Mae Cymru wedi gweld cynnydd sydyn mewn ffermio dofednod dros y 15 mlynedd diwethaf, yn fwyaf nodedig mewn adar dodwy. Ym mis Awst 2022, amlygwyd bod dros 300 o siediau yn cynnwys dros 10 miliwn o adar ym Mhowys yn unig, sy’n fwy na’r cyfanswm o 9.5 miliwn o ddefaid yng Nghymru.
- Statws:
- Cyflawn
- Wedi'i ffermio gan:
- Robert Lyon
- Lleoliad:
- Lower House Farm, Llandrindod Wells
- Sector:
- Biff, Dofednod, Defaid
Trosolwg
Mae Cymru wedi gweld cynnydd sydyn mewn ffermio dofednod dros y 15 mlynedd diwethaf, yn fwyaf nodedig mewn adar dodwy. Ym mis Awst 2022, amlygwyd bod dros 300 o siediau yn cynnwys dros 10 miliwn o adar ym Mhowys yn unig, sy’n fwy na’r cyfanswm o 9.5 miliwn o ddefaid yng Nghymru. Ar ben hynny, mae’r unedau dofednod hyn bellach i’w gweld ledled ardaloedd ffermio glaswelltir, gyda llawer ohonyn nhw yn yr ucheldiroedd. Cyn hynny, roedden nhw’n tueddu i fod yn ardaloedd tir âr gororau Cymru.
Mae tail dofednod yn adnodd gwerthfawr sy’n cynnwys rhwng 2 a 4 gwaith yn fwy o lefelau nitrogen, ffosffad, potash a sylffwr na thail gwartheg (Tabl 1).
Felly, mae gan y defnydd o dail dofednod fel gwrtaith organig botensial mawr i ddisodli cynhyrchion gwrtaith a brynir, ond er mwyn cyflawni'r canlyniadau gorau, mae'n bwysig ei fod yn cael ei wasgaru pan fydd planhigion yn tyfu, ar gyfradd wasgaru briodol, a lle bo angen maetholion. Ond gall gorddefnydd o dail dofednod fel gwrtaith arwain at golli maetholion i’r amgylchedd trwy brosesau fel erydiad, dŵr ffo, trwytholchi ac anweddoli, a thrwy hynny gyfrannu at ddirywiad yn ansawdd yr aer, y pridd a’r dŵr.
Ceir cymhlethdodau pellach wrth integreiddio tail dofednod i leoliad glaswelltir lle defnyddir y tail gan gnwd sy’n tyfu fel porthiant a gaiff ei bori neu ei dorri ar gyfer bwyd anifeiliaid. Argymhellir y dylid caniatáu i dail dofednod ddadelfennu’n llawn cyn ei bori neu ei dorri er mwyn atal pathogenau rhag cael eu trosglwyddo. Awgrymir y dylai gymryd 4-6 wythnos. Nid yw'r amserlen hon bob amser ar gael ar blatfform pori cylchdro dwys neu system silwair amldoriad, ond gall fod yn fwy priodol lle mae cae'n cael ei drin ar gyfer cnwd âr.
Bydd y prosiect hwn yn archwilio sut i integreiddio tail dofednod o uned sy’n cynnwys 32,000 o adar dodwy ar ddwy fferm laswelltir yn y ffordd orau; mae gan un fuches laeth a defaid, a’r llall wartheg bîff a defaid.
Mae’r prosiect hwn yn cyd-fynd â chanlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy, gan gynnwys:
- Aer glân
- Dŵr glân
- Lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr fferm
- Gwneud y mwyaf o storio carbon wrth leihau ôl troed carbon y fferm gyfan
- Defnyddio adnoddau’n effeithlon
Llinell Amser Prosiect Diweddaraf
Adroddiad Terfynol
Cwmpas y gwaith
Bydd yr adroddiad hwn yn edrych ar sut y gellir integreiddio tail dofednod yn fwy cynaliadwy mewn systemau ffermio glaswelltir i sicrhau bod yr amgylchedd yn cael ei ddiogelu, a bod gwerth economaidd a maethol y deunydd yn cael ei wireddu.
Mae rheolaeth tail dofednod wedi cael ei asesu gan ddefnyddio enghraifft wirioneddol gan gasglu data a gwybodaeth o fferm Lower House Farm, un o ffermydd prosiect Cyswllt Ffermio. Darperir senarios gwasgaru tail i ddangos sut y gellir ei ddefnyddio’r effeithiol yn y system reoli bresennol ar gyfer caeau a chnydau.
Mae fferm Lower House Farm yn fferm bîff a defaid wedi’i lleoli yn Nolau, Llandrindod, Powys. Mae’r fferm yn cadw 600 o famogiaid bridio yn ogystal â rhwng 130-150 o wartheg bîff. Mae’r tir cynhyrchiol yn cael ei ddefnyddio fel tir âr a glaswelltir, gyda chaeau penodol ar gyfer cynhyrchu silwair a phori.
Mae gan y busnes hefyd uned o 32,000 o adar dodwy sy’n cynhyrchu 900 tunnell o dail y flwyddyn.
