BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Mentor

Lisa Mair Roberts

farming connect logo
Lleoliad:
Powys
Sector:
Biff, Arallgyfeirio, Defaid
Specialism:
Gweinyddiaeth a Gwaith Papur, Iechyd a Lles Anifeiliaid, Meincnodi, Cymorth TGCh, Arloesi, Ffermio Adfywiol, Twristiaeth

Pam y byddai Lisa yn fentor effeithiol

  • Mae Lisa Roberts yn cyfuno gwybodaeth dechnegol helaeth a sgiliau arwain prosiectau â phrofiad ymarferol o redeg fferm bîff a defaid mynydd a’r ucheldir. Yn gyn aelod uwch o dîm technegol cig coch Cyswllt Ffermio ac yn fentor ffermio, mae ganddi flynyddoedd lawer o brofiad o weithio'n uniongyrchol gyda ffermwyr, arbenigwyr, contractwyr, sefydliadau ymchwil a rhanddeiliaid amaethyddol eraill.
  • Mae hyn wedi rhoi gwybodaeth eang i Lisa am iechyd a rheoli da byw, iechyd y pridd a glaswelltir, technolegau sy'n dod i'r amlwg a ffermio cynaliadwy ac adfywiol. Mae hi'n gyfathrebwr rhagorol, yn deall blaenoriaethau Llywodraeth Cymru a bydd yn eich annog i ystyried systemau a all wella effeithlonrwydd a pherfformiad.
  • Mae gan Lisa brofiad helaeth o arbrofi gyda thechnegau, cynhyrchion ac arloesiadau newydd ac mae'n deall sut y gallant weithio'n ymarferol. Mae hi'n dod â'r profiad hwn i'w rôl fentora, gan gydnabod bod pob fferm yn wahanol a bod yn rhaid i ddulliau newydd wneud synnwyr busnes cadarn.
  • Mae Lisa a'i gŵr yn rhedeg menter bîff a defaid ar eu fferm fynydd deuluol yn ne Eryri, ochr yn ochr â busnes arallgyfeirio twristiaeth lwyddiannus sy'n cynnwys bwthyn gwyliau a dwy uned glampio. Mae Lisa yn ymwneud yn agos â rhedeg pob agwedd ymarferol, gan gynnwys tasgau o ddydd i ddydd gyda da byw, rheolaeth ariannol a busnes, cydymffurfio, cadw cofnodion, marchnata a’r cyfryngau cymdeithasol.
  • Mae'r fferm yn cynnwys tir mynydd ac ucheldir, ardaloedd a ddynodwyd yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI), a bloc ychwanegol o laswelltir wedi'i wella'n bennaf ger Machynlleth. Mae'r fenter ddefaid yn cynnwys mamogiaid Mynydd Cymreig (math Meirionnydd) a Texel croes, gan wneud y defnydd mwyaf o borthiant cartref. Mae'r fenter bîff yn cynnwys magu lloi bîff o wartheg llaeth hyd nes eu bod tua 10–12 mis oed.
  • Mae ffermio cynaliadwy yn ganolog i ddull Lisa, gyda ffocws ar ddefnydd cynhyrchiol o adnoddau naturiol wrth wella pridd, glaswelltir, gwrychoedd ac amgylchedd ehangach y fferm.
  • Bum mlynedd yn ôl, daeth Lisa a'i gŵr yn un o'r ffermydd masnachol cyntaf yng Nghymru i ymgymryd ag adfer mawndiroedd a chynhyrchu incwm trwy gredydau carbon o dan y Cod Mawndiroedd. Mae hyn yn darparu profiad gwerthfawr uniongyrchol o reoli amgylcheddol, marchnadoedd carbon ac integreiddio cyfleoedd newydd â busnes fferm cynhyrchiol.
  • Mae Lisa yn eiriolwr cadarnhaol dros ffermwyr sy’n cymryd rhan yn y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS). Ar ôl paratoi tystiolaeth ar gyfer y lefel Sylfaenol ar ei fferm ei hun, mae hi'n credu nad yw ffurfioli a dangos arferion da presennol mor heriol nac yn cymryd cymaint o amser ag y mae rhai ffermwyr yn ei ofni ac mae'n obeithiol ynghylch cyfleoedd ychwanegol y bydd y cynllun yn eu cynnig wrth iddo ddatblygu.

Busnes fferm cyfredol

  • Fferm fynydd ac ucheldir 380 hectar gydag ardaloedd Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ynghyd â glaswelltir wedi'i wella yn bennaf ger Machynlleth. 
  • Oddeutu 650 o famogiaid Mynydd Cymreig (math Meirionnydd) a 280 o famogiaid Texel croes, sy’n cael eu rheoli i wneud y mwyaf o ddwysfwyd a dyfir gartref.
  • Fel rhan o’r fenter bîff maent yn prynu lloeau bîff o wartheg llaeth o ffermydd lleol a’u magu ar fwced ac maent yn cael eu gwerthu drwy farchnadoedd lleol yn 10-12 mis oed.
  • Prosiect adfer mawndir sy’n cynhyrchu incwm trwy gredydau carbon 
  • Bwthyn gwyliau a dwy uned glampio sy’n darparu menter arallgyfeirio lwyddiannus.

Cymwysterau, sgiliau a phrofiad perthnasol

BSc Amaethyddiaeth a Gwyddor Anifeiliaid: Prifysgol Aberystwyth

Hyfforddiant proffesiynol ychwanegol

  • Dadansoddiad Busnes Fferm, Prifysgol Harper Adams
  • Sgiliau Arweinyddiaeth a Thîm Lefel 2 LM
  • Cwrs Hwyluso drwy Brifysgol Aberystwyth
  • Hyfforddiant ar y cyfryngau

Cyngor Gorau

Mae ffermio’n gynaliadwy ac yn effeithlon yn gwella proffidioldeb wrth amddiffyn yr adnoddau naturiol y mae eich busnes yn dibynnu arnynt. Mae gwybod sut mae’r busnes a’r da byw yn perfformio yn hanfodol er mwyn rheoli’n effeithiol a gwneud newidiadau lle bo angen.”

"Gwybod beth i anelu ato a pheidiwch ag ofni ceisio cymorth ac arweiniad pan fydd ei angen arnoch.


I gael cymorth neu gyngor busnes ffoniwch

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30yb a 5yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.