BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Prosiect Crickie Farm

Prosiect Mewnbynnau Cynaliadwy ar Waith: Asesu effaith cynhyrchion biolegol ar ansawdd a chynnyrch glaswellt

Mae cydnabyddiaeth gynyddol o'r manteision posibl y gall mewnbynnau cynaliadwy fel triagl a hwmadau eu darparu o ran gwella ansawdd porthiant, lliniaru straen anfiotig, ac ategu cynnyrch cnydau, wrth leihau dibyniaeth ar fewnbynnau cemegol. Mae tuedd ar i fyny tebyg yn amlwg ar gyfer cynhyrchion biolegol a chynaliadwy eraill, sydd i’w gweld mewn astudiaethau academaidd a threialon ar ffermydd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Mawrth 2026
Diweddarwyd diwethaf:
26 Mawrth 2026
Statws:
Cyflawn
Wedi'i ffermio gan:
Roger & Dyddanwy Pugh
Lleoliad:
Crickie Farm, Llangorse
Sector:
Biff, Defaid

Trosolwg

Mae cydnabyddiaeth gynyddol o'r manteision posibl y gall mewnbynnau cynaliadwy fel triagl a hwmadau eu darparu o ran gwella ansawdd porthiant, lliniaru straen anfiotig, ac ategu cynnyrch cnydau, wrth leihau dibyniaeth ar fewnbynnau cemegol. Mae tuedd ar i fyny tebyg yn amlwg ar gyfer cynhyrchion biolegol a chynaliadwy eraill, sydd i’w gweld mewn astudiaethau academaidd a threialon ar ffermydd.

Ein nod yw rhoi rhai o'r cynhyrchion hyn ar brawf ar dair fferm o fewn rhwydwaith Ein Ffermydd - Cilthrew, Crickie a fferm Cwmrisga. Bydd pob fferm yn treialu chwe chynnyrch biolegol gwahanol, wedi'u chwalu ddwywaith drwy gydol y tymor tyfu, ac yn gwerthuso eu heffaith ddilynol ar ansawdd a chynnyrch glaswellt. Bydd y cynhyrchion yn cael eu chwalu gan ddefnyddio offeryn Tow and Fert, sydd wedi'i gynllunio'n benodol ar gyfer chwalu cynhyrchion biolegol. Bydd pob plot hefyd yn cael ei farcio â thri phwynt cyfeirio â lleoliad GPS ar gyfer samplu ac asesiadau cyson drwy gydol y tymor. Byddwn hefyd yn gadael plot heb ei drin i feintioli unrhyw enillion a gyflawnwyd a chanfod yr elw o ganlyniad i fuddsoddi yn ôl y cynhyrchion a ddefnyddir. 

Mae'r chwe chynnyrch fel a ganlyn:

  • Soil Point: Cyflyrydd pridd sy'n seiliedig ar asid hwmig a ffwlfig, sy'n darparu mwynau hybrin ac yn gwella strwythur y pridd i gefnogi ymsefydlu, twf ac ansawdd cnydau.
  • Sea2Soil: Hydrolysad protein pysgod sy'n cynnig asidau amino ac elfennau hybrin sydd ar gael yn rhwydd ar gyfer iechyd planhigion ac iechyd y pridd.
  • Slygen: Cymysgedd microbaidd o facteria a ffyngau buddiol sy'n gwella bioleg y pridd ac yn hyrwyddo twf planhigion.
  • Kelp Crofters: Cynnyrch sy'n seiliedig ar wymon sy'n llawn awcsinau, cytocininau, a giberelinau, wedi'i gynllunio i ysgogi twf a gwella gwytnwch i straenachoswyr.
  • QLF TerraFed: Triagl wedi'i hidlo sy'n cyflenwi siwgrau sydd ar gael i blanhigion i fwydo microbioleg planhigion a’r pridd.
  • BIOCAT: Technoleg newydd sy'n seiliedig ar ffag sy'n targedu bacteria niweidiol yn y pridd, gyda'r nod o ail-gydbwyso microbiomau’r pridd ac ategu cynnyrch a lefelau protein grawn.

