BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Training course

DIY Ffrwythloni Artiffisial (AI)

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Awst 2019
Diweddarwyd diwethaf:
19 Medi 2025

Fel arfer, cwrs 3 diwrnod gyda thystysgrif ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus

Gall Ffrwythloni Artiffisial (AI) eich hun arbed amser ac arian i chi trwy sicrhau bod eich buwch yn cael ei ffrwythloni ar yr amser cywir heb y straen o aros am dechnegydd. Bydd holl agweddau ffrwythloni artiffisial yn cael eu cynnwys: anatomeg a ffisioleg, deddfwriaeth, defnydd diogel o Nitrogen hylifol a corsennau semen, gweithdrefn dadmer a’r dechneg ymarferol o ffrwythlonni’n artiffisial. Bydd y sesiwn ymarefrol yn cael ei wneud ar fuchod byw ar fferm. Bydd bod ar fferm yn creu awyrgylch hyfforddi hamddenol. Mae asesiad o’r dechneg yn cael ei wneud trwy deimlo neu yn fwy cyffredin gan archwiliad uwchsain.

Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.

O 1 Medi 2023, rhaid i bob ymgeisydd gwblhau'r modiwl e-ddysgu gorfodol canlynol cyn gwneud cais am gyllid - Uned Orfodol: Ffrwythloni Artiffisial (AI) mewn Gwartheg

Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i ddarparu’r cwrs hwn:


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.