BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Training course

Deall a Defnyddio eich Cyfrifon

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Hydref 2019
Diweddarwyd diwethaf:
21 Chwefror 2025

Cwrs hyfforddiant undydd a rhoddir tystysgrif presenoldeb ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus.

Os ydych chi’n dymuno gwella eich sgiliau er mwyn deall, dadansoddi a defnyddio eich cyfrifon blynyddol, mae’r cwrs hwn yn addas ar eich cyfer. Byddwch chi’n edrych ar y datganiadau ariannol y mae eich cyfrifydd yn eu defnyddio, gan eich galluogi i drafod a holi ynghylch materion ariannol yn fwy effeithiol gyda’ch cyfrifydd. Datblygu dealltwriaeth ynglŷn â sut i fonitro perfformiad eich busnes, edrych ar incwm a gwariant, llunio cyfrifon diwedd blwyddyn a gweithio’n fwy effeithiol gyda’ch cyfrifydd er mwyn gwella eich rheolaeth ariannol o fewn y busnes. Bydd sesiynau’n cynnwys: trosolwg o rôl y cyfrifydd, datganiadau ariannol,  cyfrif elw a cholled, y fantolen ac adolygu’r cyfrifon.

Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.

O 1 Medi 2023, rhaid i bob ymgeisydd gwblhau'r modiwl e-ddysgu gorfodol canlynol cyn gwneud cais am gyllid - Uned Orfodol: Hanfodion busnes llwyddiannus

Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i ddarparu’r cwrs hwn:

Nodwch gall darparwyr gyflwyno'r cwrs hwn yn ddigidol. Gweler manylion cyswllt yr holl ddarparwyr hyfforddiant isod.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.