iechyd meddwl ac addysgu Cymraeg i iechyd anifeiliaid a meddyginiaeth filfeddygol - fe welwch ei hymrwymiad i ddatblygiad personol a'i pharodrwydd i annog eraill i gyrraedd eu potensial yn ysbrydoledig. Drwy ei gyrfa a'i gweithgareddau gwirfoddol ei hun, mae wedi gweithio gyda llawer o ffermwyr sy'n fodlon cofleidio technolegau modern, monitro perfformiad ac arallgyfeirio mewn ffyrdd arloesol - pob agwedd y mae'n awyddus i'w hyrwyddo i'w haelodau grŵp Agrisgôp. 
  • Mae Rhian hefyd yn cefnogi nifer o sefydliadau gwledig — daw'r ymadrodd 'holwch berson prysur' i'r meddwl!  Fel gwirfoddolwr a 'pencampwr rhanbarthol' ar gyfer y Sefydliad DPJ - sy'n cefnogi lles meddyliol o fewn cymunedau gwledig; cadeirydd blaenorol Cylch Meithrin Rhuthun - roedd hi'n gyfrifol am reolaethau cyllidebol a cheisiadau grant - ac ysgrifennydd y Charmoise Hill Sheep Society - rhagor o farchnata cyfryngau cymdeithasol. Heb os nac oni bai, mae ganddi’r sgiliau, yr hyder a’r egni i gefnogi teuluoedd ffermio sydd eisiau datblygu syniad busnes neu fenter arallgyfeirio newydd. 
  • Yn siaradwr Cymraeg rhugl, gwrandäwr da ac yn meddu ar rwydwaith cadarn iawn o gysylltiadau ledled Cymru, gallwch ddisgwyl cael eich annog, eich ysbrydoli, a chael yr hyder a'r sgiliau neu'r wybodaeth y gallai fod eu hangen arnoch i 'wneud i bethau ddigwydd' os mai Rhian yw eich arweinydd Agrisgôp! 

Profiad/sgiliau/cymwysterau perthnasol   

  • Ffermwr a darlithydd coleg rhan amser mewn iechyd a gwyddor anifeiliaid
  • Cadeirydd, Cylch Meithrin Rhuthun
  • Ysgrifennydd, Charmoise Hill Sheep Society
  • Gwirfoddolwr a Hyrwyddwr, Sefydliad DPJ
  • BSc (Anrh) Gwyddor Anifeiliaid 
  • TAR Gwyddoniaeth Uwchradd gyda SAC
  • PGCTHE

I gael cymorth neu gyngor busnes ffoniwch

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30yb a 5yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.