BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Deall Canlyniadau eich dangosyddion perfformiad allweddol (DPA)

Ar ôl i chi fewnbynnu’r holl ddata sydd ei angen ar gyfer DPA, cliciwch “Dangos canlyniadau” i fynd â chi i dudalen ganlyniadau eich DPA.

Mae'r dudalen ganlyniadau’n cynnwys:

  • Graffeg a thabl sy’n dangos eich canlyniadau - mae rhai DPA yn rhoi data cymharol safonol y diwydiant i chi sy'n dod o ffynonellau dibynadwy sydd wedi'u manylu ar y sgrin o dan y raffeg. Mae DPA eraill yn syml yn DPA y gallwch eu cymharu eich hunain, lle gallwch gymharu eich ffigurau o un flwyddyn (neu un fenter) i'r llall.
  • Eglurhad i’ch helpu i ddeall beth mae'r canlyniadau'n ei ddweud wrthych.
  • Dewisiadau cymorth wedi'u teilwra – sy’n cynnig erthyglau, podlediadau, cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant a mwy sy'n gysylltiedig â DPA, a all gynorthwyo i wella canlyniadau eich DPA.

Fodd bynnag, nid yw DPA ar eu pen eu hunain yn rhoi'r darlun cyfan, felly mae adolygu gwahanol DPA gyda'i gilydd yn caniatáu i chi greu darlun mwy cyflawn o gryfderau a meysydd i’w gwella yn eich busnes cyfan.

Pan fydd eich canlyniadau ar gyfer dangosydd perfformiad penodol yn cael eu cymharu â ffermydd yn nhraean uchaf y diwydiant sydd efallai â chostau uwch na'r cyfartaledd, bydd eu helw uwch yn gorbwyso'r costau hyn.

Os ydych chi eisiau ceisio rhagor o gymorth yn ymwneud â'r data o'ch DPA, yna gallwch gysylltu â'ch Swyddog Datblygu lleol a all eich arwain ar y camau nesaf addas sydd ar gael drwy Cyswllt Ffermio i wella'ch perfformiad mewn sawl maes allweddol.

Enghraifft o raffeg DPA o fewn yr offeryn:

Os ydych chi'n meddwl eich bod chi wedi mewnbynnu'r data yn anghywir, gallwch chi fynd yn ôl a Golygu’r data o'r dudalen ganlyniadau.

Gallwch hefyd Ddileu'r data sydd wedi’i fewnbynnu ar gyfer y DPA os ydych chi am ddechrau eto.

Mae gennych hefyd yr opsiynau i Gyflwyno ar gyfer yr CFC (gweler y canllaw penodol hwn ar hyn) neu Argraffu'r dudalen ganlyniadau. (dolen https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/benchmarking-2025/farmdata-help-centre/submitting-kpis-sfs )[SJ1]   ) 
Ar ôl i chi gyflwyno DPA ar gyfer yr SFS, ni allwch ddiwygio'r data yn y DPA tan y flwyddyn galendr nesaf.

Pan fyddwch wedi cwblhau'r adolygiad o ganlyniad DPA penodol, ac nad ydych am geisio unrhyw gymorth pellach, efallai yr hoffech edrych ar DPA eraill sydd ar gael.

Gallwch gael mynediad at DPA allweddol eraill o fewn eich menter drwy glicio ar y saeth yn ôl o dan y logo.

Ar ôl i chi glicio’r botwm hwn, bydd yn mynd â chi yn ôl i’ch menter gan arddangos yr holl DPA sydd ar gael ar gyfer y fenter honno, gan roi’r cyfle i chi ddewis DPA arall a chwblhau ychydig o waith meincnodi pellach.

Os yw'n well gennych symud ymlaen i fenter wahanol neu edrych ar y DPA ar gyfer y Fferm gyfan, yna gallwch gael mynediad at y rhain ar y panel ar yr ochr chwith.

Os oes angen i chi ychwanegu menter newydd, dewiswch y Dangosfwrdd ar ochr chwith eich sgrin yn gyntaf, ac yna'r botwm “+ Ychwanegu menter” ar ochr dde sgrin y dangosfwrdd.


I gael cymorth neu gyngor busnes ffoniwch

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30yb a 5yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.