Mae cydnabyddiaeth gynyddol o'r manteision posibl y gall mewnbynnau cynaliadwy fel triagl a hwmadau eu darparu o ran gwella ansawdd porthiant, lliniaru straen anfiotig, ac ategu cynnyrch cnydau, wrth leihau dibyniaeth ar fewnbynnau cemegol. Mae tuedd ar i fyny tebyg yn amlwg ar gyfer cynhyrchion biolegol a chynaliadwy eraill, sydd i’w gweld mewn astudiaethau academaidd a threialon ar ffermydd.
- Statws:
- Cyflawn
- Wedi'i ffermio gan:
- Roger & Dyddanwy Pugh
- Lleoliad:
- Crickie Farm, Llangorse
- Sector:
- Biff, Defaid
Trosolwg
Mae cydnabyddiaeth gynyddol o'r manteision posibl y gall mewnbynnau cynaliadwy fel triagl a hwmadau eu darparu o ran gwella ansawdd porthiant, lliniaru straen anfiotig, ac ategu cynnyrch cnydau, wrth leihau dibyniaeth ar fewnbynnau cemegol. Mae tuedd ar i fyny tebyg yn amlwg ar gyfer cynhyrchion biolegol a chynaliadwy eraill, sydd i’w gweld mewn astudiaethau academaidd a threialon ar ffermydd.
Ein nod yw rhoi rhai o'r cynhyrchion hyn ar brawf ar dair fferm o fewn rhwydwaith Ein Ffermydd - Cilthrew, Crickie a fferm Cwmrisga. Bydd pob fferm yn treialu chwe chynnyrch biolegol gwahanol, wedi'u chwalu ddwywaith drwy gydol y tymor tyfu, ac yn gwerthuso eu heffaith ddilynol ar ansawdd a chynnyrch glaswellt. Bydd y cynhyrchion yn cael eu chwalu gan ddefnyddio offeryn Tow and Fert, sydd wedi'i gynllunio'n benodol ar gyfer chwalu cynhyrchion biolegol. Bydd pob plot hefyd yn cael ei farcio â thri phwynt cyfeirio â lleoliad GPS ar gyfer samplu ac asesiadau cyson drwy gydol y tymor. Byddwn hefyd yn gadael plot heb ei drin i feintioli unrhyw enillion a gyflawnwyd a chanfod yr elw o ganlyniad i fuddsoddi yn ôl y cynhyrchion a ddefnyddir.
Mae'r chwe chynnyrch fel a ganlyn:
- Soil Point: Cyflyrydd pridd sy'n seiliedig ar asid hwmig a ffwlfig, sy'n darparu mwynau hybrin ac yn gwella strwythur y pridd i gefnogi ymsefydlu, twf ac ansawdd cnydau.
- Sea2Soil: Hydrolysad protein pysgod sy'n cynnig asidau amino ac elfennau hybrin sydd ar gael yn rhwydd ar gyfer iechyd planhigion ac iechyd y pridd.
- Slygen: Cymysgedd microbaidd o facteria a ffyngau buddiol sy'n gwella bioleg y pridd ac yn hyrwyddo twf planhigion.
- Kelp Crofters: Cynnyrch sy'n seiliedig ar wymon sy'n llawn awcsinau, cytocininau, a giberelinau, wedi'i gynllunio i ysgogi twf a gwella gwytnwch i straenachoswyr.
- QLF TerraFed: Triagl wedi'i hidlo sy'n cyflenwi siwgrau sydd ar gael i blanhigion i fwydo microbioleg planhigion a’r pridd.
- BIOCAT: Technoleg newydd sy'n seiliedig ar ffag sy'n targedu bacteria niweidiol yn y pridd, gyda'r nod o ail-gydbwyso microbiomau’r pridd ac ategu cynnyrch a lefelau protein grawn.
