- Lleoliad:
- Sir Drefaldwyn
- Sector:
- Da Byw Amgen, Tir âr, Biff, Gwenyn/mêl, Llaeth, Arallgyfeirio, Coedwigaeth, Geifrod, Garddwriaeth, Organig, Arall, Moch, Dofednod, Defaid, Olyniaeth, Gwinwyddaeth
- Specialism:
- Gweinyddiaeth a Gwaith Papur, Meincnodi, Gwerthu'n Uniongyrchol, Cymorth TGCh, Ffermio Adfywiol, Ansawdd Dŵr
Pam fyddai Gwennan yn fentor effeithiol
- Magwyd Gwenan, sy’n siarad Cymraeg, ar fferm bîff a defaid ac mae wedi gweithio yn y sector amaeth ers dros ugain mlynedd. Gwnaeth nifer o swyddi gyda ffermwyr gyda Cyswllt Ffermio, Menter a Busnes, Cwysi, AGORA a Cywain a thrwy hynny mae wedi cyfarfod cannoedd o deuluoedd fferm.
- Mae ei phersonoliaeth atyniadol a’i gallu i greu cysylltiad ag eraill sy’n gweithio yn y sector yn golygu bod ganddi ddealltwriaeth drylwyr iawn o’r diwydiant ac mae’n awr yn edrych ymlaen at rannu ei gwybodaeth a’i phrofiad sylweddol yn ei swydd fel mentor Cyswllt Ffermio.
- Mae ganddi ddealltwriaeth eang o reoliadau Llywodraeth Cymru a deddfwriaeth wledig.
- Mae hefyd yn arbenigwr gweinyddol profiadol, yn gyfarwydd â’r rhan fwyaf o waith papur fferm a bydd yn hapus i’ch helpu gydag unrhyw waith yn ymwneud â chasglu data, meincnodi, mesur ôl troed carbon a phrofi dŵr.
- Yn ei gwaith fel ymgynghorydd amaeth llawrydd mae Gwenan hefyd yn gweithio gyda busnesau fferm trwy Gymru i gynnal asesiadau bioamrywiaeth a mapio cynefinoedd.
- Fe’i hargymhellir yn aml gan sefydliadau amaeth allanol, ac mae gan Gwenan nifer o gleientiaid sy’n gwerthfawrogi ei gwybodaeth dawel a chysurlon am ‘reolau a rheoliadau’. Bydd yn hapus i’ch helpu i roi eich gwaith papur a’ch dogfennau mewn trefn, yn arbennig cyn wynebu archwiliadau a hefyd bydd yn helpu i sicrhau bod eich systemau rheoli yn cyd-fynd â’r rheoliadau presennol.
Busnes fferm presennol
- Ar hyn o bryd mae’n ymwneud ag asesiadau lles ac iechyd anifeiliaid ar gyfer cyfanwerthwr a phroseswr llaeth mawr ac mae’n ymwneud â data technegol i Gymdeithas y Pridd
- Mae Gwenan yn ymgynghorydd amaethyddol hunangyflogedig sydd yn gyson yn gweithio ar is-gontract i ymgyngoriaethau gwledig amlwg yng Nghymru yn ogystal ag yn uniongyrchol i fusnesau fferm.
- Yn aelod o ‘Consortiwm Gwlad’ mae wedi cynnal nifer o adolygiadau prosiectau i amrywiol asiantaethau yng Nghymru gan gynnwys Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Faesyfed ar gyfer Datblygu Camau Gweithredu Rheoli Tir ar y Cyd, gwaith adolygu prosiectau i Barc Cenedlaethol Eryri; PONT; Coed Cymru a Phartneriaeth Rhostir Gogledd Cymru.
Cymwysterau/llwyddiannau/profiad
- Diploma mewn Rheoli Cefn Gwlad
- Dros 20 mlynedd o brofiad o weithio’n uniongyrchol gyda ffermwyr yng Nghanolbarth Cymru mewn amrywiol swyddi:
- Swyddog Datblygu Cwysi i Menter a Busnes (1999-2001);
- Prif Hwylusydd Cyswllt Ffermio Canolbarth Cymru (2001-2004);
- Mentor TGCh yn Sir Drefaldwyn (2004-2008);
- Cydlynydd Cyswllt Ffermio Canolbarth Cymru (2008-2017);
- Swyddog Datblygu AGORA (2017-2019)
- Rheolwr Prawf Masnachu Cywain (2019-2023)
Awgrymiadau i lwyddo mewn busnes
“Byddwch yn barod i ddysgu oddi wrth eraill a gwneud y mwyaf o gyfleoedd i ymweld â ffermydd eraill a dysgu trwy eu methiannau a’u llwyddiannau.”
“Anelwch at gwblhau pob tasg hyd eithaf eich gallu bob amser a gorffen un dasg cyn dechrau un arall.”
Top tips for business success
“Be prepared to learn from others and make the most of the opportunities to visit other farms and learn from their failures and successes.”
“Always aim to complete every task to the best of your ability and finish one task before starting on another.”