BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Prosiect Rhyd y Gofaint

Gwella Effeithlonrwydd y Defnydd o Nitrogen trwy gynyddu cynnwys meillion gwyn mewn glaswelltiroedd

Mae Fferm Rhyd y Gofaint yn dibynnu’n llwyr ar laswellt a silwair i fwydo ei buches o 120 o wartheg llaeth Holstein Friesian, y ddiadell Texel X Charollais, a gwartheg bîff. Felly, mae gwrtaith nitrogen yn gost fewnbwn fawr i fynd i'r afael â hi ar gyfer eu cynhyrchiant sy’n seiliedig ar laswellt.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Mawrth 2026
Diweddarwyd diwethaf:
26 Mawrth 2026
Statws:
Cyflawn
Wedi'i ffermio gan:
Deryl and Francis Jones
Lleoliad:
Rhyd Y Gofaint, Aberaeron
Sector:
Llaeth

Trosolwg

Mae Fferm Rhyd y Gofaint yn dibynnu’n llwyr ar laswellt a silwair i fwydo ei buches o 120 o wartheg llaeth Holstein Friesian, y ddiadell Texel X Charollais, a gwartheg bîff. Felly, mae gwrtaith nitrogen yn gost fewnbwn fawr i fynd i'r afael â hi ar gyfer eu cynhyrchiant sy’n seiliedig ar laswellt.

Mae'r prosiect hwn yn ymchwilio i feillion gwyn, sy'n cynnig ateb posibl i'r her hon. Gyda bacteria sefydlogi nitrogen wedi'u cynnwys mewn nodiwlau ar eu gwreiddiau, mae meillion gwyn yn dal nitrogen atmosfferig ac yn ei drawsnewid yn ffurf y gellir ei ddefnyddio gan blanhigion trwy broses naturiol. Gall y sefydlogiad biolegol hwn o nitrogen o bosibl ddisodli hyd at 150 kg/ha o wrtaith synthetig, gan arwain at arbedion cost sylweddol.

Mae rhagor o fanteision i feillion gwyn na lleihau costau yn unig. Mae gan feillion gwyn y treuliadwyedd uchaf o blanhigion glaswelltir cyffredin a chynnwys protein crai uchel, gan arwain at borfeydd o ansawdd uwch i anifeiliaid sy'n pori.

Mae gwaith ymchwil o Iwerddon wedi darparu tystiolaeth ddiddorol dros ben. Mae ffermydd llaeth sy’n trawsnewid i laswellt sy’n seiliedig ar feillion wedi haneru eu defnydd o wrtaith nitrogen wrth gynnal neu hyd yn oed gynyddu cynhyrchiant llaeth. Yn nodedig, cyflawnodd un prosiect yr allbwn llaeth cyfartalog cenedlaethol gyda dim ond hanner y mewnbwn gwrtaith cyfartalog cenedlaethol, sy’n dangos y pŵer sydd gan feillion.

Bydd y prosiect yn archwilio dau ddull o wneud y mwyaf o botensial meillion gwyn:

  • Tros-hau glaswelltiroedd presennol: er mwyn cymharu meillion gwyn safonol ag amrywiaeth hybrid ar gyfraddau hadu gwahanol

  • Ail hadu llawn: archwilio’r opsiwn i ail hadu’n llawn, gan gynnwys trin arwyneb y tir

Bydd y prosiect yn monitro sefydliad y meillion yn ofalus, y deunydd sych a gynhyrchir, ansawdd y glaswelltir, a’r cyfansoddiad botanegol trwy gydol y tymor tyfu. Yn ogystal, bydd cynnyrch ac ansawdd llaeth yn cael eu holrhain i asesu'r effaith ar gynhyrchiant cyffredinol.

Trwy fonitro cynnydd y treial yn ofalus, y nod yw pennu'r gyfradd gwasgaru gwrtaith N orau posibl ar gyfer glaswelltir lle mae meillion yn drech. Mae'n bosibl y bydd hyn yn caniatáu gostyngiad mewn costau wrth gynnal neu gynyddu cynhyrchiant.
Trwy ysgogi gwelliant pellach mewn effeithlonrwydd yn y meysydd busnes allweddol hyn, bydd y prosiect hefyd yn cyfrannu at ganlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy, gan gynnwys:

  • Gwneud y mwyaf o storio ac atafaelu carbon wrth leihau ôl troed carbon y fferm gyfan

  • Aer glân yn sgil llai o anweddolrwydd posibl o wrtaith nitrogen anorganig

  • Dŵr glân yn sgil llai o ddŵr ffo posibl o wrtaith nitrogen anorganig 

Llinell Amser Prosiect Diweddaraf

Diweddariad Terfynol

Canlyniadau allweddol:

  • Dim ond rhwng mis Mai a mis Hydref 2025 y cynyddodd y gorchudd meillion yn sylweddol. Roedd 70% o gynnwys meillion yn rhai rhannau.
  • Cofnodwyd y dwysedd stolonau mwyaf (m/m2) ar gyfer AberLasting yn y ddau gae arbrofol, sy'n awgrymu twf llorweddol uwch a mwy o ddyfalbarhad o bosibl o’i gymharu â'r cymysgedd safonol.

