BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Cwrs Hyfforddiant

Cwrs Sylfaenol BASIS mewn Agronomi (Amaethyddiaeth)

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Tachwedd 2021
Diweddarwyd diwethaf:
25 Hydref 2024

Cwrs 5 diwrnod yw hwn a gynhelir trwy gydol y tymor tyfu ac yna arholiad BASIS ½ diwrnod.

Mae’r cwrs hwn yn rhoi cyflwyniad cadarn i agronomi, diogelu cnydau integredig a maeth cnydau ar gyfer y prif gnydau gwraidd a chnydau y gellir eu cynaeafu yn y Deyrnas Unedig. I rai sydd â phrofiad a gwybodaeth gyfyngedig am gnydau mae’n gwrs sylfaenol ar gyfer Tystysgrif y Cwrs Diogelu Cnydau BASIS. I eraill, fel staff ffermydd, sydd â swydd na fydd yn cynnwys rhoi cyngor ar agronomi a diogelu cnydau, mae’n gwrs sy’n sefyll ar ei draed ei hun gan roi dealltwriaeth a gwybodaeth sy’n addas i’w gwaith iddynt.

  • Cynhyrchu Cnydau
  • Chwyn
  • Plâu
  • Afiechydon
  • Pridd a Maethiad Cnydau
  • Cemegolion Diogelu Planhigion a Chynhyrchion Gwrtaith
  • Diogelu Pobl, Anifeiliaid a’r Amgylchedd

Bydd nifer o ymgeiswyr llwyddiannus y cwrs Dyfarniad Sylfaenol mewn Agronomi yn mynd ymlaen i gael cymwysterau BASIS pellach fel FACTS a Thystysgrif BASIS mewn Diogelu Cnydau.


Dyddiadau Cyrsiau:

  • 1st Hydref
  • 15th Hydref
  • 5th Tachwedd
  • 26th Tachwedd
  • 10th Rhagfyr
  • 17th Rhagfyr

Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.

Mae’r Darparwyr Hyfforddiant a ganlyn ar gael i gyflwyno’r cwrs: 


I gael cymorth neu gyngor busnes ffoniwch

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30yb a 5yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.