Bydd y prosiect hefyd yn cyfrannu at ganlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy, gan gynnwys:
- Gwneud y mwyaf o storio carbon
- Lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr
- Dŵr glân
- Defnyddio adnoddau’n effeithlon
Llinell Amser Prosiect Diweddaraf
Adroddiad terfynol
Prif ganlyniadau
Roedd effeithiau cyffredinol y cynhyrchion biolegol yn amrywiol, gan ddangos dibyniaeth gref ar amodau’r safle.
- Cynnyrch mwyaf cyson: Kelp Crofters oedd y cynnyrch gyda’r perfformiad mwyaf cyson, gan gyflawni cynnydd mewn cynhyrchiant ar ddau safle a gwelliannau mesuradwy mewn gweithgarwch microbaidd ar drydydd safle.
- Gweithgarwch y pridd: Roedd gwelliannau i’w gweld fwyaf amlwg mewn gweithgarwch biolegol a chylchedu nitrogen, yn enwedig gyda chynhyrchion Sylgen, Kelp Crofters, a Sea2Soil.
- Cynnyrch: Roedd ymatebion o safbwynt cynnyrch yn fach ar y cyfan, ond llwyddodd Kelp Crofters i gynnal lefel uchel o gynnyrch deunydd sych gyson. Ar fferm Crickie, cynhyrchodd Terrafed, Sylgen, a Sea2Soil ychydig mwy o ddeunydd sych na’r llain reoli.
- Gwerth porthiant: Roedd dadansoddiadau meinwe’r dail a gwerth porthiant yn dangos cymeriant maetholion ac ansawdd porthiant o fewn yr ystod dymhorol, gydag ychydig iawn o amrywiaeth rhwng y triniaethau.
Cefndir
Mae cynhyrchion biolegol yn cael eu defnyddio fwyfwy yn y diwydiant amaeth i wella iechyd y pridd, cynyddu argaeledd maetholion a chefnogi twf glaswellt cynaliadwy. Mae astudiaethau blaenorol wedi awgrymu y gallai bio-symbylwyr ddangos effeithiau mwy amlwg mewn systemau ffrwythlondeb isel neu sy’n profi straen o’i gymharu â phriddoedd ffrwythlon iawn.
Diben y gwaith
Nod y prosiect oedd gwerthuso effeithiolrwydd chwe chynnyrch biolegol dethol ar berfformiad y pridd a’r glaswellt ar draws tair fferm amrywiol yng Nghymru yn ystod 2025.
Y nodau penodol oedd i:
- Asesu effaith y cynhyrchion biolegol dethol ar lefelau maeth y pridd ac iechyd cyffredinol y pridd.
- Gwerthuso gwelliannau o safbwynt twf glaswellt, cynnyrch ac ansawdd o dan wahanol driniaethau.
- Cymharu perfformiad cynhyrchion biolegol ar draws tair fferm penodol.
Yr hyn a wnaed
Cynhaliwyd y prosiect ar draws tair o’r ffermydd ar y rhwydwaith Ein Ffermydd (Cilthrew, Cwmrisca, a Crickie) i werthuso effeithiolrwydd chwe chynnyrch biolegol (Tabl 1) a thriniaeth gyfun (o bob un o’r cynhyrchion) yn erbyn llain reoli (heb driniaeth):
Tabl 1: Y chwe chynnyrch a ddefnyddiwyd yn ystod y prosiect a’u nodweddion
| Cynnyrch | Nodweddion |
| Soil Point | Cyflyrydd pridd sy'n seiliedig ar asid hwmig a ffwlfig, sy'n darparu elfennau hybrin ac yn gwella strwythur y pridd i gefnogi ymsefydliad, twf ac ansawdd cnydau. |
| Sea2Soil | Hydrolysad protein pysgod sy'n cynnig asidau amino ac elfennau hybrin sydd ar gael yn rhwydd ar gyfer iechyd planhigion ac iechyd y pridd. |
| Sylgen | Cymysgedd microbaidd o facteria a ffyngau buddiol sy'n gwella bioleg y pridd ac yn hybu twf planhigion. |