Cefndir: 

Mae'r prosiect hwn yn ymchwilio i feillion gwyn. Codlysiau yw’r rhain sy'n fodd o arbed costau sylweddol gwrtaith nitrogen ar fferm glaswelltir. Mae gwreiddgnepynnau’n cynnwys bacteria sy'n sefydlogi nitrogen, ac mae hyn yn golygu bod nitrogen atmosfferig yn cael ei ddal a'i drawsnewid yn ffurf y gall planhigion ei defnyddio. Gall hyn gymryd lle hyd at 150 kg/ha o wrtaith synthetig o bosibl. Hefyd, mae gan feillion gwyn y treuliadwyedd uchaf o’r holl blanhigion glaswelltir cyffredin. Mae ganddo gynnwys protein crai uchel, hefyd, sy’n arwain at borfeydd o ansawdd uwch ar gyfer anifeiliaid sy’n pori. 

Diben y gwaith: 

  1. Gwella effeithlonrwydd defnyddio nitrogen trwy gynyddu cynnwys meillion gwyn mewn gwndwn glaswellt
  2. Cymharu modd sefydlu a pherfformiad gwahanol fathau o feillion gwyn
  3. Gwerthuso ymarferoldeb tros-hau fel dull sefydlu

Yr hyn a wnaed: 

Cynhaliwyd yr arbrawf mewn dau gae glaswelltir (Cae Ysgol a Chae Bargoed), wedi'u drilio'n uniongyrchol ar ddechrau mis Mehefin 2024. Defnyddiwyd dyluniad lleiniau a oedd wedi’u rhannu i gymharu dwy driniaeth meillion yn erbyn ardal reoli:

  • Triniaeth 1: Cymysgedd meillion gwyn safonol.
  • Triniaeth 2: Meillion hybrid newydd sy'n cynhyrchu stolonau a rhisomau tanddaearol.
  • Rheoli: Stribed cyfagos ym mhob cae a oedd heb ei drin (dim meillion wedi'u drilio).

Cafodd y ddau fath o feillion eu tros-hau ar gyfradd o 2kg/erw gan ddefnyddio dril Erth Agriseeder (Ffigur 1). 

Er mwyn sicrhau bod y meillion yn sefydlu cystal â phosibl a lleihau cystadleuaeth gan laswellt, cymerwyd y camau canlynol:

  • Rheoli cyn drilio: Torrwyd y ddau gae ar gyfer silwair yn union cyn drilio i leihau uchder a biomas presennol y gwndwn.
  • Drilio: Cafodd y meillion eu drilio mewn un pas ar y cyd â gwasgaru pelenni gwlithod i liniaru pwysau gan blâu.
  • Rheoli ar ôl drilio: Cafodd caeau eu pori yn fuan ar ôl drilio. Cafodd y rownd bori ei byrhau dros dro i oddeutu 20 diwrnod i atal twf glaswellt a lleihau cystadleuaeth ymhellach yn erbyn yr eginblanhigion meillion a oedd yn dod i'r amlwg.
Erth Agriseeder drill


 Ffigur  1: Dril Erth Agriseeder

Asesiad o orchudd y tir: Meintiolwyd llwyddiant sefydlu’r meillion trwy asesu canran arwynebedd gorchudd tir y meillion gwyn o fewn cwadratau cynrychioliadol. Tynnwyd lluniau o'r ardaloedd hyn ar gyfer dadansoddiad digidol.

Asesiad morffolegol: Tynnwyd tyweirch cyfan o Gae Ysgol a Chae Bargoed. Cafodd y samplau hyn eu prosesu i fesur hyd stolonau ac i gadarnhau'n weledol bresenoldeb rhisomau yn benodol yn y math hybrid o feillion (Ffigur 2).

clover

 

Ffigur 2. Enghraifft o stolonau a gasglwyd o dywarchen 30 x 30cm


Canlyniadau:

  1. Sefydliad y meillion a gorchudd
    Dangosodd y planhigion meillion gynnydd sylweddol o ran gorchudd tir yn ystod tymor tyfu 2025, ond roedd y sefydliad yn parhau i fod yn amrywiol iawn ar draws y lleiniau.

