Dosbarth meistr undydd | Maeth ymarferol ar gyfer perfformiad a gwerth
Gwnewch benderfyniadau bwydo mwy gwybodus gyda dosbarth meistr ymarferol yn cyfuno dysgu yn yr ystafell gyfarfod a gweithdy ar y fferm. Ymunwch â Cyswllt Ffermio a Beth Parry o gwmni Kite Consulting, i archwilio sut y gall maeth gefnogi perfformiad gwartheg, gwneud y defnydd gorau o borthiant, a’ch helpu i asesu gwerth am arian.
Cymerwch olwg ar y cynnwys llaeth a bîff isod, gan ganolbwyntio ar drosi gwybodaeth am faeth yn benderfyniadau ymarferol ar gyfer eich system ffermio.
Llaeth: bwydo er budd perfformiad, o’r cyfnod sych i ddechrau llaetha
Beth fydd y gweithdy’n ei drafod?
- Cydbwyso cost a pherfformiad: archwilio ffyrdd o sicrhau’r maeth gorau posibl ar gyfer gwartheg sych a gwartheg godro.
- Sicrhau’r maeth cywir yn ystod y cyfnod pontio: ystyried y datblygiadau a’r gwaith ymchwil diweddaraf, ynghyd â strategaethau i fynd i’r afael â materion metabolaidd a sicrhau’r perfformiad gorau posibl ar ddechrau’r cyfnod llaetha.
- Deall eich bwyd anifeiliaid: deall y cynhwysion a’r maetholion yn eich bwyd anifeiliaid, asesu’r hyn yr ydych chi’n ei ddefnyddio a chymharu gwerth am arian.
- Porthiant yn gyntaf: canolbwyntio ar ansawdd porthiant, dehongli’r hyn y mae eich dadansoddiad silwair yn ei ddangos, a thrafod opsiynau bwydo ymarferol.
Archwilio deinameg dogn cymysg cyflawn (TMR) ar gyfer gwartheg godro. Defnyddio techneg rhidyll Penn State a rhidyll tail i nodi problemau ffisegol, gan gysylltu arsylwadau gydag arwyddion y fuwch, Sgorio Cyflwr Corff a Sgorio Llenwad y Rwmen.

Bîff: sicrhau’r maeth gorau posibl o enedigaeth i besgi
Beth fydd y gweithdy’n ei drafod?
- Bwyd ar gyfer pob cam: edrych ar faeth o enedigaeth hyd at besgi, gan archwilio sut i sicrhau’r perfformiad gorau posibl gan anifeiliaid bîff ar wahanol systemau cynhyrchu.
- Adeiladu ar y sylfeini: deall egwyddorion maeth da, cynhwysion a maetholion mewn bwyd. Cymharu labeli bwyd anifeiliaid i asesu’r hyn yr ydych yn ei brynu a’r hyn sy’n cynnig y gwerth gorau.
- Cysylltu agweddau economaidd a maeth cynaliadwy: cymryd rhan mewn ymarferion cost, archwilio ffyrdd i leihau gwastraff ac ystyried sut mae penderfyniadau bwydo’n amrywio rhwng systemau.
- Porthiant yn gyntaf: canolbwyntio ar gynhyrchu porthiant o’r ansawdd gorau i helpu i leihau costau a dehongli dadansoddiadau silwair i lywio penderfyniadau ynghylch bwydo.
Archwilio’r berthynas rhwng maeth a ffrwythlondeb, gyda chymorth Sgorio Cyflwr Corff ymarferol a sgorio ysgarthion i gefnogi trafodaeth ynghylch bwydo a rheolaeth.
Pwy ddylai fynychu?
Mae’r gweithdy Meistr ar Faeth hwn yn addas ar gyfer ffermwyr bîff a llaeth sy’n dymuno gwella eu gwybodaeth dechnegol, gwella penderfyniadau ynghylch bwydo a rheoli’r fuches, a defnyddio syniadau ymarferol o fewn eu busnesau eu hunain.
Nifer cyfyngedig o leoedd ar gael, ac fe’ch anogir i ymgeisio’n gynnar.
Cwrdd â’r Tiwtor
Beth Parry, Kite Consulting
Mae Beth yn Ymgynghorydd Technegol ar ran Kite Consulting, wedi’i lleoli ar y fferm laeth deuluol yng Ngogledd Orllewin Cymru. Graddiodd o Brifysgol Nottingham yn 2014 gyda gradd BSc (Anrh.) dosbarth cyntaf mewn Gwyddor Anifeiliaid gydag achrediad mewn Maeth.
Mae ei phrofiad yn cwmpasu maeth y fuches laeth ar draws ystod o systemau, gwaith ymchwil a datblygiad, trosglwyddo gwybodaeth a gwasanaethau technegol ar y fferm. Mae ei diddordebau penodol yn cynnwys effeithlonrwydd bwyd, defnydd o borthiant, ansawdd llaeth, ffrwythlondeb a geneteg.
Dyddiadau a Lleoliadau
| Dyddiad: | Lleoliad: | Amser: | |
| Meistr ar Faeth - Bîff | 14 Rhagfyr 2026 | Marchnad Da Byw Y Trallwng, Buttington Cross, Y Trallwng, SY21 8SR | 09:30yb-4:30yp |
| Meistr ar Faeth – Llaeth | 14 Ionawr 2027 | Marchnad Da Byw Y Trallwng, Buttington Cross, Y Trallwng, SY21 8SR | 09:30yb-4:30yp |
Gan fod y gweithdy’n cynnwys ymweliad fferm, dylai mynychwyr wisgo dillad addas a dod ag esgidiau glân y gellir eu diheintio. Darperir cinio.
Mae’r digwyddiad hwn yn gymwys ar gyfer UA4 y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS). Os bydd partner busnes yn mynychu, bydd yr oriau yn cyfrif tuag at Weithred Gyffredinol 4 (UA4): Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) yr SFS.
Cyfle i edrych yn fanylach ar eich penderfyniadau bwydo ac archwilio syniadau ymarferol ar gyfer eich fferm.
