BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Canllawiau ar gyfer paratoi CV

gwnewch yn siŵr fod eich ‘curriculum vitae’ yn denu sylw – am y rhesymau cywir! 

Ydych chi angen cv ‘ardderchog’ a fydd yn tynnu sylw darpar gyflogwr –  neu unrhyw un arall y mae angen i chi a’ch cymwysterau greu argraff arnynt - am y rhesymau cywir?   

Yn hytrach na dim ond rhestru beth rydych chi wedi'i wneud a phryd, bydd cv rhagorol yn dangos, mewn ychydig eiriau, yr hyn rydych chi wedi'i ddysgu neu ei gyflawni'n bersonol.  

Gallai eich helpu i gyrraedd y rhestr fer a chael eich gwahodd am y cyfweliad hollbwysig hwnnw!

Dechreuwch baratoi eich cv heddiw gan sicrhau ei fod yn denu sylw.

Mae'r canllawiau yma’n cynnwys awgrymiadau’n dweud sut a ble i ddechrau; fformatio; pa wybodaeth i'w chynnwys; trefn gronolegol a ‘chynghorion’ defnyddiol. 

Bydd y cv enghreifftiol yma’n eich helpu i feddwl am eich sgiliau, eich nodweddion, eich profiad a’r hyn yr ydych wedi’i gyflawni a'r ffordd orau o'u gosod allan.  Bydd yn rhoi syniadau i chi sut i sicrhau bod eich CV yn dangos yr hyn y gallech ei gyfrannu i'r swydd yr ydych yn gwneud cais amdani a pham yr ydych yn haeddu cael cyfweliad.

Addaswch a chadwch y templed ar-lein yma i greu eich cv ‘safonol’ newydd y gallwch ei diweddaru neu ei ‘theilwra’ ar gyfer unrhyw swydd y byddwch yn gwneud cais amdani yn y dyfodol. 

Third-party cookies must be allowed for this video to play here.

Gwyliwch y fideo hwn ar YouTube
Video length: 1:01

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.