BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Gwerthuso technegau tyfu mwsogl mawn ar raddfa cae - Adroddiad terfynol

Nod: 

Treialu gwahanol ddulliau o sefydlu migwyn, arsylwi a deall y gofynion ar gyfer cynhyrchu'r planhigyn ar raddfa fawr yng Nghymru. 

Cefndir 

Mae migwyn yn grŵp o fwsoglau a geir yn gyffredin mewn amgylcheddau gwlyb ac asidig fel corsydd a gwlyptiroedd. Mae'r rhywogaeth blanhigyn di wraidd yn tynnu dŵr wyneb i mewn trwy ei gennau, gan amsugno hyd at 20 gwaith ei bwysau mewn dŵr. Oherwydd y priodweddau cadw dŵr trawiadol hyn, fe'i defnyddir ar hyn o bryd yn y sector garddwriaeth fel ffordd o wella’r pridd ac mewn cymwysiadau addurniadol fel leinin ar gyfer basgedi crog. Mae gan y planhigyn hefyd wead ffibrog sy'n ddefnyddiol ar gyfer awyriad mewn planhigion mewn potiau. 

Gyda Llywodraeth y DU yn addo rhoi’r gorau i ddefnyddio mawn mewn cynhyrchion garddio erbyn 2030, mae ymgyrch ar y gweill i ddod o hyd i gyfryngau tyfu sy’n llawn maetholion i gefnogi’r sector garddwriaeth y tu hwnt i’r newidiadau hyn. Mae arbenigwyr yn y diwydiant yn credu y gallai migwyn fod yn gystadleuydd. 

Fel cynhyrchydd madarch, mae gan James Scrivens o fferm Coed Talylan fynediad at symiau mawr o gompost madarch wedi'i ddefnyddio ac roedd ganddo ddiddordeb mewn dod o hyd i ddefnydd ar gyfer y cynnyrch gwastraff hwn o'i fusnes presennol. Gyda'i briodweddau awyru a chadw dŵr, mae gan figwyn y potensial i gael ei gyfuno â'r compost madarch wedi'i ddefnyddio i greu cyfrwng tyfu effeithiol a chynaliadwy. 

Fodd bynnag, cyn y gellir archwilio cyfrwng tyfu, y cam cyntaf yw nodi pa mor dda y gellir sefydlu migwyn mewn lleoliad cynhyrchu bwriadol yng Nghymru. 

Yr arbrawf 

I ddechrau, nod yr arbrawf hwn oedd asesu effeithiolrwydd dau ddull o blannu migwyn, plannu mewn hambwrdd gyda chelloedd unigol a chwistrellu hylif ar fwsogl wedi'i dorri, dros gae heb ei drin o'r blaen ar fferm Coed Talylan. Fodd bynnag, oherwydd argaeledd cynnyrch ac amseru, addaswyd yr arbrawf i gymharu plannu mewn hambwrdd gyda chelloedd unigol, a mwsogl a gafwyd o'r ardaloedd coetir ar y fferm. Os yw'n llwyddiannus, gall nodi dulliau graddadwy ar gyfer tyfu migwyn i gefnogi cymwysiadau garddwriaethol mwy.

 

moss

 

Ffigur. 1 – Planhigion ifanc wedi'u darparu ar rolyn papur i'w plannu allan 

Cyflenwyd planhigion ifanc o figwyn (ffigur 1) i fferm Coed Talylan ar ddiwedd 2025, yn barod i'w cyflwyno ddechrau 2026 (ffigur 2). Darparwyd y rhain gan BeadaMoss, cwmni yn y DU sy'n arbenigo mewn cynhyrchu migwyn cynaliadwy wedi’i micro-gynhyrchu. Y safle ar gyfer yr arbrawf cychwynnol ar fferm Coed Talylan yw llain 20mx 3m o dir llawn dŵr, sydd wedi'i orchuddio â phlastig du dros y gaeaf i gael gwared â glaswellt, chwyn a brwyn cyn plannu. 

Bydd y gwaith monitro’n canolbwyntio ar lefelau dŵr y pridd a pH i bennu'r amodau gorau posibl ar gyfer tyfu migwyn. Gwneir cymariaethau hefyd rhwng y planhigion ifanc a luosogwyd a mwsogl sy'n deillio'n naturiol o'r tir. 

 

Moss being overwintered in the greenhouse ready to be planted out

 

Ffigur 2. Mwsogl yn cael ei aeafu yn y tŷ gwydr yn barod i'w blannu allan 

Bydd Coed Talylan yn darparu'r wybodaeth ddiweddaraf am yr arbrawf drwy eu gwefan: https://coedtalylan.org.uk/sphagnum-farming-field-scale-trials/ 


I gael cymorth neu gyngor busnes ffoniwch

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30yb a 5yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.