BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Mentor

Jessi Stephens

Jessi Stephens
Lleoliad:
Blaenau Gwent
Sector:
Biff, Llaeth, Arallgyfeirio, Moch
Specialism:
Gweinyddiaeth a Gwaith Papur, Iechyd a Lles Anifeiliaid, Rheoli a chynllunio busnes, Gwerthu'n Uniongyrchol, Mentrau ar y Cyd, Ffermio Adfywiol

Pam y byddai Jessi yn fentor effeithiol

  • Mae Jessi yn frwd dros ffermio adfywiol ac yn profi y gall ffermwyr sy'n gwneud y defnydd gorau o'u tir, eu da byw a chyfleoedd yn y farchnad leol fod yn gynaliadwy ac yn broffidiol. 

  • Mae'r newydd-ddyfodiad Jessi a'i gŵr sydd y bedwaredd genhedlaeth i ffermio wedi adeiladu eu busnes sydd wedi arallgyfeirio o frîd prin, wedi'i ariannu'n annibynnol yng Ngwent o'r dechrau. Gan rentu tir a siediau i ddechrau tra bod y ddau yn parhau â'u gyrfaoedd, symudon nhw i fferm 70 erw ar denantiaeth gyda'r Cyngor yn 2022. Er gwaethaf porfa wael, gor-bori a phorfa gywasgedig ac ychydig iawn o adeiladau, maen nhw wedi datblygu busnes ffyniannus, sy'n dod yn fwyfwy hunangynhaliol. 

  • Mewn galw mawr fel siaradwr ar faterion bwyd a ffermio, mae Jessi yn cyfuno profiad ffermio ymarferol ag ethos busnes cryf, sgiliau cyfathrebu, rhwydweithio a hwyluso. Roedd ei gyrfa flaenorol fel cerddor proffesiynol ac arweinydd yn cynnwys arwain grwpiau a chyflwyno hyfforddiant - sgiliau y mae hi bellach yn eu defnyddio trwy ei gwaith gyda ffermwyr a rhanddeiliaid eraill. 

  • Mae ei dull yn seiliedig ar 'wneud y gorau o'r hyn sydd gennych' drwy ddewis bridiau cynhenid caled, sy’n hawdd i’w rheoli, pori cylchdro, cynyddu gwndwn llysieuol a rheoli glaswelltir parhaus i wella adnoddau naturiol. Ar yr un pryd, wrth leihau gwariant ar fewnbynnau, mae hi wedi datblygu cynhyrchion arbennig, gwerthiannau uniongyrchol a chysylltiadau busnes lleol i ychwanegu gwerth a chryfhau gwydnwch masnachol y fferm. 

  • Mae Jessi yn defnyddio rhwydweithio a chydweithio i greu marchnadoedd newydd a chryfhau cadwyni cyflenwi lleol, gan gynnwys datblygu perthynas â Ham Caerfyrddin, yr ham hallt uchel ei barch, a gyflenwir gyda phorc premiwm wedi'i brosesu trwy eu lladd-dy lleol. Mae ei phrofiad yn dangos sut y gall cydweithio ac arallgyfeirio droi egwyddorion ffermio cynaliadwy yn gyfleoedd busnes ymarferol. 

  • Gyda'i harddull cyfathrebu hamddenol a hyderus a'i phrofiad o ddatblygiad personol a phroffesiynol, mae Jessi yn anelu at helpu’r mentai i feithrin hyder, nodi camau ymarferol nesaf a dod o hyd i ffyrdd o symud ymlaen neu arallgyfeirio eu busnesau eu hunain. 

Busnes fferm cyfredol

  • Tyddyn bach 70 erw ar denantiaeth gyda’r Cyngor.
  • Gwartheg Hynafol Cymru a fagwyd ar gyfer bridio, arddangos a gwerthu bocsys cig
  • Moch Pedigri Cymreig, a werthir fel darnau o borc, selsig; bacwn wedi'i halltu neu'n uniongyrchol i'r cigydd
  • 10 buwch Jersey yn cael eu godro ddwywaith y dydd mewn llaethdy micro ac fe werthir y llaeth yn uniongyrchol o'r fferm.
  • Caiff cynnyrch arbennig gan gynnwys bocsys bîff a phorc a llaeth Jersey ei hyrwyddo trwy sianeli Facebook ac Instagram 'Hafren Rare Breeds' a'i werthu'n uniongyrchol o giât y fferm a thrwy fusnesau lleol neu drwy danysgrifiadau. Mae gwerthu uniongyrchol yn ychwanegu gwerth, yn cryfhau cadwyni cyflenwi lleol ac yn lleihau'r pellter y mae bwyd yn teithio.
  •  Ni ddefnyddir unrhyw blaladdwyr na gwrteithiau artiffisial, yn lle hynny mae pori cylchdro, gwndwn llysieuol a'u tail fferm eu hunain yn gwella iechyd y pridd a'r borfa yn barhaus.

Cymwysterau/cyflawniadau/profiad

2025 - 26 Siaradwr Rhaglen Ffermwyr y Dyfodol, Prifysgol Harper Adams 

2023 Cynllun Newydd-ddyfodiaid DEFRA, Prifysgol Harper Adams 

2011 - 12 MMus (Arwain), Prifysgol Caergrawnt 

2007 - 11 BA (Anrh) Cerddoriaeth (2:1), Prifysgol Leeds

Cyngor gorau ar gyfer busnes llwyddiannus

Peidiwch â pharhau â system os nad yw’n gweithio; byddwch yn hyblyg ac addaswch.

Mae’r rhan fwyaf o ffermwyr eisoes yn cyflawni safonau’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) ond gwnewch yn siŵr eich bod chi’n deall beth sy’n ofynnol drwy ymgysylltu â digwyddiadau lleol ac unrhyw gyfleoedd hyfforddiant a chymorth. 


I gael cymorth neu gyngor busnes ffoniwch

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30yb a 5yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.