Enw: Rhian Jones
E-bost: rhian.jones@agrisgop.cymru
Symudol: 07551 700391
Lleoliad: Sir Ddinbych/Cymru Gyfan
Arbenigedd(au): Iechyd a Gwyddor Anifeiliaid, Bîff, Defaid, Arallgyfeirio, Marchnata, Cyfryngau Cymdeithasol
- Mae Rhian Jones, sy’n wyres ffermwr, yn treulio unrhyw amser hamdden sydd ganddi yn ffermio ochr yn ochr â'i gŵr, sy'n cadw diadell o thua 2,500 o famogiaid a 300 o wartheg sugno ar y fferm deuluol sydd hefyd yn gwerthu gwrtaith a gwellt. Mae Rhian hefyd yn gyfrifol am lety gwyliau, prosiect arallgyfeirio proffidiol y mae'n falch o fod wedi ei ysgogi, gan ymdrin â’r holl reolaeth, cyllid a marchnata cyfryngau cymdeithasol ei hun.
- Am y 10 mlynedd diwethaf mae Rhian wedi mwynhau darlithio pynciau gwyddor anifeiliaid i fyfyrwyr amaethyddiaeth 16-19 oed yng Ngholeg Llysfasi. Cyn hynny bu'n gweithio i Gyngor Sir Ddinbych fel swyddog gorfodi iechyd anifeiliaid. Mae ei rôl ddarlithio, sy'n golygu asesu cynnydd dysgwyr a helpu pobl i gyflawni eu nodau, yn academaidd ac o ran dilyniant gyrfa, a'i phrofiad ymarferol o reoli busnes, wedi rhoi sgiliau bywyd a gwybodaeth mae bellach yn awyddus i'w rhoi ar waith fel arweinydd Agrisgôp newydd!
- Yn gynigydd brwd o ddysgu gydol oes — mae Rhian wedi cynnal nifer o gyrsiau byr ar bynciau sy'n amrywio o iechyd meddwl ac addysgu Cymraeg i iechyd anifeiliaid a meddyginiaeth filfeddygol - fe welwch ei hymrwymiad i ddatblygiad personol a'i pharodrwydd i annog eraill i gyrraedd eu potensial yn ysbrydoledig. Drwy ei gyrfa a'i gweithgareddau gwirfoddol ei hun, mae wedi gweithio gyda llawer o ffermwyr sy'n fodlon cofleidio technolegau modern, monitro perfformiad ac arallgyfeirio mewn ffyrdd arloesol - pob agwedd y mae'n awyddus i'w hyrwyddo i'w haelodau grŵp Agrisgôp.
- Mae Rhian hefyd yn cefnogi nifer o sefydliadau gwledig — daw'r ymadrodd 'holwch berson prysur' i'r meddwl! Fel gwirfoddolwr a 'pencampwr rhanbarthol' ar gyfer y Sefydliad DPJ - sy'n cefnogi lles meddyliol o fewn cymunedau gwledig; cadeirydd blaenorol Cylch Meithrin Rhuthun - roedd hi'n gyfrifol am reolaethau cyllidebol a cheisiadau grant - ac ysgrifennydd y Charmoise Hill Sheep Society - rhagor o farchnata cyfryngau cymdeithasol. Heb os nac oni bai, mae ganddi’r sgiliau, yr hyder a’r egni i gefnogi teuluoedd ffermio sydd eisiau datblygu syniad busnes neu fenter arallgyfeirio newydd.
- Yn siaradwr Cymraeg rhugl, gwrandäwr da ac yn meddu ar rwydwaith cadarn iawn o gysylltiadau ledled Cymru, gallwch ddisgwyl cael eich annog, eich ysbrydoli, a chael yr hyder a'r sgiliau neu'r wybodaeth y gallai fod eu hangen arnoch i 'wneud i bethau ddigwydd' os mai Rhian yw eich arweinydd Agrisgôp!
Profiad/sgiliau/cymwysterau perthnasol
- Ffermwr a darlithydd coleg rhan amser mewn iechyd a gwyddor anifeiliaid
- Cadeirydd, Cylch Meithrin Rhuthun
- Ysgrifennydd, Charmoise Hill Sheep Society
- Gwirfoddolwr a Hyrwyddwr, Sefydliad DPJ
- BSc (Anrh) Gwyddor Anifeiliaid
- TAR Gwyddoniaeth Uwchradd gyda SAC
- PGCTHE