Ffrwythlondeb yw un o’r prif ffactorau sy’n effeithio ar effeithlonrwydd unrhyw fuches laeth. Gall gyfri am un o brif gostau cynhyrchu, ac fel arfer mae’n faes lle gellir gwneud gwelliannau sylweddol.
- Statws:
- Cyflawn
- Wedi'i ffermio gan:
- Deryl and Francis Jones
- Lleoliad:
- Rhyd Y Gofaint, Aberaeron
- Sector:
- Llaeth
Trosolwg
Ffrwythlondeb yw un o’r prif ffactorau sy’n effeithio ar effeithlonrwydd unrhyw fuches laeth. Gall gyfri am un o brif gostau cynhyrchu, ac fel arfer mae’n faes lle gellir gwneud gwelliannau sylweddol. Mae amcangyfrifon llaeth yr AHDB yn amcangyfrif bod ffrwythlondeb gwael yn costio £25,000 y flwyddyn yn y fuches 100 buwch sy’n perfformio’n arferol, sy’n cyfateb i 3.2 c/litr o ganlyniad i’r cynhyrchu llaeth a gollir, llai o loi, mwy o waredu stoc a chostau milfeddygol.
Er mai’r cam cyntaf wrth leihau colledion diangen oherwydd ffrwythlondeb yw cynnal asesiad manwl o berfformiad unigol y fuches o ran ffrwythlondeb, mae’n bwysig sylweddoli mai’r ffordd orau o farnu ffrwythlondeb yw fel rhan o adolygiad o’r fferm gyfan.
Mae rheoli atgenhedlu’n faes cymhleth, sy’n cynnwys penderfyniadau am eneteg, rheoli cyfraddau tyfu ar gyfer magu heffrod cyfnewid yn brydlon a chyflawni cyfradd feichiogi uchel, sy’n ddibynnol ar ganfod pryd y bydd buchod yn gofyn tarw a chyfraddau cenhedlu da.
Bydd sicrhau’r ffrwythlondeb mwyaf yn y fuches laeth yn gwella cynhyrchiant llaeth blynyddol ac yn lleihau ôl troed carbon ar gyfer dwy o’n ffermydd Rhwydwaith Ein Ffermydd; Clyngwyn a Rhyd y Gofaint.
Nod y prosiect yw cynnig pwyntiau gweithredu i wella dangosyddion perfformiad allweddol penodol ar gyfer y ddwy fferm i wella effeithlonrwydd atgenhedlu. Yn benodol, y nod yw gwneud gwelliannau i roi hwb i’r cyfraddau lloia 6 wythnos neu 100 diwrnod yn y fuches sy’n lloia yn y gwanwyn a’r un sy’n lloia trwy’r flwyddyn yn eu tro. Bwriedir gwneud newidiadau i nifer o arferion rheoli gan nad oes un achos unigol sy’n achosi diffyg ffrwythlondeb, gan anelu at dynhau’r bloc lloia/bwlch rhwng lloia ond heb gynyddu’r gyfradd wag i fwy na 10%.
Rhai o’r ffactorau all ddylanwadu y byddwn yn canolbwyntio arnynt yw:
Cynyddu’r gyfradd canfod buchod sy’n gofyn tarw
Lloia’r heffrod yn dda – iechyd a thwf stoc ifanc
Rheoli paru ac ymyraethau
Statws afiechyd
Trwy yrru mwy o welliant mewn effeithlonrwydd yn y meysydd busnes allweddol hyn, bydd y prosiect hefyd yn cyfrannu at ddeilliannau Rheoli Tir yn Gynaliadwy, gan gynnwys:
Lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr y fferm
Cyfrannu at iechyd a lles da i’r fuches.
Llinell Amser Prosiect Diweddaraf
Diweddariad Terfynol
Prif ganlyniadau
- Cynnydd o dros £10,000* mewn proffidioldeb o ganlyniad i welliannau ffrwythlondeb
- Cyfradd buchod cyflo 100-diwrnod wedi cynyddu o 56% i dros 70%
- Arbedion o £1,800 mewn porthiant a llai o getosis a chlefyd metabolig o ganlyniad i reolaeth ragweithiol o gyflwr gwartheg ar ddiwedd y cyfnod llaetha
Cefndir
Fel arfer, mae ffrwythlondeb gwael yn costio £25,000 y flwyddyn i fuches o 100 o wartheg gyda pherfformiad cyfartalog (AHDB) sy’n gyfwerth â chost o 3.2c/litr. Yn ogystal, bydd gwella ffrwythlondeb yn y fuches laeth yn lleihau ôl troed carbon. Ceir nifer o ffactorau sy’n achosi ffrwythlondeb gwael, gan amrywio o un fferm i’r llall. Felly, mae angen edrych ar fuchesi ar sail unigol i ddatblygu rhaglen wedi’i thargedu i fynd i’r afael â’r ffactorau hyn.
Mae fferm Rhyd Y Gofaint yn cadw buches o 120 o wartheg Friesian/Holstein wedi’u rheoli’n dda sy’n lloia drwy gydol y flwyddyn ger Aberaeron. Fodd bynnag, mae Deryl a Frances Jones bob amser yn edrych tua’r dyfodol ac yn herio eu system gyda’r nod o fod yn fwy effeithlon a chynaliadwy. Bu’r Arbenigwr Ffrwythlondeb Kate Burnb yn gweithio gyda Deryl a Frances i archwilio eu Dangosyddion Perfformiad Allweddol ffrwythlondeb i ganfod sut i wella rheolaeth ffrwythlondeb ymhellach.