Bydd y prosiect hefyd yn cyfrannu at ganlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy, gan gynnwys:

  • Gwneud y mwyaf o storio carbon
  • Lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr
  • Dŵr glân
  • Defnyddio adnoddau’n effeithlon

Llinell Amser Prosiect Diweddaraf

Adroddiad terfynol

Prif ganlyniadau

Roedd effeithiau cyffredinol y cynhyrchion biolegol yn amrywiol, gan ddangos dibyniaeth gref ar amodau’r safle.

  • Cynnyrch mwyaf cyson: Kelp Crofters oedd y cynnyrch gyda’r perfformiad mwyaf cyson, gan gyflawni cynnydd mewn cynhyrchiant ar ddau safle a gwelliannau mesuradwy mewn gweithgarwch microbaidd ar drydydd safle.
  • Gweithgarwch y pridd: Roedd gwelliannau i’w gweld fwyaf amlwg mewn gweithgarwch biolegol a chylchedu nitrogen, yn enwedig gyda chynhyrchion Sylgen, Kelp Crofters, a Sea2Soil.
  • Cynnyrch: Roedd ymatebion o safbwynt cynnyrch yn fach ar y cyfan, ond llwyddodd Kelp Crofters i gynnal lefel uchel o gynnyrch deunydd sych gyson. Ar fferm Crickie, cynhyrchodd Terrafed, Sylgen, a Sea2Soil ychydig mwy o ddeunydd sych na’r llain reoli.
  • Gwerth porthiant: Roedd dadansoddiadau meinwe’r dail a gwerth porthiant yn dangos cymeriant maetholion ac ansawdd porthiant o fewn yr ystod dymhorol, gydag ychydig iawn o amrywiaeth rhwng y triniaethau.

Cefndir

Mae cynhyrchion biolegol yn cael eu defnyddio fwyfwy yn y diwydiant amaeth i wella iechyd y pridd, cynyddu argaeledd maetholion a chefnogi twf glaswellt cynaliadwy. Mae astudiaethau blaenorol wedi awgrymu y gallai bio-symbylwyr ddangos effeithiau mwy amlwg mewn systemau ffrwythlondeb isel neu sy’n profi straen o’i gymharu â phriddoedd ffrwythlon iawn.

Diben y gwaith

Nod y prosiect oedd gwerthuso effeithiolrwydd chwe chynnyrch biolegol dethol ar berfformiad y pridd a’r glaswellt ar draws tair fferm amrywiol yng Nghymru yn ystod 2025.

Y nodau penodol oedd i:

  • Asesu effaith y cynhyrchion biolegol dethol ar lefelau maeth y pridd ac iechyd cyffredinol y pridd.
  • Gwerthuso gwelliannau o safbwynt twf glaswellt, cynnyrch ac ansawdd o dan wahanol driniaethau.
  • Cymharu perfformiad cynhyrchion biolegol ar draws tair fferm penodol.

Yr hyn a wnaed 

Cynhaliwyd y prosiect ar draws tair o’r ffermydd ar y rhwydwaith Ein Ffermydd (Cilthrew, Cwmrisca, a Crickie) i werthuso effeithiolrwydd chwe chynnyrch biolegol (Tabl 1) a thriniaeth gyfun (o bob un o’r cynhyrchion) yn erbyn llain reoli (heb driniaeth):

Tabl 1: Y chwe chynnyrch a ddefnyddiwyd yn ystod y prosiect a’u nodweddion 

CynnyrchNodweddion
Soil PointCyflyrydd pridd sy'n seiliedig ar asid hwmig a ffwlfig, sy'n darparu elfennau hybrin ac yn gwella strwythur y pridd i gefnogi ymsefydliad, twf ac ansawdd cnydau.
Sea2SoilHydrolysad protein pysgod sy'n cynnig asidau amino ac elfennau hybrin sydd ar gael yn rhwydd ar gyfer iechyd planhigion ac iechyd y pridd.
SylgenCymysgedd microbaidd o facteria a ffyngau buddiol sy'n gwella bioleg y pridd ac yn hybu twf planhigion.
Kelp CroftersCynnyrch sy'n seiliedig ar wymon sy'n llawn awcsinau, cytocininau, a giberelinau, wedi'i gynllunio i ysgogi twf a gwella gwytnwch i straenachoswyr.
QLF TerraFedTriagl wedi'i hidlo sy'n cyflenwi siwgrau sydd ar gael i blanhigion i fwydo microbioleg planhigion a’r pridd.
BIOCATTechnoleg newydd sy'n seiliedig ar ffag sy'n targedu bacteria niweidiol yn y pridd, gyda'r nod o ail-gydbwyso microbiomau’r pridd ac ategu cynnyrch a lefelau protein grawn.

