BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Lisa Mair Roberts

Enw: Lisa Mair Roberts
 
 
Ffôn symudol: 07754 841425 
 
Lleoliad: Machynlleth ac mae hi’n gweithredu ledled Cymru
 
Arbenigedd: Ffermio bîff a defaid adfywiol a chynaliadwy, Cynllun Ffermio Cynaliadwy, Adfer Mawndir, Iechyd a Lles Anifeiliaid, Meincnodi, Arloesedd, Twristiaeth, Cymorth TGCh, Gwaith gweinyddol a gwaith papur.
 

 

  • Mae Lisa Roberts yn cyfuno profiad ymarferol o ffermio bîff a defaid gyda dealltwriaeth gadarn o fusnesau fferm yng Nghymru, cynaliadwyedd, arallgyfeirio a’r cyfleoedd a ddaw drwy systemau ffermio adfywiol. Fel ffarmwraig sydd ar hyn o bryd yn pontio i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) ei hun, mae hi’n deall yr heriau ymarferol sy’n ymwneud â’r broses yn ogystal â’r potensial i’r cynllun gefnogi busnes fferm sy’n fwy proffidiol a chynaliadwy yn yr hirdymor.
  • Fel Arweinydd Agrisgôp a hwylusydd cymwys, bydd Lisa’n gwrando ar yr hyn y mae aelodau’r grŵp am ei gyflawni ac yn llywio ei grwpiau o amgylch eu hanghenion. Bydd yn dod â ffermwyr a phobl busnes o’r un anian ynghyd i rannu syniadau, profiadau a datrysiadau gan greu amgylchedd cefnogol a chydweithredol lle gall aelodau ddysgu oddi wrth ei gilydd neu arbenigwyr gwadd a datblygu cynlluniau ymarferol i ddatblygu eu busnes eu hunain.
  • “Fy nod yw helpu aelodau symud y tu hwnt i drafodaeth a gwireddu syniadau ac uchelgeisiau - hanfod dull dysgu trwy weithredu Agrisgôp – yn enwedig ar adeg pan mae angen i’n diwydiant ychwanegu gwerth ac addasu i farchnadoedd sy’n newid a heriau amgylcheddol.”
  • Fel cyn rheolwr technegol cig coch gyda Cyswllt Ffermio a mentor amaeth, mae gan Lisa flynyddoedd lawer o brofiad a gwybodaeth ymarferol i’w ddefnyddio. Mae Lisa’n rhedeg fferm bîff a defaid gyda’i gŵr yn Eryri, yn ogystal â phrofiad sylweddol o adfer mawndir ac arferion ffermio cynaliadwy. Maent hefyd wedi datblygu busnes llety i dwristiaid gan fanteisio ar leoliad godidog y fferm ac atyniad ymwelwyr. Mae hyn yn rhoi dealltwriaeth werthfawr i Lisa o’r cyfleoedd a’r heriau ymarferol sy’n rhan o’r broses o arallgyfeirio busnes fferm.  
  • Mae Lisa’n gyfathrebwr rhagorol yn Gymraeg ac yn Saesneg ac mae’n wybodus, yn hawdd mynd ati ac yn frwdfrydig ynghylch helpu eraill gyda datblygiad personol a datblygiad eu busnes. Mae ei phrofiad o drefnu a hwyluso digwyddiadau amaethyddol, grwpiau trafod a phrosiectau ynghyd â’i gallu i feithrin perthnasoedd gyda ffermwyr, arbenigwyr a rhanddeiliaid eraill yn ei rhoi mewn sefyllfa dda i greu grwpiau cyfeillgar a phwrpasol lle mae aelodau’n dysgu, meithrin hyder ac yn gwireddu syniadau.

Busnes fferm cyfredol

  • Fferm fynydd ac ucheldir 380 hectar gydag ardaloedd Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ynghyd â glaswelltir wedi'i wella yn bennaf ger Machynlleth. 
  • Oddeutu 650 o famogiaid Mynydd Cymreig (math Meirionnydd) a 280 o famogiaid Texel croes, sy’n cael eu rheoli i wneud y mwyaf o ddwysfwyd a dyfir gartref.
  • Fel rhan o’r fenter bîff maent yn prynu lloeau bîff o wartheg llaeth o ffermydd lleol a’u magu ar fwced ac maent yn cael eu gwerthu drwy farchnadoedd lleol yn 10-12 mis oed.
  • Prosiect adfer mawndir sy’n cynhyrchu incwm trwy gredydau carbon 
  • Bwthyn gwyliau a dwy uned glampio sy’n darparu menter arallgyfeirio lwyddiannus.

Cymwysterau, sgiliau a phrofiad perthnasol

BSc Amaethyddiaeth a Gwyddor Anifeiliaid: Prifysgol Aberystwyth

Hyfforddiant proffesiynol ychwanegol

  • Dadansoddiad Busnes Fferm, Prifysgol Harper Adams
  • Sgiliau Arweinyddiaeth a Thîm Lefel 2 LM
  • Cwrs Hwyluso drwy Brifysgol Aberystwyth
  • Hyfforddiant ar y cyfryngau

I gael cymorth neu gyngor busnes ffoniwch

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30yb a 5yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.