BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Amdanon ni

Mae ein rhaglen yn cynnig cefnogaeth sy’n trawsnewid rhagolygon busnes miloedd o ffermwyr a choedwigwyr.

Mae nifer o’r gwasanaethau wedi eu hariannu yn llawn, tra bod eraill yn cael eu hariannu hyd at 80%

Er mwyn cael budd o’r cyfan sydd ar gael, bydd raid i chi gofrestru am y rhaglen. Bydd angen i’r rhai oedd wedi cofrestru ar y rhaglen flaenorol ail-gofrestru.

Gwiriwch y meini prawf cymhwysedd yma.

Gyda’n cefnogaeth ni gallech:

  • gael budd o gefnogaeth fusnes cymhorthdaledig, wedi ei deilwrio i’ch anghenion busnes
  • leihau taliadau allan a chynyddu effeithlonrwydd ar draws pob maes o’ch busnes
  • feincnodi eich perfformiad a gweithio tuag at gynnydd a thwf
  • adnabod meysydd i’w gwella a dod o hyd i atebion i broblemau
  • ddatblygu eich sgiliau fel rhan o’n rhaglen datblygiad proffesiynol parhaus/dysgu gydol oes
  • gael gwybod am y datblygiadau technolegol diweddaraf trwy ddatblygiadau yn y diwydiant a’r prosiectau ymchwil diweddaraf
  • rhannu arfer da a chael budd o wybodaeth ffermwyr eraill, arbenigwyr y diwydiant ac ymchwil academaidd
  • gael eich ysbrydoli gan syniadau newydd a dod o hyd i ffyrdd mwy effeithlon a blaengar o weithio

Ail-gofrestrwch gyda Cyswllt Ffermio a symudwch i GOV.UK One Login

Mae Llywodraeth Cymru yn symud o Borth y Llywodraeth i GOV.UK One Login ar gyfer pob gwasanaeth cymorth gwledig digidol. Bydd y newid hwn yn effeithio ar sut rydych yn cael mynediad at wasanaethau Cyswllt Ffermio.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.