BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Training course

Y Rheolwr Gwledig – Taith o Arferion Rheoli

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Mawrth 2024
Diweddarwyd diwethaf:
2 Ebrill 2024

Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio ar gyfer: Rheolwyr fferm, staff a rheolwyr mewn busnesau gwledig.

Trosolwg: Mae'r cwrs tridiau hwn wedi'i gynllunio ar gyfer pobl sy'n newydd i reoli pobl er mwyn iddynt ddysgu a datblygu sgiliau rheoli effeithiol sy'n hanfodol yn y gweithle gwledig. Cânt eu cyflwyno i wahanol ddamcaniaethau, arferion a chysyniadau rheoli, yn ogystal â’u trafod a’u rhoi ar waith. Bydd y rhain yn berthnasol i'w hamgylchedd gwaith. Mae'r cwrs yn cyfuno trafodaethau dan arweiniad hyfforddwr, theori, ymarferion grŵp, a holiaduron.

Nod: Darparu dealltwriaeth glir o rolau a chyfrifoldebau rheolwr a datblygu'r sgiliau perthnasol i berfformio'n effeithiol ac effeithlon yn y rôl hon. Deall y gwahanol ddulliau rheoli a sut i addasu eich dull i'r sefyllfa i gynhyrchu'r canlyniadau gofynnol trwy arferion cyfathrebu effeithiol.

Erbyn diwedd y rhaglen, bydd cyfranogwyr yn gallu:
•Deall diwylliant gwledig a sut i reoli ac ymdrin â newid
•Datblygu sgiliau cyfathrebu a sgiliau rhyngbersonol da, a'u defnyddio o fewn yr amgylchedd tîm
•Perthnasu damcaniaethau, cysyniadau ac egwyddorion rheolaeth i'w gwaith a nhw eu hunain
•Deall eu rôl yn y broses o ddysgu a datblygu staff, a phwysigrwydd datblygu sgiliau staff
•Cydnabod pwysigrwydd cymhelliant drostynt eu hunain, a dynameg tîm
•Teimlo'n hyderus i ddirprwyo'n llwyddiannus
•Datblygu technegau datrys problemau a gwneud penderfyniadau
•Datblygu technegau cynllunio ac offer rheoli amser sy'n benodol i ffermydd a busnesau gwledig

Dull: Bydd y cwrs yn cyflwyno cyfres o gysyniadau a syniadau rheoli arfer gorau i chi ynghyd â chyfleoedd i fyfyrio ar y syniadau hynny, eu trafod a'u rhoi ar waith.

Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.

O 1 Medi 2023, rhaid i bob ymgeisydd gwblhau'r modiwl e-ddysgu gorfodol canlynol cyn gwneud cais am gyllid - Uned Orfodol: Hanfodion busnes llwyddiannus

Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i gyflwyno’r cwrs hwn:

Ansicr beth yw BOSS? Ewch i businesswales.gov.wales/cy/boss i gael gwybod mwy


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.