BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Event

Lluosogi planhigion ar gyfer gerddi masnachol

Ymunwch â ni ym Mremenda Isaf am weithdy ymarferol ar gyfer daliadau o bob maint, gan archwilio theori ac ymarfer tyfu planhigion, modiwlau a gwreiddiau noeth (planhigion wedi’u trawsblannu). Gwrandewch ar Iain Tolhurst am sut i ddatblygu'r sgìl garddwriaethol mwyaf hanfodol hwn.
Event type:
Dyddiad ac amser:
-
Lleoliad:
Bremenda Isaf

Event overview

Ymunwch â ni ym Mremenda Isaf am weithdy ymarferol ar gyfer daliadau o bob maint, gan archwilio theori ac ymarfer tyfu planhigion, modiwlau a gwreiddiau noeth (planhigion wedi’u trawsblannu). Gwrandewch ar Iain Tolhurst am sut i ddatblygu'r sgìl garddwriaethol mwyaf hanfodol hwn. Ar ôl cael MBE am ei wasanaethau i arddwriaeth, mae gan Iain dros 40 mlynedd o brofiad o arddio masnachol organig ar ei safle ar Ystâd Hardwick yn Swydd Rydychen.

Efallai eich bod yn ehangu faint o blanhigion yr hoffech eu tyfu, neu hoffech gael mwy o reolaeth ar eich system. Efallai eich bod yn teimlo'r angen i leihau eich ôl troed carbon neu eisiau meithrin eich cnydau bwyd yn y dyfodol o'r cychwyn cyntaf. Dewch draw i rannu eich profiadau gyda thyfwyr eraill sy'n cynyddu eu cynhyrchiant llysiau.

Amcanion Dysgu

·         Deall gofynion maeth cnydau llysiau.

·         Dysgu’r gwahaniaethau rhwng systemau tyfu planhigion modiwl a phlanhigion wedi’u trawsblannu (gwreiddiau noeth) a'u manteision a'u hanfanteision.

·         Cael gwybodaeth am offer a chyfleusterau ar gyfer lluosogi a thyfu cnydau llysiau.

Gweithdy, beth i'w ddisgwyl gan gompost/swbstrad planhigion. Cyfle i weithio mewn grwpiau i benderfynu ar y cyfrwng planhigion delfrydol.

Dyddiad ac amser

Dyddiad Amser Lleoliad Cost Speaker Booking details
Llun, 23 Mar 2026 10:30yb - 4yp Bremenda Isaf FREE
- Book online

Cyswllt

Enw:
horticulture@lantra.co.uk

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg / We welcome correspondence in Welsh


What's On

Digwyddiad galw-heibio anffurfiol i ffermwyr gwrdd â’u Swyddog Datblygu Cyswllt Ffermio a ail...

Ymunwch â ni yn Ty Coch, Llangynhafal ar gyfer digwyddiad ymarferol ar y fferm gyda Andre Van...

Ymunwch â ni ar fferm Hendre, Llangefni ar gyfer digwyddiad ymarferol ar y fferm gyda Andre Van...

Ymunwch â ni ar fferm Penlanlas Isaf, Llambed, ar gyfer digwyddiad ymarferol ar y fferm gyda Andre...


I gael cymorth neu gyngor busnes ffoniwch

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30yb a 5yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.