Yr hyn a wnaed
Cynhaliwyd gwaith samplu pridd ar bob cae ar y fferm gan ddadansoddi pH a ffosffad (P), potash (K) a magnesiwm (Mg) sydd ar gael i blanhigion. Cafodd tail sychach a gwlypach o’r uned ddodwy hefyd eu dadansoddi. Yna, lluniwyd cynlluniau rheoli maetholion manwl ar gyfer pob cae ar y fferm i wneud y defnydd gorau o gyfraniad tail dofednod i lefelau maetholion gofynnol ar gyfer tyfu cnydau.
Dadansoddiad o dail dofednod
Canlyniadau Dadansoddiad Labordy – Tail Dofednod Gwlyb – Tail Dofednod Dodwy | ||||||||
pH | Deunydd sych % (w/w) | Cyfanswm Nitrogen % (w/w) | Amoniwm Nitrogen mg/kg | Nitrad Nitrogen mg/kg | Cyfanswm ffosfforws % (w/w) | Cyfanswm potasiwm % (w/w) | Cyfanswm magnesiwm % (w/w) | Cyfanswm sylffwr % (w/w) |
5.44 | 23.0 | 4.9 | 5,095 | <10 | 1.02 | 1.41 | 0.378 | 0.340 |
Cyfanswm fesul tunnell ffres | ||||||||
- | Kg DM | Kg N | Kg nh4-n | Kg NO3-N | Kg P205 | Kg K20 | Kg MgO | Kg SO3 |
230 | 11.27 | 1.17 | <0.01 | 5.37 | 3.89 | 1.44 | 1.96 | |
Canlyniadau Dadansoddiad Labordy – Tail Dofednod Sych – Tail Dofednod Dodwy | ||||||||
pH | Deunydd sych % (w/w) | Cyfanswm Nitrogen % (w/w) | Amoniwm Nitrogen mg/kg | Nitrad Nitrogen mg/kg | Cyfanswm ffosfforws % (w/w) | Cyfanswm potasiwm % (w/w) | Cyfanswm magnesiwm % (w/w) | Cyfanswm sylffwr % (w/w) |
8.09 | 76.4 | 3.53 | 1,590 | <10 | 1.20 | 2.53 | 0.561 | 0.444 |
Cyfanswm fesul tunnell ffres | ||||||||
- | Kg DM | Kg N | Kg nh4-n | Kg NO3-N | Kg P205 | Kg K20 | Kg MgO | Kg SO3 |
764 | 26.97 | 1.21 | <0.01 | 20.99 | 23.20 | 7.11 | 8.48 | |
Gwerth ariannol
Gwerth cyfwerth â gwrtaith ar gyfer Tail Organig | |||||||||||
Nitrogen | Ffosffad | Potash | |||||||||
Tail organig | Cyfanswm Nitrogen (Kg/t) | NH4N (Kg/t) | Effeithlonrwydd N % | N ar gael i’r cnydau | £/ tunnell | Cyfanswm P2O5 (Kg/t) | Cyfanswm P2O5 ar gael i’r cnydau | £/ tunnell | Cyfanswm K2O (Kg/t) | Cyfanswm K ar gael i’r cnydau | £/ tunnell |
Tail Dofednod Gwlyb | 11.27 | 1.17 | 40 | 4.5 | 4.37 | 5.37 | 3.22 | 5.26 | 3.89 | 3.50 | 2.37 |
Tail Dofednod Sych | 26.97 | 1.21 | 40 | 10.8 | 10.48 | 20.99 | 12.59 | 20.57 | 23.20 | 20.88 | 14.15 |
Mae hyn yn dangos bod gwerth ariannol tail dofednod oddi ar y belt yn £12.00 fesul tunnell ffres a gwerth ariannol y tail dofednod oddi ar y llawr yn £42.50 fesul tunnell ffres, o ran lefelau N, P a K. Dylid bod yn ofalus wrth ddehongli’r gwerthoedd hyn gan y byddant yn amrywio gan ddibynnu ar y math o bridd, mynegai’r pridd ac amseriad a dull gwasgaru.
Buddion a chyfyngiadau i’w defnyddio
Gall tail dofednod fod yn adnodd gwerthfawr sy’n gallu darparu maetholion hanfodol gan wrthbwyso’r angen am wrteithiau anorganig yn sylweddol. Ar gyfer mentrau ffermio megis Lower House Farm, gellir gwaredu’r angen i brynu gwrteithiau ffosffad os gellir defnyddio gwrteithiau organig yn effeithiol o fewn y Cynllun Rheoli Maetholion. Gall ychwanegu deunydd organig i’r pridd hefyd gynnig buddion o ran iechyd y pridd a pherfformiad cnydau.
Mae ymgorffori tail dofednod yn y pridd yn cynyddu effeithlonrwydd nitrogen. Gallai tyfu cnydau âr fel rhan o’r system ail hadu fod yn opsiwn da ar gyfer defnyddio tail dofednod yn ogystal ag wrth sefydlu gwndwn glaswellt newydd lle byddai modd i’r deunydd gael ei ymgorffori.
