Mae'r fenter frwyliaid o dan y sector dofednod wedi'i chreu’n wahanol yn DATAFFERM+ o’i gymharu ag ieir dodwy a sectorau eraill, gan fod gan fentrau brwyliaid masnachol mwy nag un haid y flwyddyn.
Felly, rydym wedi creu'r adran Frwyliaid i ganiatáu i chi gynnwys dyddiadau cychwyn a gorffen ar gyfer pob haid.
Mae'r trefniant hwn yn caniatáu i chi gymharu heidiau yn hytrach na chymharu eich ffigurau blynyddol flwyddyn ar ôl blwyddyn, gan ganiatáu i chi wella o un haid i’r llall.
Ychwanegu ac enwi menter
Yn y lle cyntaf, mae angen i chi greu eich menter ddofednod ar gyfer brwyliaid, un fenter ar gyfer pob sied drwy glicio ar y botwm “+ Ychwanegu menter” yn y dangosfwrdd.
- Dewiswch ddofednod o'r rhestr o sectorau
- Dewiswch y math o fenter - Brwyliaid
- Dewiswch a yw'r haid yn rhai maes ai peidio
Rhowch enw addas i bob menter, fel y gallwch wahaniaethu rhyngddynt e.e. Sied Brwyliaid 1
Sefydlu heidiau

Mae angen i enw’r haid (label) fod yn berthnasol i'r haid unigol e.e. Sied 1 ar ddiwedd Mehefin-26 - mae hyn yn caniatáu cymariaethau hawdd rhwng heidiau.
Er bod y dyddiadau'n hyblyg, mae ychwanegu'r dyddiadau cychwyn a gorffen yn caniatáu i chi gymharu data'n glir wrth edrych yn ôl.
Ychwanegu haid ychwanegol a rheoli haid

I ychwanegu heidiau ychwanegol, cliciwch “+ Ychwanegu heidiau dofednod” ar yr ochr dde
Mae “Rheoli haid o ddofednod” yn caniatáu i chi ddiwygio manylion yr haid ar unrhyw adeg. Os gwnaethoch chi gadw haid am gyfnod hirach na’r disgwyl, gallwch chi ymestyn y dyddiad gorffen.
Pan fyddwch wedi gorffen gyda’r haid ac nad ydych am gwblhau unrhyw feincnodi pellach ar yr haid honno, gallwch “Gau’r haid ddofednod” drwy glicio ar “Rheoli haid ddofednod” a sgrolio o dan y meysydd dyddiad cychwyn a gorffen.

Cyflwyno DPA dofednod ar gyfer yr SFS
Cwblheir hyn yn yr un modd â DPA eraill yn yr offeryn. Dilynwch y canllaw hwn i gael cymorth.