Trosolwg
Mae Cwmcowddu yn weithrediad glaswelltir 540 erw lewyrchus ac mae wedi ymrwymo i wneud y gorau o’i gynhyrchiant silwair er budd ei system dda byw amrywiol. Mae’r prosiect hwn yn archwilio dull deublyg: cyflwyno gwndwn meillion coch a gwerthuso effeithiolrwydd gwndwn silwair.
Mae gwndwn meillion coch yn cynnig y potensial i wella cynnyrch deunydd sych a chynnwys protein ar yr un pryd. Mae eu gallu i sefydlogi nitrogen yn gallu hybu ffrwythlondeb y pridd, a gall eu gwreiddiau dyfnach wella’r gallu i wrthsefyll sychder. Trwy ymgorffori meillion coch yn ein cymysgeddau gwndwn presennol, ein nod yw sicrhau silwair mwy cytbwys a maethlon, gan wella iechyd a pherfformiad y da byw yn ogystal ag effeithlonrwydd cyffredinol y fferm yn y pen draw.
Ochr yn ochr â hyn, byddwn yn asesu hyfywedd gwndwn silwair, gan edrych ar eu potensial i gynyddu allbwn deunydd sych. Mae gwndwn silwair yn aml yn cynnwys rhywogaethau glaswellt cynhyrchiol iawn sy’n gallu cynhyrchu cnwd sylweddol. Mae’n bosibl y gallai’r dull hwn ein galluogi i wneud y mwyaf o gyfaint y silwair a gynhyrchir, gan sicrhau cyflenwad helaeth o borthiant i’n da byw.
Trwy gydweithio gydag arbenigwyr amaethyddol a monitro gofalus, byddwn yn gwerthuso effeithiolrwydd y ddau ddull er mwyn cyflawni ein nodau cynhyrchu silwair, gan baratoi’r ffordd ar gyfer dyfodol mwy cynaliadwy a chynhyrchiol i fferm Cwmcowddu.
Bydd potensial hefyd i’r gwndwn meillion coch besgi’r ŵyn o ganlyniad i bori’r hyn sy’n weddill ar ôl torri silwair heb fewnbynnau dwysfwyd.
Ychwanegiadau allweddol:
- Gwndwn Meillion Coch: Egluro’r potensial ar gyfer gwella’r gallu i wrthsefyll sychder a gwella ffrwythlondeb y pridd o ganlyniad i sefydlogi nitrogen.
- Gwndwn Silwair: Pwysleisio ar wneud y gorau o gynnyrch deunydd sych trwy rywogaethau glaswellt cynhyrchiol.
Bydd y prosiect hefyd yn cyfrannu at ganlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy gan gynnwys:
- Defnyddio Adnoddau’n Effeithiol
- Lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr
- Tirweddau naturiol a’r amgylchedd hanesyddol gwarchodedig
- Safonau iechyd a lles anifeiliaid uchel
Llinell Amser Prosiect Diweddaraf
Adroddiad Terfynol
- Cafodd y gwndwn meillion coch a gwyn eu sefydlu ar ddiwedd yr haf ar fferm Cwmcowddu gan ddefnyddio dau ddull:
- Dull Confensiynol: Aredig, trin ac ail hadu meillion coch a gwyn.
- Drilio’n Uniongyrchol: Defnyddiwyd y dull hwn ar gae arall o feillion coch; fodd bynnag, roedd baich uchel o nematodau a thywydd heriol yn golygu bod 75% o’r cae wedi methu â sefydlu.
- Cymerwyd toriad silwair o’r gwndwn meillion ganol fis Medi; bwriedir cynnal dadansoddiad ar y samplau yn ystod y mis canlynol i asesu ansawdd a gwerth maethol.
Camau Nesaf?
- Archwilio dulliau amgen ar gyfer lliniaru problemau nematodau mewn gwndwn meillion a gwella llwyddiant y cnwd i sefydlu at y dyfodol.
- Ymgorffori canfyddiadau dadansoddiad silwair i’r gwaith cynllunio ar gyfer rheoli meillion a chynhyrchu silwair yn y dyfodol.