BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Cam 1: Adolygiad Olyniaeth

Cymerwch stoc o'ch asedau a deall mwy am eich sefyllfa dreth etifeddiant gyda chyfreithiwr cymwys. 

  • Darparwch wybodaeth am asedau eich busnes trwy holiadur a anfonir yn uniongyrchol at eich cyfreithiwr dewisol.
  • Derbyniwch alwad ffôn gan gyfreithiwr ar gyfer cwestiynau eglurhaol.
  • Cynhyrchir adroddiad byr yn manylu ar 4 neu 5 pwynt gweithredu.
  • Y canlyniad fydd cadarnhau'r sefyllfa dreth bresennol ac amlinellu unrhyw gamau / cyngor pellach sydd eu hangen a phryd.

CYMHWYSEDD: Pob busnes yn gymwys. Rhaid i’r gwasanaeth hwn gael ei ddarparu i berchnogion y fferm sydd yn berchen ar yr asedau. Gall yr asedau hynny gynnwys tir, stoc neu asedau arallgyfeirio.

I drefnu Adolygiad Olyniaeth, cliciwch yma. Fel arall, gallwch gysylltu â hwylusydd rhanbarthol i drafod eich sefyllfa unigol a’i gwblhau dros y ffôn. 


I gael cymorth neu gyngor busnes ffoniwch

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30yb a 5yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.