- Event type:
- Dyddiad ac amser:
- -
- Lleoliad:
- Bremenda Isaf
Event overview
Ymunwch â ni ym Mremenda Isaf am weithdy ymarferol ar gyfer daliadau o bob maint, gan archwilio theori ac ymarfer tyfu planhigion, modiwlau a gwreiddiau noeth (planhigion wedi’u trawsblannu). Gwrandewch ar Iain Tolhurst am sut i ddatblygu'r sgìl garddwriaethol mwyaf hanfodol hwn. Ar ôl cael MBE am ei wasanaethau i arddwriaeth, mae gan Iain dros 40 mlynedd o brofiad o arddio masnachol organig ar ei safle ar Ystâd Hardwick yn Swydd Rydychen.
Efallai eich bod yn ehangu faint o blanhigion yr hoffech eu tyfu, neu hoffech gael mwy o reolaeth ar eich system. Efallai eich bod yn teimlo'r angen i leihau eich ôl troed carbon neu eisiau meithrin eich cnydau bwyd yn y dyfodol o'r cychwyn cyntaf. Dewch draw i rannu eich profiadau gyda thyfwyr eraill sy'n cynyddu eu cynhyrchiant llysiau.
Amcanion Dysgu
· Deall gofynion maeth cnydau llysiau.
· Dysgu’r gwahaniaethau rhwng systemau tyfu planhigion modiwl a phlanhigion wedi’u trawsblannu (gwreiddiau noeth) a'u manteision a'u hanfanteision.
· Cael gwybodaeth am offer a chyfleusterau ar gyfer lluosogi a thyfu cnydau llysiau.
Gweithdy, beth i'w ddisgwyl gan gompost/swbstrad planhigion. Cyfle i weithio mewn grwpiau i benderfynu ar y cyfrwng planhigion delfrydol.
Dyddiad ac amser
| Dyddiad | Amser | Lleoliad | Cost | Speaker | Booking details |
|---|---|---|---|---|---|
| Llun, 23 Mar 2026 | 10:30yb - 4yp | Bremenda Isaf |
FREE |
- | Book online |
Cyswllt
- Enw:
- horticulture@lantra.co.uk
- Email:
- horticulture@lantra.co.uk
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg / We welcome correspondence in Welsh
What's On
Digwyddiad galw-heibio anffurfiol i ffermwyr gwrdd â’u Swyddog Datblygu Cyswllt Ffermio a ail...
Ymunwch â ni yn Ty Coch, Llangynhafal ar gyfer digwyddiad ymarferol ar y fferm gyda Andre Van...
Ymunwch â ni ar fferm Hendre, Llangefni ar gyfer digwyddiad ymarferol ar y fferm gyda Andre Van...
Ymunwch â ni ar fferm Penlanlas Isaf, Llambed, ar gyfer digwyddiad ymarferol ar y fferm gyda Andre...