Ceir nifer o gyfyngiadau ar y defnydd o dail dofednod sydd angen ystyriaeth:
- Gall y lefelau uchel o faetholion achosi problemau amgylcheddol sylweddol os na chaiff y tail ei reoli a’i drin yn gywir, ac mae ganddo’r potensial hefyd i effeithio ar dwf cnydau a’u gallu i sefydlu
- Nid yw caeau pori fel arfer yn addas ar gyfer derbyn tail dofednod o ganlyniad i’r gofynion ffosffad isel a’r cyfyngiadau ychwanegol o ran atal pori ar ôl ei wasgaru o ganlyniad i gynnwys pathogenau posibl. Ni argymhellir pori o fewn 8 wythnos o wasgaru tail dofednod, neu tan fod arwyddion gweledol o’r tail wedi diflannu.
- Yng Nghymru, mae’n rhaid cydymffurfio gyda’r Rheoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol o ran storio, rheoli a gwasgaru’r deunydd i osgoi llygredd amgylcheddol.
Mae defnyddio tail dofednod fel gwrtaith organig mewn systemau ffermio da byw yn gallu cyflwyno anawsterau pellach. Bydd y caeau’n cynnwys lefelau uchel o faetholion o ganlyniad i hanes o wasgaru gwrtaith organic. Mae hyn yn lleihau faint o gaeau sy’n gallu derbyn tail dofednod neu’n lleihau’r cyfraddau gwasgaru, gan gyfyngu ar faint mae’r fferm yn gallu ei ddefnyddio bob blwyddyn. - Gellir defnyddio’r deunydd Tail Dofednod Gwlyb ar draws mwy o systemau cynhyrchu ar fferm Lower House Farm o ganlyniad i’r lefelau maetholion is fesul tunnell ffres, fodd bynnag, ceir anfanteision o’i ddefnyddio o’i gymharu â Tail Dofednod Sych:
- Mae tail dofednod gyda llai o ddeunydd sych yn cynhyrchu mwy o allyriadau amonia
- Bydd angen mwy o gapasiti storio ar gyfer y deunydd hwn
- Mae’n anoddach ei drin, ac mae’r gwasgariad yn llai cywir
- Argymhellir y dylid cynhyrchu’r deunydd sychach, ond ceir llai o gyfleoedd i ddefnyddio’r deunydd hwn fel rhan o’r broses gynllunio maetholion ar fferm Lower House Farm. Bydd angen gwneud gwaith pellach i ddod o hyd i ddatrysiadau ar gyfer rheoli’r deunydd.
Opsiynau Rheoli – Gwaith at y dyfodol
- Bydd ffermydd da byw gyda dofednod yn aml yn cynhyrchu mwy o dail nag y gallant ei ddefnyddio’n gynaliadwy ar eu ffermydd eu hunain. Un o’r marchnadoedd allweddol ar gyfer y deunydd hwn yw ffermydd tir âr lleol gyda phrinder tail organig lle bydd mwy o ofynion o ran maetholion. Bydd amlygu gwerth y deunydd hwn a’i fuddion posibl yn allweddol wrth ddatblygu marchnad leol amdano.
- Dylid archwilio opsiynau rheoli a phrosesu ar gyfer y deunydd penodol ar gyfer y fenter ar fferm Lower House Farm er mwyn gallu cynhyrchu deunydd mwy defnyddiol a chynaliadwy. Gallai’r opsiynau hyn gynnwys:
- Compostio – Er mwyn i’r broses gompostio fod yn effeithiol, bydd angen ychwanegu ffynhonnell garbon i gynyddu’r gymhareb Carbon:Nitrogen. Mae hyn yn cynyddu effeithiolrwydd y deunydd ar gyfer gwella iechyd y pridd, ac mae hefyd yn gallu lleihau trwytholchi nitradau. Bydd y deunydd wedi’i gompostio hefyd mewn ffurf sy’n haws ei reoli o ran storio a gwasgaru.
- Cymeriant diet – bydd lleihau cymeriant yr adar o nitrogen a ffosfforws yn lleihau’r cyfanswm sydd yn y tail. Byddai modd gwneud gwaith pellach gyda maethegydd dofednod i ganfod sut i addasu dietau.
- Defnydd mewn systemau eraill - Gallai treulio anaerobig fod yn opsiwn er mwyn i’r tail gynhyrchu gwres a phŵer ychwanegol y byddai modd eu defnyddio ar y fferm. Bydd treulio’r deunydd yn cynyddu effeithlonrwydd defnydd nitrogen, ond gallai hefyd arwain at gynnydd yn y cynnwys nitrogen sydd ar gael yn y gweddillion treulio anaerobig a chynyddu’r potensial ar gyfer trwytholchi.
- Ychwanegion tail dofednod – Gallai lleihau hydoddedd ffosfforws yn y tail helpu i leihau’r colledion wrth wasgaru. Gall ychwanegion sy’n gostwng pH y tail arwain at ddargadw ffosfforws, gan leihau hydoddedd. Bydd y pH is hefyd yn arwain at lai o allyriadau amonia.