BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Ail-gofrestrwch gyda Cyswllt Ffermio a symudwch i GOV.UK One Login

Mae Llywodraeth Cymru yn symud o Borth y Llywodraeth i  GOV.UK One Login ar gyfer pob gwasanaeth cymorth gwledig digidol. Bydd y newid hwn yn effeithio ar sut rydych yn cael mynediad at wasanaethau Cyswllt Ffermio.

Gweithredwch nawr i sicrhau y gallwch barhau i gael mynediad at yr holl gymorth sydd ar gael.

Ail gofrestru gyda Cyswllt Ffermio
  • Crëwch eich cyfrif One Login GOV.UK drwy ymweld â: Mewngofnodi ar Taliadau Gwledig Cymru (RPW) Ar-lein | LLYW.CYMRU
  • Unwaith y bydd eich cyfrif One Login wedi’i sefydlu, byddwch yn gallu ailgofrestru gyda Cyswllt Ffermio – Gallwch wneud hyn drwy RPW ar-lein, unwaith y bydd gennych gyfrif One Login.
  • Bydd angen eich rhif CON presennol arnoch hefyd yn ystod y broses ailgofrestru. (Mae llythyr wedi’i anfon at bob defnyddiwr yn rhestru pob rhif CON sy’n gysylltiedig â’u busnes.)

Bydd gweithredu nawr yn sicrhau na fyddwch yn colli mynediad at wasanaethau Cyswllt Ffermio na’ch cofnod Storfa Sgiliau. 

Mae mynediad at eich cofnod Storfa Sgiliau hanesyddol yn hanfodol os ydych yn gwneud cais i fod yn rhan o’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Os oes gennych unrhyw gwestiwn neu angen cymorth, gall tîm y Ganolfan Wasanaeth eich cynorthwyo – cysylltwch â nhw ar 03456 000 813.

Canllaw Cam Wrth Gam ar gyfer Ail-gofrestru gyda Cyswllt Ffermio, trwy RPW Ar-lein

Ydych chi wedi anghofio eich rhif CON? Llenwch y wybodaeth yn y ffurflen isod, gall Cyswllt Ffermio eich helpu!

Digwyddiad galw-heibio anffurfiol i ffermwyr gwrdd â’u Swyddog Datblygu Cyswllt Ffermio a ail-gofrestru gyda rhaglen Cyswllt Ffermio.


I gael cymorth neu gyngor busnes ffoniwch

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30yb a 5yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.