Gwasgarwyd y cynhyrchion ddwywaith yn ystod y tymor ar gyfradd o 150L/ha o ddŵr gan ddefnyddio peiriant chwistrellu Tow and Fert Multi 500. Er mwyn lleihau rhagfarn o ganlyniad i ffactorau allanol, cafodd y triniaethau eu rhoi ar hap o fewn pob safle arbrofol. Amcangyfrifwyd canolrif y triniaethau’n seiliedig ar dri phwynt samplu fesul llain, a chafodd yr holl ddadansoddiadau data dilynol eu cwblhau gan Lancrop Laboratories UK.

Data a gasglwyd:

  • Samplau pridd: Casglwyd cyn y gwasgariad cyntaf ac ar ôl yr ail wasgariad. Mesurwyd gweithgarwch biolegol (e.e. resbiradaeth y pridd, biomas microbaidd), statws maetholion (elfennau sylweddol/elfennau hybrin), a rhinweddau’r pridd (e.e. deunydd organig, pH, CEC).
  • Samplau meinwe’r dail: Casglwyd 2-3 wythnos ar ôl gwasgaru pob cynnyrch i asesu cymeriant maetholion (N, P, K, Ca, Mg, S, Cu, Zn, Mn).
  • Dadansoddiad o werth porthiant: Dadansoddwyd samplau porthiant ar ôl yr ail wasgariad i asesu paramedrau ansawdd allweddol y porthiant (gan gynnwys Protein Crai (CP), Deunydd Sych (DM), Egni Metaboladwy (ME) a Ffibr (NDF/ADF)).
  • Mesur cynnyrch: Mesurwyd ar ôl yr ail wasgariad gan ddefnyddio 

Canlyniadau

Dangosodd y prosiect y gall cynhyrchion biolegol helpu i gynnal iechyd y pridd ac ansawdd y porthiant, ond ar y cyfan, roedd eu heffeithiau’n ganolig, yn anghyson ac yn ddibynnol iawn ar amodau amgylcheddol y safle.

Iechyd y pridd a chynnwys maetholion

  • Ar fferm Cwmrisca, llwyddodd Kelp Crofters a Sylgen i gynyddu biomas microbaidd a resbiradaeth, gan ddangos bod metaboledd microbaidd yn cael ei sbarduno yn y tymor byr
  • Dangosodd y driniaeth gyfunol ar fferm Cwmrisca’r cynnydd mwyaf o ran argaeledd calsiwm, a hynny’n debygol o fod o ganlyniad i well hydoddiant maetholion.
  • Ar fferm Cilthrew, llwyddodd y triniaethau Cyfunol, Biocat, a QLF Terrafed i gynyddu biomas microbaidd a resbiradaeth y pridd.

Ar y cyfan, roedd y newidiadau o ran prif faetholion y pridd yn fach, gan awgrymu bod yr amrywiaeth yn bennaf yn adlewyrchu amrywiad tymhorol neu amrywiaeth o ran y samplu yn hytrach nag effeithiau clir o ganlyniad i’r triniaethau.
 
Cynnyrch ac ansawdd y porthiant

Roedd y cynnydd mewn cynnyrch yn fach ac yn amrywiol ar y cyfan, gyda Kelp Crofters yn perfformio orau, gan sicrhau cynnydd mewn cynnyrch ar ddwy fferm a chynnal cynnyrch deunydd sych uwch yn gyffredinol.

 Dry matter yield (t DM/ha) following the second application of biological products at Crickie Farm.

Llinellau Amser Prosiect Blaenorol

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.