Buddion Meincnodi i'ch fferm
Mae meincnodi yn broses o fesur a monitro agweddau allweddol o fusnes eich fferm i helpu i nodi cyfleoedd i wella ac effeithlonrwydd. Mae'n cefnogi penderfyniadau gwell a gall eich helpu i olrhain cynnydd dros amser.
Mae DATAFFERM+ yn adnodd meincnodi dwyieithog sy'n defnyddio Dangosyddion Perfformiad Allweddol (DPAu) i ganolbwyntio ar berfformiad ffisegol ac ariannol mewn meysydd penodol o fusnes y fferm. Er mwyn cael y budd mwyaf o feincnodi, mae'n bwysig peidio â chanolbwyntio ar un canlyniad DPA ar ei ben ei hun. Yn lle hynny, adolygwch ganlyniadau o gyfuniad o DPAau menter a fferm gyfan cysylltiedig gyda'i gilydd, gan fod hyn yn rhoi darlun mwy cyflawn o berfformiad eich busnes, ac yn helpu i nodi cryfderau, gwendidau a chyfleoedd i wella.
Bydd defnyddio DATAFFERM+ yn caniatáu i chi fodloni gofyniad Gweithred Allweddol 3 (UA3): Gofyniad Meincnodi'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy. (Teitlau DPA yn unig sy'n cael eu rhannu - ni fydd data perfformiad yn cael ei rannu)
Er mwyn cael mynediad at DATAFFERM+, bydd angen i chi fod wedi ailgofrestru gyda Cyswllt Ffermio. I fewngofnodi i DATAFFERM+, defnyddiwch yr un manylion GOV.UK One Login ag yr ydych yn eu defnyddio ar gyfer RPW ar-lein.
Cofrestru
Cofrestrwch gyda Cyswllt Ffermio i ddefnyddio'r offeryn meincnodi DATAFFERM+