BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Prosiect Tyddyn Cae

Gwneud y gorau o loia tymhorol er mwyn iechyd, effeithlonrwydd ac ehangiad y fuches laeth yn gynaliadwy

Mae ffrwythlondeb buchod llaeth yn ddangosydd allweddol i ysgogi proffidioldeb buches, cyrraedd targedau cynhyrchu, gwella hirhoedledd buchod, lles a bod o fudd i'r amgylchedd o ran llai o allyriadau carbon.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Mawrth 2026
Diweddarwyd diwethaf:
24 Mawrth 2026
Statws:
Cyflawn
Wedi'i ffermio gan:
Ifan Ifans
Lleoliad:
Tyddyn Cae, Pwllheli
Sector:
Llaeth

Trosolwg

Mae ffrwythlondeb buchod llaeth yn ddangosydd allweddol i ysgogi proffidioldeb buches, cyrraedd targedau cynhyrchu, gwella hirhoedledd buchod, lles a bod o fudd i'r amgylchedd o ran llai o allyriadau carbon. Mae'n bwysig sylweddoli bod geneteg a rheolaeth yn mynd law yn llaw ac mae cael nodau bridio yn bwysig i'ch buches.

Mae’r rhan fwyaf o ffermwyr llaeth newydd yng Nghymru wedi dechrau gyda lloia mewn un bloc er mwyn symlrwydd, gwell effeithlonrwydd a rhwyddineb wrth reoli’r fuches. Bydd y prosiect hwn yn ymchwilio i’r cyfleoedd o newid i fuches sy’n lloia mewn dau floc o ran cynnydd posibl ym mhris llaeth wrth giât y fferm, allbwn y fferm, cyflenwad llaeth a gwneud gwell defnydd o lafur ac isadeiledd sydd ar y fferm drwy gydol y flwyddyn.

Bwriad y prosiect ar y fferm yw ateb os gall Tyddyn Cae ehangu drwy ychwanegu 15-20% o wartheg ychwanegol sy’n lloia yn y gwanwyn at eu buches bresennol sy’n lloia yn yr hydref heb unrhyw newidiadau mawr yn yr isadeiledd na’r llafur ar y fferm. Bydd y prosiect hefyd yn asesu DPA ffrwythlondeb presennol, ac yn anelu at:

  • Leihau bloc yr hydref i lai na 10 wythnos
  • Gwella cyfradd lloi 6 wythnos a chyfradd wag 12 wythnos
  • Cynnal iechyd a pherfformiad presennol wrth ehangu’r fuches
  • Nodi nodau bridio priodol yn y dyfodol ar gyfer y ddau floc yn y fuches

Trwy ysgogi gwelliant pellach mewn effeithlonrwydd yn y meysydd busnes allweddol hyn, bydd y prosiect hefyd yn cyfrannu at y canlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy gan gynnwys:

  • Lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr y fferm
  • Cyfrannu at iechyd a lles uchel y fuches

Llinell Amser Prosiect Diweddaraf

Tachwedd 2024

Canlyniadau Targed ar gyfer y Prosiect:

  • Cynyddu cyfran yr heffrod sy’n lloia o fewn y pedair wythnos gyntaf.
  • Rhoi strategaethau effeithiol ar waith i ganfod gwartheg yn gofyn tarw er mwyn gwella cyfraddau ffrwythloni a beichiogi.
  • Sicrhau’r iechyd gorau posibl yn y fuches drwy gynnal adolygiad manwl o brotocolau brechu a rheoli clefydau.

Cynllun gweithredu / Camau nesaf:

Newidiadau i’r Cynllun Paru ar gyfer Heffrod:

  • Rhannu heffrod yn dri grŵp yn seiliedig ar amseriad troi at y tarw:
     
  • Grŵp A: Troi at y tarw yn y 7 niwrnod yn arwain at ddechrau paru disgwyliedig (PSM); bydd y rhain yn cael eu gwahanu a’u grwpio gyda’i gilydd. Disgwyliad:  ~33% o heffrod yn gofyn tarw yn wythnos -1, barod i droi at y tarw yn wythnos 3.
     
  • Grŵp B: Gofyn tarw yn yr wythnos gyntaf. Disgwyliad: ~33% o heffrod.
  • Grŵp C: Gofyn tarw yn yr ail wythnos. Disgwyliad: ~33% o heffrod.
  • Ar ddiwrnod 6, bydd Grŵp A yn cael eu brechu gyda prostaglandin i sbarduno’r cyfnod gofyn tarw – dylid disgwyl hyn o fewn 2-5 diwrnod ar ôl eu brechu. Paru pan fo arwyddion o ofyn tarw yn unig. 

Nod: Paru pob heffer o fewn cyfnod o bythefnos yn hytrach na’r tair wythnos arferol.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.