BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Prosiect Cwmcowddu

Datblygu’r platfform bori a chynyddu cynhyrchiant ac ansawdd silwair

Mae Cwmcowddu yn weithrediad glaswelltir 540 erw lewyrchus ac mae wedi ymrwymo i wneud y gorau o’i gynhyrchiant silwair er budd ei system dda byw amrywiol. Mae’r prosiect hwn yn archwilio dull deublyg: cyflwyno gwndwn meillion coch a gwerthuso effeithiolrwydd gwndwn silwair.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Mawrth 2026
Diweddarwyd diwethaf:
26 Mawrth 2026
Statws:
Cyflawn
Wedi'i ffermio gan:
Sian, Aled and Rhodri Davies
Lleoliad:
Cwmcowddu, Llangadog
Sector:
Llaeth, Dofednod, Defaid

Trosolwg

Mae Cwmcowddu yn weithrediad glaswelltir 540 erw lewyrchus ac mae wedi ymrwymo i wneud y gorau o’i gynhyrchiant silwair er budd ei system dda byw amrywiol. Mae’r prosiect hwn yn archwilio dull deublyg: cyflwyno gwndwn meillion coch a gwerthuso effeithiolrwydd gwndwn silwair.

Mae gwndwn meillion coch yn cynnig y potensial i wella cynnyrch deunydd sych a chynnwys protein ar yr un pryd. Mae eu gallu i sefydlogi nitrogen yn gallu hybu ffrwythlondeb y pridd, a gall eu gwreiddiau dyfnach wella’r gallu i wrthsefyll sychder. Trwy ymgorffori meillion coch yn ein cymysgeddau gwndwn presennol, ein nod yw sicrhau silwair mwy cytbwys a maethlon, gan wella iechyd a pherfformiad y da byw yn ogystal ag effeithlonrwydd cyffredinol y fferm yn y pen draw.

Ochr yn ochr â hyn, byddwn yn asesu hyfywedd gwndwn silwair, gan edrych ar eu potensial i gynyddu allbwn deunydd sych. Mae gwndwn silwair yn aml yn cynnwys rhywogaethau glaswellt cynhyrchiol iawn sy’n gallu cynhyrchu cnwd sylweddol. Mae’n bosibl y gallai’r dull hwn ein galluogi i wneud y mwyaf o gyfaint y silwair a gynhyrchir, gan sicrhau cyflenwad helaeth o borthiant i’n da byw.

Trwy gydweithio gydag arbenigwyr amaethyddol a monitro gofalus, byddwn yn gwerthuso effeithiolrwydd y ddau ddull er mwyn cyflawni ein nodau cynhyrchu silwair, gan baratoi’r ffordd ar gyfer dyfodol mwy cynaliadwy a chynhyrchiol i fferm Cwmcowddu.

Bydd potensial hefyd i’r gwndwn meillion coch besgi’r ŵyn o ganlyniad i bori’r hyn sy’n weddill ar ôl torri silwair heb fewnbynnau dwysfwyd.

Ychwanegiadau allweddol:

  • Gwndwn Meillion Coch: Egluro’r potensial ar gyfer gwella’r gallu i wrthsefyll sychder a gwella ffrwythlondeb y pridd o ganlyniad i sefydlogi nitrogen.
  • Gwndwn Silwair: Pwysleisio ar wneud y gorau o gynnyrch deunydd sych trwy rywogaethau glaswellt cynhyrchiol.

Bydd y prosiect hefyd yn cyfrannu at ganlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy gan gynnwys:

  • Defnyddio Adnoddau’n Effeithiol
  • Lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr
  • Tirweddau naturiol a’r amgylchedd hanesyddol gwarchodedig 
  • Safonau iechyd a lles anifeiliaid uchel

Llinell Amser Prosiect Diweddaraf

Adroddiad Terfynol

Rhagfyr 2024

  • Cafodd y gwndwn meillion coch a gwyn eu sefydlu ar ddiwedd yr haf ar fferm Cwmcowddu gan ddefnyddio dau ddull:
    • Dull Confensiynol: Aredig, trin ac ail hadu meillion coch a gwyn.
    • Drilio’n Uniongyrchol: Defnyddiwyd y dull hwn ar gae arall o feillion coch; fodd bynnag, roedd baich uchel o nematodau a thywydd heriol yn golygu bod 75% o’r cae wedi methu â sefydlu. 
  • Cymerwyd toriad silwair o’r gwndwn meillion ganol fis Medi; bwriedir cynnal dadansoddiad ar y samplau yn ystod y mis canlynol i asesu ansawdd a gwerth maethol.

Camau Nesaf?

  • Archwilio dulliau amgen ar gyfer lliniaru problemau nematodau mewn gwndwn meillion a gwella llwyddiant y cnwd i sefydlu at y dyfodol.
  • Ymgorffori canfyddiadau dadansoddiad silwair i’r gwaith cynllunio ar gyfer rheoli meillion a chynhyrchu silwair yn y dyfodol.

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.