- Lleoliad:
- Ynys Môn
- Sector:
- Biff, Defaid
- Specialism:
- Iechyd a Lles Anifeiliaid, Rheoli Tir Glas, Pori Cylchdro
Pam fyddai Gerallt yn fentor effeithiol
Mae Gerallt yn ffermio ar fferm Graianfryn, fferm deuluol gymysg 300 erw sy’n cadw da byw, lle mae wedi datblygu systemau effeithlon, integredig yn canolbwyntio ar iechyd a pherfformiad anifeiliaid a gwneud y defnydd gorau o borthiant a dyfir gartref. Mae ei brofiad ymarferol ym meysydd cynhyrchu bîff, defaid, glaswelltir a phorthiant wedi rhoi dealltwriaeth eang iddo o’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu ffermwyr da byw.
- Mae’r fferm yn cadw oddeutu 300 o wartheg Holstein x bîff, a brynir yn lleol fel lloi bîff o’r sector llaeth yn bythefnos oed. Maent yn cael eu magu ar system fagu lloi gyda safonau iechyd uchel, sydd wedi’i dylunio a’i rheoli gan Gerallt, cyn cael eu pesgi ar y fferm yn 18-20 mis oed. Mae’r system yn canolbwyntio ar gyflawni cyfraddau twf cyson a defnyddio porthiant a mewnbynnau’n effeithlon, gyda haidd gwanwyn a dyfir gartref yn rhan bwysig o’r dogn pesgi o fewn system Dogn Cymysg Cyflawn. Mae twf effeithlon, llai o amser ar y fferm a defnyddio porthiant a haidd a dyfir gartref yn helpu o safbwynt sicrhau effeithlonrwydd adnoddau a lleihau ôl troed carbon y system.
- Yn dilyn cyngor gan arbenigwyr maeth anifeiliaid fel rhan o Wasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio, mae Gerallt wedi datblygu gwndwn silwair gyda lefelau uwch o brotein, gan ymgorffori meillion coch, a ddefnyddir ar draws y mentrau gwartheg a defaid. Mae hyn yn adlewyrchu ei ddull o wella ansawdd porthiant, gwneud y defnydd gorau posibl o borthiant a dyfir gartref a lleihau dibyniaeth ar fewnbynnau a brynir i’r fferm.
- Mae ei ddiadell fridio o 500 o famogiaid Highlander x Aberfield wedi’u croesi gyda hyrddod Abermax, yn cael ei rheoli gan ganolbwyntio’n gryf ar iechyd a pherfformiad anifeiliaid, gan gynnwys cynhyrchu ŵyn ar gyfer marchnadoedd yn gynnar yn y tymor. Mae’r mamogiaid yn ŵyna dan do ac mae’r ŵyn yn cael eu pesgi ar y fferm gan ddefnyddio porthiant glaswellt a meillion coch o ansawdd uchel, heb ddefnyddio unrhyw ddwysfwyd ar unrhyw gam.
Mae pwyso a monitro perfformiad anifeiliaid yn helpu i asesu cyfraddau twf ac yn llywio penderfyniadau ynghylch bwydo a rheoli. Mae’r dull hwn sy’n seiliedig ar fesur yn galluogi Gerallt i asesu p’un a yw’r newidiadau a wneir ar y fferm yn arwain at welliannau o ran perfformiad ac effeithlonrwydd.
- Ar ôl graddio o Brifysgol Aberystwyth gyda gradd BSc mewn Amaethyddiaeth a Gwyddor Anifeiliaid, bu Gerallt yn gweithio ar ran cwmnïau sector preifat sy’n arbenigo mewn iechyd a maeth anifeiliaid, cyn symud ymlaen i weithio mewn rolau swyddog maes amaethyddol o fewn Llywodraeth Cymru a gwasanaethau amgylcheddol awdurdodau lleol. Mae hyn wedi rhoi profiad iddo o’r heriau ymarferol sy’n wynebu ffermwyr yn ogystal â’r ystyriaethau technegol, amgylcheddol a rheoleiddio sy’n effeithio ar fusnesau amaethyddol.
- Mae Gerallt yn cynnig cyfuniad o brofiad ymarferol gyda da byw a dealltwriaeth dechnegol gadarn o iechyd anifeiliaid, maeth, rheoli glaswelltir, cynhyrchu porthiant a gwneud penderfyniadau ar raddfa’r fferm gyfan. Fel mentor, bydd yn canolbwyntio ar ddeall system unigol pob ffermwr, gan nodi ffactorau sy’n cyfyngu ar berfformiad a datblygu atebion ymarferol a realistig sy’n gwella effeithlonrwydd a phroffidioldeb. Mae ei brofiad o reoli gwahanol fathau o fentrau hefyd yn ei alluogi i ystyried effaith ehangach unrhyw newidiadau o ran llafur, peiriannau, costau porthiant a phroffidioldeb cyffredinol y fferm.
Busnes fferm presennol
- 300 erw
- 300 o wartheg Holstein × bîff, sy’n cael eu prynu’n lleol a’u pesgi ar y fferm
- 500 o famogiaid bridio Highlander × Aberfield, gyda’r ŵyn cyn cael eu pesgi ar y fferm
Cymwysterau, cyraeddiadau a phrofiad
2002: BSc Amaethyddiaeth gyda Gwyddor Anifeiliaid, Prifysgol Aberystwyth
2002-2005: Gweithio ar ran cwmnïau preifat a oedd yn arbenigo mewn iechyd a maeth anifeiliaid
2005-2012: Swyddog maes amaethyddol o fewn Llywodraeth Cymru ac isadrannau amgylcheddol yr awdurdod lleol
Cyngor da ar gyfer llwyddo mewn busnes
“Gwnewch y gorau o’r hyn sydd eisoes ar gael ar y fferm cyn cynyddu dibyniaeth ar fewnbynnau a brynir i mewn, mae’n rhaid ystyried bob amser a fydd buddsoddiad yn sicrhau elw gwerth chweil.”
“Mesurwch berfformiad a chostau fel bod penderfyniadau’n seiliedig ar yr hyn sy’n digwydd ar eich fferm mewn gwirionedd.”