Diben y gwaith
- Gwella perfformiad ffrwythlondeb a chynhyrchiant yn gyffredinol drwy ymyriadau wedi’u targedu
- Cynyddu’r gyfradd buchod cyflo 100-diwrnod
- mcangyfrif budd economaidd deilliannau gwella ffrwythlondeb
Yr hyn a wnaed
Cynhaliwyd adolygiad o strategaeth bresennol y fferm yn ogystal ag archwiliad o’r gwartheg a’u hamgylchedd i bennu nodau tymor byr, tymor canolig a hirdymor. Ar y cyd â Deryl a Frances, llwyddodd y tîm i nodi “enillion cyflym”, gan bennu prif Ddangosyddion Perfformiad Allweddol a phrotocolau monitro.
Protocolau newydd
- Profi cetonau’n rheolaidd ar ôl lloia i ganfod patrymau ac unigolion risg uchel
- Cynnal profion metricheck rheolaidd 21-28 diwrnod ar ôl lloia i ganfod endometritis – yn enwedig endometritis ysgafn, yn gynt
- Cyflwyno cadarnhad ychwanegol o Ddiagnosis Beichiogrwydd (PD) ar ddiwrnod 130-150 gan gynnwys craffu ar Sgôr Cyflwr Corff, gan wneud penderfyniadau wedi hynny ynglŷn â lefel bwydo yn y parlwr ar gyfer 2-3 mis olaf y cyfnod llaetha
Canlyniadau
Budd economaidd gwella ffrwythlondeb:
DPA blaenorol | DPA presennol | Gwelliant |
53% | 70% | 17% |
Tabl 1: Cynnydd o ran Dangosydd Perfformiad Allweddol Cyfradd Buchod Cyflo 100-Diwrnod

Cydrannau’r budd economaidd:
- Cynnydd mewn cynhyrchiant llaeth: Mae mwy o wartheg yn lloia’n gynt yn arwain at fwy o ddyddiau mewn llaeth.
- Lleihad mewn costau gwartheg gwag: Mae llai o wartheg gwag yn lleihau’r colledion sy’n gysylltiedig ag anifeiliaid nad ydynt yn gynhyrchiol.
- Cynyddu effeithlonrwydd porthiant: Mae addasu dwysfwyd yn seiliedig ar sgôr cyflwr corff yn gwneud y defnydd gorau o gostau porthiant.
- Mwy o hyblygrwydd ar gyfer difa gwirfoddol: Mae gwell ffrwythlondeb yn caniatáu ar gyfer gwell penderfyniadau’n ymwneud â rheoli’r fuches.
Yn ogystal, mae Frances hefyd wedi bod yn sgorio cyflwr corff y gwartheg yn amlach i sicrhau bod gwartheg yn sychu ac yn lloia yn y cyflwr gorau posibl. Pe byddant dros y cyflwr targed, byddai tâp glas yn cael ei roi ar y fuwch i leihau faint o fwyd a gynigir yn y parlwr.
- O ganlyniad, rhoddwyd 12 o’r gwartheg ar ddiet gyda hanner y cyfanswm o ddwysfwyd (6kg yn llai o ddwysfwyd y dydd) am 100 diwrnod, sef cyfanswm o 600kg yn llai o ddwysfwyd fesul buwch. Felly, mae 7.2 tunnell o ddwysfwyd parlwr am £250/tunnell yn golygu arbedion o £1800 mewn dwysfwyd.
- Yn ogystal mae gwartheg sydd mewn cyflwr priodol wrth loia yn peri llawer llai o risg o glefydau sy’n gysylltiedig â chynhyrchiant uwch, gwell ffrwythlondeb a llai o driniaethau. Mae nifer yr achosion o dwymyn llaeth wedi gostwng o 8 i 2 dros y flwyddyn.
- Er nad oedd Frances erioed wedi cadarnhau cetosis is-glinigol o’r blaen; trwy ddefnyddio’r offer profi cetonau, maent wedi rhoi bolysau glwcos/propylen glycol i wartheg gyda chetosis is-glinigol ac o bosibl wedi atal problemau pellach. Hefyd, ni chafwyd unrhyw achosion o Abomaswm wedi’i Ddadleoli o’i gymharu ag un neu ddau bob blwyddyn fel arfer.
Sut i’w roi ar waith ar eich fferm
- Ymgynghorwch gydag ymgynghorydd megis eich milfeddyg. Nodi bylchau a nodau.
- Dewiswch ychydig o ddangosyddion perfformiad allweddol ystyrlon i’w monitro – gorau oll po leiaf, neu fwyaf pellgyrhaeddol yw’r rhain.
Beth am ystyried ychwanegu’r cyngor hwn wrth gynnal eich adolygiad cynllun iechyd ar gyfer y cynllun sicrwydd fferm? - Dewiswch un neu ddau o syniadau hawdd i’w gweithredu – hyd yn oed os mae hynny’n golygu dechrau cofnodi data am y dangosyddion perfformiad allweddol a ddewiswyd er mwyn gwella heb gyflwyno unrhyw newidiadau rheolaeth yn y lle cyntaf.
- Aseswch eich cynnydd ar ôl 3-6 mis – sut mae’r dangosyddion perfformiad allweddol? Beth sy’n gweithio? Beth sydd ei angen? Beth sy’n bosibl? A allwch chi neu a ddylech chi gyflwyno syniadau newydd?
- Adolygwch y dangosyddion perfformiad allweddol ar ôl 9-12 mis.
- Ailadroddwch y broses bob blwyddyn.