Yn aml, mae rhai o'r sgyrsiau mwyaf arwyddocaol ynghylch olyniaeth teuluol yn digwydd o amgylch y bwrdd y gegin. Dyna pam y gall Cyswllt Ffermio ddarparu hwylusydd i'ch helpu i lywio'r sgyrsiau pwysig hynny. Mae'n hanfodol bod pob aelod o’r teulu yn bresennol ac mae sicrhau bod pawb yn cael cyfle i siarad yn allweddol.
Gallwch ddewis eich hwylusydd o'n rhestr o ymarferwyr proffesiynol hyfforddedig a phrofiadol a all ddarparu arweiniad annibynnol, diduedd a sensitif mewn modd hollol gyfrinachol.
I wneud cais am y gwasanaeth hwn, cysylltwch â'ch hwylusydd rhanbarthol a all eich rhoi mewn cysylltiad â'n rhestr o arbenigwyr cyfryngu a hwyluso.