- Lleoliad:
- Sir Benfro
- Sector:
- Arall
- Specialism:
- Cynllunio Busnes, Datblygiad Personol
Pam fyddai Jacqui yn fentor effeithiol
- Mae gan Jacqui brofiad helaeth o hwyluso, mentora a datblygiad personol, ac mae’n frwd dros helpu pobl i sicrhau eglurder, magu hyder a throsi syniadau’n gynlluniau y gellir eu cyflawni. Trwy ei gwaith fel Arweinydd Agrisgôp Cyswllt Ffermio a’r modiwlau Arwain Newid a gwblhawyd ganddi drwy Brifysgol Aberystwyth, mae hi wedi datblygu sgiliau cymell a mentora cryf sy’n galluogi unigolion i archwilio heriau, nodi cyfleoedd a gwneud penderfyniadau gwybodus ynglŷn â’u dyfodol.
- Wedi iddi weithio’n agos gyda ffermwyr ac entrepreneuriaid gwledig ar wahanol gamau yn eu busnesau, mae Jacqui yn deall gwerth creu man cefnogol lle gall pobl fyfyrio, meddwl yn strategol a datblygu datrysiadau ymarferol. Mae ei dull gweithredu’n canolbwyntio ar wrando, gofyn cwestiynau craff ac annog unigolion i ganfod eu cyfeiriad eu hunain, yn hytrach na darparu atebion yn unig.
- Mae cefndir proffesiynol Jacqui wedi ei chynorthwyo i ddatblygu sgiliau trefnu, cyfathrebu a chynllunio busnes ardderchog, ynghyd â phrofiad helaeth o hwyluso trafodaethau grŵp a dysgu gan gymheiriaid. Mae’n gallu helpu pobl i rannu uchelgeisiau cymhleth yn gamau cyraeddadwy, gan alluogi cynnydd sy’n teimlo’n realistig ac yn gynaliadwy.
- Mae Jacqui yn siaradwr Cymraeg rhugl, ac mae ganddi brofiad eang o fewn y diwydiant amaeth, gan gynnwys ffermio da byw, rheoli buchesi llaeth, garddwriaeth, amaethyddiaeth adfywiol ac amaeth goedwigaeth. Mae’r ddealltwriaeth ymarferol hon yn ei galluogi i uniaethu gyda realiti bywyd busnesau ffermio a gwledig, gan hefyd gadw ffocws cryf ar gefnogi’r unigolyn sydd y tu ôl i’r busnes.
- Mae ei gyrfa amrywiol hefyd wedi cynnwys gwaith yn y celfyddydau cymunedol ac mewn cwmni o ymgynghorwyr cynllunio, profiadau sydd wedi atgyfnerthu ei gallu ymhellach i ymgysylltu gyda phobl o wahanol gefndiroedd, magu ymddiriedaeth a hwyluso sgyrsiau adeiladol. Mae Jacqui yn groesawus, yn hawdd siarad â hi, ac yn canolbwyntio ar atebion, ac mae wedi ymrwymo i helpu unigolion i wireddu eu potensial.
Busnes fferm presennol:
- Diadell o ddefaid Torwen
- System amaeth goedwigaeth
- Ethos ffermio adfywiol
- Sefydlu meithrinfa’n canolbwyntio ar flodau gwyllt ac amaeth goedwigaeth
- Rhedeg busnes MycoChar, sef triniaeth fycorhisol ar gyfer gwreiddiau coed
Profiad, sgiliau cymwysterau perthnasol:
- Nuffield Scholar (2026)
- Post Graduate Certificate in Change Leadership including modules on Facilitation, Coaching and Mentoring
- BA (Hons) First Class (Acting)
- DIY AI
- Dairy Industry Operations (Level 2 Award)
Cyngor da ar gyfer llwyddo mewn busnes:
Cymerwch amser i gamu’n ôl a gweithio ar eich busnes, nid o fewn y busnes yn unig. Byddwch yn chwilfrydig a pheidiwch â thanbrisio gwerth sgwrs dda. Weithiau, mae’r atebion yn ymddangos o ganlyniad i ofyn y cwestiynau cywir ac edrych ar bethau o safbwynt gwahanol, yn hytrach na chael yr holl atebion parod.