| Kelp Crofters | Cynnyrch sy'n seiliedig ar wymon sy'n llawn awcsinau, cytocininau, a giberelinau, wedi'i gynllunio i ysgogi twf a gwella gwytnwch i straenachoswyr. |
| QLF TerraFed | Triagl wedi'i hidlo sy'n cyflenwi siwgrau sydd ar gael i blanhigion i fwydo microbioleg planhigion a’r pridd. |
| BIOCAT | Technoleg newydd sy'n seiliedig ar ffag sy'n targedu bacteria niweidiol yn y pridd, gyda'r nod o ail-gydbwyso microbiomau’r pridd ac ategu cynnyrch a lefelau protein grawn. |
Gwasgarwyd y cynhyrchion ddwywaith yn ystod y tymor ar gyfradd o 150L/ha o ddŵr gan ddefnyddio peiriant chwistrellu Tow and Fert Multi 500. Er mwyn lleihau rhagfarn o ganlyniad i ffactorau allanol, cafodd y triniaethau eu rhoi ar hap o fewn pob safle arbrofol. Amcangyfrifwyd canolrif y triniaethau’n seiliedig ar dri phwynt samplu fesul llain, a chafodd yr holl ddadansoddiadau data dilynol eu cwblhau gan Lancrop Laboratories UK.
Data a gasglwyd:
- Samplau pridd: Casglwyd cyn y gwasgariad cyntaf ac ar ôl yr ail wasgariad. Mesurwyd gweithgarwch biolegol (e.e. resbiradaeth y pridd, biomas microbaidd), statws maetholion (elfennau sylweddol/elfennau hybrin), a rhinweddau’r pridd (e.e. deunydd organig, pH, CEC).
- Samplau meinwe’r dail: Casglwyd 2-3 wythnos ar ôl gwasgaru pob cynnyrch i asesu cymeriant maetholion (N, P, K, Ca, Mg, S, Cu, Zn, Mn).
- Dadansoddiad o werth porthiant: Dadansoddwyd samplau porthiant ar ôl yr ail wasgariad i asesu paramedrau ansawdd allweddol y porthiant (gan gynnwys Protein Crai (CP), Deunydd Sych (DM), Egni Metaboladwy (ME) a Ffibr (NDF/ADF)).
- Mesur cynnyrch: Mesurwyd ar ôl yr ail wasgariad gan ddefnyddio
Canlyniadau
Dangosodd y prosiect y gall cynhyrchion biolegol helpu i gynnal iechyd y pridd ac ansawdd y porthiant, ond ar y cyfan, roedd eu heffeithiau’n ganolig, yn anghyson ac yn ddibynnol iawn ar amodau amgylcheddol y safle.
Iechyd y pridd a chynnwys maetholion
- Ar fferm Cwmrisca, llwyddodd Kelp Crofters a Sylgen i gynyddu biomas microbaidd a resbiradaeth, gan ddangos bod metaboledd microbaidd yn cael ei sbarduno yn y tymor byr
- Dangosodd y driniaeth gyfunol ar fferm Cwmrisca’r cynnydd mwyaf o ran argaeledd calsiwm, a hynny’n debygol o fod o ganlyniad i well hydoddiant maetholion.
- Ar fferm Cilthrew, llwyddodd y triniaethau Cyfunol, Biocat, a QLF Terrafed i gynyddu biomas microbaidd a resbiradaeth y pridd.
Ar y cyfan, roedd y newidiadau o ran prif faetholion y pridd yn fach, gan awgrymu bod yr amrywiaeth yn bennaf yn adlewyrchu amrywiad tymhorol neu amrywiaeth o ran y samplu yn hytrach nag effeithiau clir o ganlyniad i’r triniaethau.
Cynnyrch ac ansawdd y porthiant
Roedd y cynnydd mewn cynnyrch yn fach ac yn amrywiol ar y cyfan, gyda Kelp Crofters yn perfformio orau, gan sicrhau cynnydd mewn cynnyrch ar ddwy fferm a chynnal cynnyrch deunydd sych uwch yn gyffredinol.