
Enw: Tamsyn Harrod-Beck
Cyfeiriad e-bost: tamsyn.harrod.beck@agrisgop.cymru
Rhif ffôn symudol: 07764 616584
Lleoliad: Sir Benfro
Arbenigedd(au): Ffermio adfywiol; Tyfwr blodau masnachol; Arbenigwr gwrychoedd; Rheoli prosiectau a phobl; Ceisiadau am gyllid.
- Mae Tamsyn yn frwd dros gynorthwyo ffermwyr blaengar y mae hi'n eu disgrifio fel 'newidwyr gêm' y sector - y rhai sy'n croesawu ffermio adfywiol i gynhyrchu bwyd iachach wrth adfer natur. Mae helpu pobl i droi syniadau'n gamau ymarferol yn gwneud ei rôl fel arweinydd Agrisgôp yn addas naturiol i'w sgiliau a'i phrofiad.
- Yn eiriolwr perswadiol dros gynhyrchu bwyd cynaliadwy a rheoli tir, mae Tamsyn yn aelod o Gynghrair Gweithwyr y Tir. Mae ganddi fwy na 16 mlynedd o brofiad mewn amaethyddiaeth fasnachol, gan arbenigo mewn cyflawni prosiectau, rheoli ariannol ac adeiladu partneriaethau llwyddiannus. Drwy gydol ei gyrfa, mae hi wedi dod â phobl ynghyd i ddatblygu rhwydweithiau strategol, datgloi cyfleoedd newydd a meithrin yr hyder sydd ei angen i gyflawni newid parhaol.
"P'un a ydych chi'n archwilio ffermio adfywiol, yn ystyried menter arallgyfeirio neu'n chwilio am gyfleoedd i gynyddu elw, mae Agrisgôp yn cynnig lle cefnogol i rannu profiadau, herio’r meddwl a throi syniadau da yn gamau ymarferol."
- Yn ymgynghorydd bwyd a ffermio cynaliadwy ers blynyddoedd lawer ac yn awr yn osodwr gwrychoedd profiadol hefyd, Tamsyn yw sylfaenydd Bricks & Briar, y busnes a sefydlodd yn 2025 i helpu ffermwyr a rheolwyr tir i sicrhau cyllid ar gyfer adfer a rheoli gwrychoedd i wella bioamrywiaeth a gwydnwch ffermydd yn yr hirdymor. Mae hi hefyd yn datblygu menter blodau i’w torri dwys ar safle wyth erw ar ei thyddyn bach yn Sir Benfro, gan dargedu marchnadoedd cyfanwerthu.
Busnes fferm presennol: Ymgynghorydd ffermio adfywiol arbenigol, plygwr gwrychoedd a thyfwr blodau i’w torri masnachol.
Mae ei phrofiad, sgiliau a chymwysterau perthnasol yn cynnwys:
- 2025 hyd heddiw: Sylfaenydd a 'phrif weithredwr' Bricks & Briar, gan arbenigo mewn adfer a rheoli gwrychoedd ar gyfer ffermwyr a thyfwyr.
- 2016 – 2025: Perchennog ymgynghoriaeth ffermio cynaliadwy, yn rheoli timau bach ac yn sicrhau ceisiadau llwyddiannus am gyllid i DEFRA a sefydliadau preifat ar gyfer sefydliadau ffermio ac amgylcheddol.
- 2011 – 2018: Daliwyd sawl rôl arweinyddiaeth ar lefel cyfarwyddwr gyda chynhyrchydd aeron a cheirios mawr yn y DU, gan gynnwys datblygu ei strategaeth gynaliadwyedd ryngwladol.
- 2017 – 2023: Sylfaenydd a chyn arweinydd Partneriaeth Bwyd a Ffermio Swydd Gaerloyw.
- 2003 – 2007: BA (Astudiaethau Americanaidd): King's College Llundain a Phrifysgol California, Berkeley.
Datblygiad proffesiynol
- Cyswllt Ffermio/ Lantra Cymru mewn plygu gwrychoedd, gweithredu llif gadwyn, microbioleg y pridd, sefydlu coetiroedd a Rheolaeth Fferm Integredig.