
Mae Meistr ar ffrwythlondeb yn weithdy ymarferol undydd a gynlluniwyd i helpu ffermwyr llaeth i wella perfformiad atgenhedlu'r fuches trwy ddefnyddio cofnodion yn well, targedau ffrwythlondeb cliriach, rheolaeth gryfach ar y fuwch yn ystod y cyfnod pontio a phenderfyniadau ymarferol yn ymwneud â bridio.
Bydd y gweithdy'n cyfuno cipolwg gan arbenigwyr, trafodaeth rhwng ffermwyr ac ymarferion cymhwysol, gan helpu’r rhai sy’n cymryd rhan i ddeall ble gellir gwella perfformiad ffrwythlondeb o fewn eu buches eu hunain.
Pwy ddylai fynychu?
Mae'r gweithdy hwn yn addas ar gyfer ffermwyr llaeth, rheolwyr buchesi a staff allweddol y fferm sy'n gyfrifol am fridio, canfod buwch yn gofyn tarw, rheoli’r fuwch yn ystod y cyfnod pontio neu gofnodion ffrwythlondeb.
Mae'n addas ar gyfer systemau lloia drwy gydol y flwyddyn a systemau lloia mewn bloc.
Mae lleoedd wedi'u cyfyngu i uchafswm o 18 unigolyn i annog trafodaeth, rhyngweithio a dysgu’n ymarferol.
Beth fydd y gweithdy yn ei gynnwys?
- Deall y prif ddangosyddion perfformiad ffrwythlondeb a'r hyn maen nhw'n ei ddatgelu am reolaeth y fuches
- Nodi’r ffactorau ar lefel y fuwch, y fuches a'r system sy'n dylanwadu ar ffrwythlondeb, gan gynnwys rheoli'r cyfnod pontio, maeth, iechyd, cloffni, mastitis, cyflwr y corff a magu heffrod
- Adolygu effeithiolrwydd canfod buwch yn gofyn tarw, protocolau bridio a defnyddio technoleg
- Defnyddio data ar y fuches i nodi'r cyfleoedd mwyaf ar gyfer gwella
- Creu cynllun gweithredu ffrwythlondeb 30, 60 a 90 diwrnod ymarferol ar gyfer eu buches eu hunain
Beth ddylwn i ddod gyda mi?
Anogir y rhai sy’n cymryd rhan i ddod â data diweddar ar ffrwythlondeb y fuches pan fydd ar gael. Gallai hyn gynnwys:
- cyfradd beichiogrwydd
- cyfradd y buchod a gyflwynir ar gyfer bridio
- cyfradd beichiogi
- cyfnod lloia
- cyfradd buchod cyflo chwe wythnos
- oedran yn lloia am y tro cyntaf
- rhesymau dros ddifa
Bydd dod â'ch data eich hun yn eich helpu i gael y gorau o'r gweithdy ac yn cefnogi datblygiad cynllun gweithredu ymarferol ar gyfer eich busnes.
Fformat y gweithdy
Bydd y diwrnod yn cynnwys cyfuniad o ddysgu dan arweiniad arbenigwyr, trafodaeth mewn grŵp ac ymarferion ymarferol. Bydd cyfle i’r rhai sy’n cymryd rhan adolygu dangosyddion ffrwythlondeb allweddol, ystyried y ffactorau rheoli sy'n effeithio ar berfformiad atgenhedlu ac edrych ar gamau ymarferol y gellir eu rhoi ar waith ar y fferm.
Bydd y gweithdy’n canolbwyntio ar gamau gweithredu realistig ar lefel y fferm a all helpu i wella perfformiad ffrwythlondeb, cynorthwyo i wneud penderfyniadau gwell yn ymwneud â bridio a chryfhau rheolaeth gyffredinol y fuches.
Gwneud cais i fynychu
Anogir ffermwyr sydd â diddordeb mewn gwella ffrwythlondeb eu buchesi llaeth, gwneud gwell defnydd o gofnodion ffrwythlondeb a datblygu cynllun gweithredu clir ar gyfer eu busnes i wneud cais i fynychu'r gweithdy Meistr ar ffrwythlondeb.
Mae lleoedd yn gyfyngedig i 18 unigolyn. Mae’r digwyddiad hwn yn gymwys ar gyfer UA4 y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) (6 awr).
Os bydd partner busnes yn mynychu, bydd yr oriau yn cyfrif tuag at Weithred Gyffredinol 4 (UA4): Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) yr SFS.
| Date | Location |
| 21 Hydref 2026 | Clwb Rygbi Castell Newydd Emlyn, Dôl Wiber, Adpar, Castell Newydd Emlyn, SA38 9AZ |
| 22 Hydref 2026 | Coleg Amaethyddol Glynllifon, Caernarfon, Gwynedd, LL54 5DU |
Cwrdd â’r tiwtor...
Dan Humphries
Mae Dan yn gyd-sylfaenydd 'Dairy Insight', sy'n cynnig mewnbwn technegol, hyfforddiant a chyngor i'r diwydiant llaeth. Er bod Dan yn dal i weithio fel milfeddyg clinigol, mae'n rhannu ei amser rhwng ffermydd yn y DU a gwaith yn y sector llaeth dramor gydag amrywiaeth o fusnesau amaethyddol a gweithrediadau llaeth.
