Canlyniadau allweddol:
- DLWG tebyg rhwng Smartshot a Troy ar gyfer 8 Gorffennaf–1 Medi 2025: Smartshot 0.150 kg/dydd o’i gymharu â Troy 0.148 kg/dydd.
- Cost y brechlyn dros 4 mis ar 1 ml/oen: Troy £0.41 (dau bigiad) o’i gymharu â Smartshot £1.12 (pigiad sengl) — roedd Troy yn £0.71 rhatach fesul oen (heb gynnwys TAW).
- Llafur dangosol dros 4 mis: Smartshot yn arbed ≈3.4 munud/ oen o’i gymharu â Troy.
- Gwerthwyd yr ŵyn o leiaf fis yn gynharach na'r flwyddyn flaenorol; pris cyfartalog £10 y pen yn uwch na'r llynedd.
Cefndir:
Mae Cilhaul, Trefeglwys yn rheoli risg o ddiffyg cobalt hysbys mewn ŵyn. Er mwyn cymharu opsiynau ymarferol ar gyfer ychwanegu fitamin B12, gwerthusodd y fferm ddau bigiad hir-weithredol, sef: SMARTSHOT B12 a Troy Vitamin B12. Nod y prosiect oedd monitro perfformiad twf (DLWG) o'r cyfnod rhwng trin yr anifeiliaid a’u gwerthu ochr yn ochr â chost y cynnyrch fesul oen a gofynion llafur dangosol.
Diben y gwaith:
- Cymharu twf ŵyn (DLWG) ar gyfer SMARTSHOT B12 yn erbyn Troy Vitamin B12 o dan amodau lle ceir diffyg cobalt.
- Meintioli cost cynnyrch fesul oen ar gyfer pob opsiwn dros gwrs chwe mis (dos 1 ml).
- Asesu gofynion amser trin ar gyfer pob opsiwn a chyferbynnu'r ddau â threfn dosio geneuol gonfensiynol.
Beth wnaethom ni:
Nodwyd ŵyn a anwyd ym mis Mawrth adeg marcio ar 6 Mai 2025. Sefydlwyd grwpiau i fod yn gytbwys o ran rhyw a phwysau byw cychwynnol, yna fe’u dyrannwyd i naill ai SMARTSHOT B12 neu Troy Vitamin B12. Nodwyd grwpiau triniaeth adeg eu trin gan ddefnyddio marc gweledol ar yr ysgwydd i sicrhau gwahaniad clir. Ym mis Mehefin (a’r anifeiliaid yn oddeutu tri mis oed), cafodd yr ŵyn y cynnyrch a ddyrannwyd iddynt: sef SMARTSHOT B12 ar ddos sengl o 1 ml y bwriadwyd iddo gwmpasu cyfnod o chwe mis, neu Troy Vitamin B12 ar 1 ml a roddwyd bob dau fis. Bob adeg trin yr ŵyn, cofnodwyd eu hunaniaeth, rhyw, triniaeth a’u pwysau byw. Cafodd yr ŵyn eu pwyso ar 8 Gorffennaf 2025 ac eto ar 1 Medi 2025 gan ddefnyddio offer pwyso digidol. Cyfrifwyd cynnydd pwysau byw dyddiol cyfartalog (DLWG) ar gyfer y cyfnod o'r driniaeth hyd at adeg pwyso’r ŵyn ddechrau’r hydref, sef y cyfnod rhwng trin ŵyn stôr a’u gwerthu. Ochr yn ochr â data twf, cofnodwyd y defnydd o’r cynnyrch a’r amser trin i ganiatáu cymharu cost fesul oen a’r gofynion llafur ymarferol rhwng y ddwy strategaeth chwistrellu a threfn dosio geneuol gonfensiynol.
Canlyniadau:
- Roedd y grwpiau yn gytbwys adeg marcio (6 Mai 2025):
- Ŵyn benyw — Smartshot 17.73 ± 0.24 kg; Troy 17.60 ± 0.23 kg.
- Ŵyn gwryw — Smartshot 17.80 ± 0.23 kg; Troy 17.53 ± 0.21 kg.
- Rhwng yr adeg rhoi triniaeth i’r adeg pwyso ddechrau’r hydref (8 Gorffennaf–1 Medi 2025), roedd y DLWG cyfartalog yn debyg rhwng y triniaethau (Smartshot 0.150 kg/dydd; Troy 0.148 kg / dydd); nid oedd y gwahaniaeth yn ystadegol arwyddocaol (SED 0.0031; p = 0.453).
- Perfformiad gwerthu’r ŵyn stôr: gwerthwyd 2,500 o ŵyn stôr (yr un nifer â'r flwyddyn flaenorol); gwerthwyd y 1,000 gyntaf ar 10 Awst; gwerthwyd pob un erbyn 14 Hydref; nododd y ffermwr fod yr ŵyn wedi'u gwerthu o leiaf fis yn gynharach na'r flwyddyn flaenorol, a chyflawnwyd £10 y pen ar gyfartaledd yn fwy na'r llynedd (cofnodion gwerthiannau’r fferm).
- Cost y brechlyn (heb gynnwys TAW):
- Troy £101.50 fesul 500ml
- Smartshot £558.60 fesul 500ml
- Amcangyfrif o'r gost fesul oen dros 4 mis ar 1 ml: Troy £0.41 (dau bigiad) o’i gymharu â Smartshot £1.12 (pigiad sengl) - roedd Troy ≈£0.71 yn rhatach fesul oen.
Tabl 1: Amcangyfrifon bras o'r amser a dreuliwyd fesul cwrs fesul oen
| Confensiynol (dosio geneuol) | Smartshot | Troy |
Amser (munudau fesul oen)* | 1.2 | 1.7 | 1.7 |
Dosau sydd eu hangen dros chwe mis | 4 | 1 | 2 |
Cyfanswm y cwrs (munudau fesul oen) | 4.9 | 1.7 | 3.4 |
*Mae’r ffigurau llafur yn rhai dangosol yn unig, ac yn deillio o dystebau’r ffermwr.
- Mae Smartshot yn arbed ≈3.4 munud fesul oen o gymharu â Troy dros chwe mis. O gymharu â dosio geneuol confensiynol, mae Smartshot yn arbed ≈3.2 munud ac mae Troy yn arbed ≈1.5 munud fesul oen.
Sut i’w roi ar waith ar eich fferm chi:
- Dylech gael sgwrs â'ch milfeddyg yn gyntaf: cadarnhewch y risg cobalt/Fitamin B12 o hanes y fferm a'r tymor cyfredol; lle y bo'n briodol, cyfiawnhewch eich penderfyniadau gyda phrofion gwaed diweddar ac adroddiadau labordy, ynghyd ag unrhyw ganlyniadau o brofion porthiant / pridd perthnasol.
- Dewiswch gynllun ychwanegu gyda'ch milfeddyg a fydd yn cyd-fynd â'ch calendr trin a'ch porfa chi: Smartshot (sengl 1 ml am ~ 6 mis) neu Troy (1 ml gan gynllunio i’w roi eto bob ~ 2 fis).
- Cynlluniwch y diwrnod trin: dylid trefnu’r triniaethau i gyd-fynd â thasgau arferol eraill (diddyfnu, didoli, dosio) i leihau faint y caiff yr anifeiliaid eu trin.
- Adolygu: Dylid olrhain DLWG i fonitro llwyddiant ac adolygu hyn gyda'ch milfeddyg.