    ●    Cyfnod sefydlu: Roedd angen cyfnod o 12 mis ar y planhigion meillion i gyrraedd eu datblygiad llawn, a oedd yn eu gwneud yn agored iawn i ddifrod a chystadleuaeth yn ystod y cyfnod hwn.
    ●    Cyfradd y cynnydd: Cynyddodd gorchudd y meillion yn sylweddol rhwng asesiad mis Mai 2025 (Ffigur 3, pan mai dim ond 8-12% oedd y lefelau) ac asesiad mis Hydref 2025 (Ffigur 4), sy'n dangos twf llwyddiannus ar ddiwedd y tymor.
    ●    Cymharu triniaethau: Dangosodd meillion hybrid AberLasting gynnwys meillion cyfartalog a oedd ychydig yn uwch yn y ddau gae o gymharu â'r cymysgedd safonol, er nad oedd y gwahaniaeth hwn yn ystadegol arwyddocaol.
    ●    Amrywioldeb: Roedd y gwndwn yn parhau i fod yn amrywiol iawn.
    ○    Roedd ardaloedd o’r gwndwn gyda gorchuddion glaswellt uchel (yn aml ger darnau o dir yn llawn wrin/tail) yn aml yn dangos ychydig iawn o blanhigion meillion.
    ○    Er bod gan sawl cwadrat dros 70% o orchudd meillion gweledol, roedd gan dros chwarter y cwadratau yn yr ardaloedd a oedd wedi'u hau lai na 5% o orchudd, yn ôl y cofnodion.

May 2025 Visual clover plant count



Ffigur 3. Mai 2025 Cyfrif planhigion meillion gweledol

October 2025 Visual clover plant count

Ffigur 4. Hydref 2025 Cyfrif planhigion meillion gweledol 

  1. Asesu stolonau a rhisomau
    Roedd gwaith asesu morffolegol yn canolbwyntio ar ddatblygiad stolonau a gwirio presenoldeb rhisomau yn y math hybrid.

    ●    Strwythur rhisomau: Ni welwyd tystiolaeth o unrhyw strwythurau rhisomau gwahanol yn nhyweirch meillion hybrid AberLasting, er bod hyn yn un o nodweddion allweddol ei ddisgrifiad.
    ●    Dwysedd stolonau (Tabl 1): Yn ôl y cofnodion, roedd gan AberLasting y dwysedd stolonau mwyaf (m/m2) yng Nghae Ysgol a Chae Bargoed, a oedd yn awgrymu twf llorweddol uwch a mwy o ddyfalbarhad o bosibl o gymharu â'r cymysgedd safonol.
    Tabl 1. Dwysedd stolonau
     

  2.  

    Dwysedd stolonau (m / m2)

     

    AberDairy

    AberLasting

    Cae Ysgol

    18

    23.5

    Cae Bargoed

    29

    38

  3. Sut i’w roi ar waith ar eich fferm: 
  4. Gwnewch yn siŵr bod y gwndwn presennol yn cael ei bori'n drwm neu ei dorri yn union cyn tros-hau. Ar gyfer y 12 mis cyntaf critigol, mabwysiadwch amserlen pori cylchdro fyrrach (e.e., tua 20 diwrnod o gylchdro) i atal glaswellt a chaniatáu i olau gyrraedd y planhigion meillion sy'n datblygu.
  5. Peidiwch â disgwyl canlyniadau unffurf ar draws y cae. Canolbwyntiwch ymdrechion rheoli ar gyflawni sefydliad cyffredinol da, yn hytrach na pherffeithrwydd
  6. Peidiwch â cheisio torri costau wrth reoli hadau neu blâu. Dylid ystyried cyfradd 2kg/erw fel y safon ofynnol wrth dros-hau mewn gwndwn cystadleuol, a rhaid defnyddio pelenni gwlithod yn ystod drilio, yn enwedig mewn amodau llaith a chyfnodau risg uchel
  7. Peidiwch ag asesu llwyddiant neu fethiant y planhigion yn ystod y misoedd cyntaf. Dim ond yn yr ail dymor tyfu llawn y bydd y newidiadau mwyaf effeithiol o ran sefydlogi N, cynnwys protein, a buddion pori yn cael eu gwireddu. Mae rheoli amynedd ar gyfer y flwyddyn gyntaf yn hanfodol.

Llinellau Amser Prosiect Blaenorol


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.