
Mae maeth da yn sylfaen i iechyd, cynhyrchiant a phroffidioldeb y ddiadell. Mae’r gweithdy undydd Meistr ar Faeth gan Cyswllt Ffermio wedi’i lunio ar gyfer ffermwyr defaid sy’n dymuno gwella eu dealltwriaeth o faeth defaid ymarferol, yn seiliedig ar dystiolaeth, ac i roi’r wybodaeth hon ar waith yn hyderus o fewn eu diadelloedd eu hunain.
Bydd gweithgareddau’r diwrnod yn cael eu darparu i grŵp bach mewn fformat rhyngweithiol, a bydd yn cyfuno bore’n trafod theori gyda gweithgareddau ymarferol yn canolbwyntio ar sgorio cyflwr corff, cynllunio diet, defnydd o borthiant, dadansoddi porthiant, a mesur a monitro dietau. Bydd ffermwyr yn archwilio sut mae maeth yn dylanwadu ar berfformiad y famog, twf ŵyn, iechyd, ffrwythlondeb a gwytnwch, gyda thrafodaeth ymarferol yn ymwneud â gwahanol systemau ffermio a dulliau bwydo.
Beth fydd y gweithdy’n ei drafod?
- Pam mae sgorio cyflwr y corff a maeth drwy’r flwyddyn yn bwysig
- Cydbwyso’r diet gorau posibl yn seiliedig ar system y fferm
- Sut i ddefnyddio gwahanol borthiant a systemau bwydo
- Sut i ddehongli dadansoddiad porthiant
- Mesur a monitro diet
Anogir cyfranogwyr i ddod â sampl o silwair, a dadansoddiad porthiant os yw’n bosibl, er mwyn cefnogi trafodaeth ymarferol yn ystod y gweithdy. Bydd deunydd enghreifftiol hefyd ar gael fel bod modd archwilio pynciau megis cymeriant deunydd sych ac asesiad diet mewn modd ymarferol.
Gan fod y gweithdy’n cynnwys ymweliad â fferm, dylai mynychwyr wisgo dillad addas, a dylent hefyd ddod ag esgidiau glân y gellir eu diheintio.
Pwy ddylai fynychu?
Mae’r gweithdy Meistr ar Faeth yn addas ar gyfer ffermwyr defaid sy’n dymuno gwella eu gwybodaeth dechnegol, gwella eu penderfyniadau ynghylch bwydo a rheoli’r ddiadell, a dod â syniadau ymarferol yn ôl i’w busnesau eu hunain.
Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig, felly fe’ch anogir i ymgeisio’n gynnar.
Cwrdd â’r tiwtoriaid
Bydd y gweithdy’n cael ei arwain gan Fiona Lovatt a Phillipa Page o gwmni Flock Health Ltd, ymgynghorwyr milfeddygol sy’n gweithio gyda ffermwyr, milfeddygon a sefydliadau o fewn y diwydiant i gefnogi gwelliannau mewn iechyd a lles diadelloedd.

Mae Fiona Lovatt yn Arbenigwr Cydnabyddedig gydag RCVS mewn Iechyd a Chynhyrchiant Defaid ac yn rhedeg cwmni Flock Health Ltd, gan ganolbwyntio ar gynllunio iechyd diadelloedd a gwella cydweithrediad rhwng milfeddygon a ffermwyr defaid.

Mae Phillipa Page yn ymgynghorydd milfeddygol defaid gyda chwmni Flock Health Ltd, gyda phrofiad mewn ymarfer anifeiliaid fferm, ymchwiliadau i ddiadelloedd, gwaith ymchwil a gweithio gyda grwpiau o ffermwyr ar draws y sector defaid.
Dyddiadau a lleoliadau
| Dyddiad | Lleoliad |
| 17 Tachwedd | Swyddfa CFfI Ynys Môn, Maes Sioe Môn, Gwalchmai, Ynys Môn, LL65 4RW |
| 18 Tachwedd | Bronwydd Hall, Bronwydd, Caerfyrddin, SA33 6BD |
Darperir cinio.
Gwnewch gais nawr
Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael.
Mae’r digwyddiad hwn yn gymwys ar gyfer UA4 y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) (6 awr).
Os bydd partner busnes yn mynychu, bydd yr oriau yn cyfrif tuag at Weithred Gyffredinol 4 (UA4): Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) yr SFS.
Dyddiad Cau: 11.59yh 08/11/2026