Ar ôl i chi ddewis DPA i ychwanegu data ato, cliciwch y botwm “Ychwanegu data” ar yr ochr dde o dan y golofn Camau gweithredu.
Mae gwahanol fathau o sgriniau mewnbynnu data DPA drwy’r offeryn, mae rhai enghreifftiau ar gael isod.
Os byddwch yn cael neges gwall wrth fewnbynnu data, bydd hyn yn aml oherwydd bod y ffigur a gyfrifwyd y tu allan i baramedrau'r DPA. Gwiriwch ddwywaith fod y ffigurau rydych wedi'u nodi yn gywir, ac yn y fformat cywir, er enghraifft hectarau nid erwau, misoedd nid diwrnodau, tunelli nid cilogram ac ati.
- Mewnbynnu data yn syml gydag un neu fwy o feysydd i fewnbynnu data. Mae meysydd wedi'u marcio â * yn feysydd gorfodol. Ar ôl i'r data gael ei fewnbynnu, cliciwch ar "Dangos canlyniadau".

- DPA lle mae opsiwn i fewnbynnu eich ffigur yn uniongyrchol neu gael yr offeryn i'w gyfrifo ar eich rhan.
Wrth ddewis eich opsiwn dewisol, bydd y maes (meysydd) cywir yn ymddangos i chi fewnbynnu data. Yna cliciwch ar “Dangos canlyniadau”.

- DPA sy'n cynnig mwy nag un categori i'w ddewis e.e. Glaswellt ac india-corn ar gyfer DPA Dwysfwyd a phori, neu Bacwn, porc ar gyfer DPA moch – gallwch ddadansoddi mwy nag 1 eitem o fewn un DPA


- DPA sy’n benodol i'r cae - dyma le gallwch ychwanegu data at barseli tir ar eich fferm ar gyfer dangosyddion amgylcheddol gwahanol
Bydd angen ychwanegu parsel o dir newydd yn gyntaf ar y math hwn o DPA.

Ar ôl i barsel o dir gael ei ychwanegu unwaith, byddwch yn ei ddewis o'r rhestr bresennol o barseli tir mewn dangosyddion perfformiad allweddol yn y dyfodol.
I ychwanegu caeau newydd:

I ddewis caeau presennol: