BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Training course

Dyfarniad Lefel 3 mewn Diogelwch Bwyd ym maes Arlwyo, Gweithgynhyrchu neu Adwerthu

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Hydref 2019
Diweddarwyd diwethaf:
25 Medi 2023

Mae’r cwrs hwn yn cael ei ddarparu dros dri diwrnod gydag asesiad ar ddiwedd y cwrs. Rhoddir tystysgrif ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus.

Ydych chi’n rheoli neu’n rhedeg busnes yn ymwneud â bwyd ar eich fferm neu fel rhan o fenter arallgyfeirio? Bydd y cwrs hwn yn sicrhau eich bod yn deall pwysigrwydd y canlynol: cydymffurfio gyda deddfwriaeth diogelwch; gweithredu a monitro arferion hylendid da, sut i weithredu gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd, a gweithredu a monitro arferion da yn ymwneud â halogi, microbioleg a rheoli tymheredd.

Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.

 

Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i ddarparu’r cwrs hwn:

 

Nodwch gall Coleg Sir Gar a Chanolfan Bwyd Cymru gyflwyno'r cwrs hwn yn ddigidol. Gweler manylion cyswllt yr holl ddarparwyr hyfforddiant isod.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.