BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Prosiect Graianfryn

Adolygiad o fenter gwartheg: Gwneud penderfyniadau gwybodus sy'n seiliedig ar ddata

Mae Fferm Graianfryn, gweithrediad 295 erw gyda dwysedd stocio cyfredol o 1.84 o unedau da byw, yn defnyddio pori cylchdro a rhaglen fwydo TMR sy'n cynnwys haidd y gwanwyn a dyfir ar y fferm ei hun.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Mawrth 2026
Diweddarwyd diwethaf:
24 Mawrth 2026
Statws:
Cyflawn
Wedi'i ffermio gan:
Gerallt Jones
Lleoliad:
Graianfryn, Llanfachraeth
Sector:
Biff, Defaid

Trosolwg

Mae Fferm Graianfryn, gweithrediad 295 erw gyda dwysedd stocio cyfredol o 1.84 o unedau da byw, yn defnyddio pori cylchdro a rhaglen fwydo TMR sy'n cynnwys haidd y gwanwyn a dyfir ar y fferm ei hun. Ar hyn o bryd mae’r fferm yn rhedeg menter bîff a llaeth (dros 300 pen) ochr yn ochr â 500 o ddefaid Miwl Gogledd Lloegr.

Mae adolygiad o’r busnes yn ddiweddar wedi amlygu meysydd posibl i’w gwella o fewn y fenter bîff, gan gynnwys defnyddio amrywiaeth ehangach o brotein a dyfir gartref a newid o system besgi i werthu gwartheg stôr/newydd eu diddyfnu. Yr hyn sy'n allweddol i broffidioldeb mewn menter besgi yw sicrhau bod gwartheg yn bodloni'r manylebau gofynnol er mwyn osgoi cosbau. Caiff monitro rheolaidd a meddalwedd eu defnyddio ar hyn o bryd i gofnodi enillion pwysau byw, gan sicrhau nad oes unrhyw anifail nad yw'n magu digon o bwysau yn cael ei gadw ar y fferm.

Bydd astudiaeth bwrdd gwaith yn defnyddio ymarferion modelu i ddarparu tystiolaeth, data, ac awgrymiadau i fireinio'r fenter bîff ar fferm Graianfryn. Adolygir perfformiad technegol ac ariannol, ac ymchwilir i newidiadau rheoli posibl gyda'r nod o wella effeithlonrwydd a pherfformiad y fenter yn gyffredinol. Ein nod yw grymuso Graianfryn gyda’r mewnwelediadau angenrheidiol i wneud penderfyniadau gwybodus a yrrir gan ddata, gan sicrhau twf parhaus y fferm a’i heffaith gadarnhaol o fewn y diwydiant.

Bydd y prosiect hefyd yn cyfrannu at ganlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy, gan gynnwys:

  • defnyddio adnoddau’n effeithlon 
  • llai o allyriadau nwyon tŷ gwydr
  • safonau iechyd a lles anifeiliaid uchel 

Llinell Amser Prosiect Diweddaraf

Canlyniadau Allweddol Adolygiad o Fenter Pesgi Bîff Graianfryn:

  • Elw Net: £19 fesul anifail wedi’i besgi neu £0.03/kg pwysau byw, sy’n perfformio’n sylweddol uwch na chyfartaledd y diwydiant gyda cholledion o £0.31/kg ar gyfer gwartheg bîff wedi’u pesgi.
  • Costau Amrywiol: £116,158 yn 2023, gyda chostau porthiant (£84,748) yn gyfrifol am y gwariant mwyaf.
  • Costau Sefydlog: £41,002, gan arwain at gyfanswm costau cynhyrchu o £157,160 ac elw net o £2,009.
  • Pesgi Gwartheg vs Gwartheg Stôr: Roedd pesgi gwartheg hyd at 600kg yn fwy proffidiol na’u gwerthu yn 450kg fel gwartheg stôr, gydag elw o £130.45 y pen yn uwch dan do a £195.90 y pen yn uwch yn yr awyr agored. Mae’r ffigurau hyn yn seiliedig ar brisiau’r farchnad yn 2023.
  • Rheoli Porthiant: Mae defnyddio haidd a dyfir gartref yn helpu i wrthbwyso costau, ond mae tywydd gwael yn her o ran cynhyrchu porthiant. 

Cefndir

Mae fferm Graianfryn yn fenter 295 erw gyda dwysedd stocio o 1.84 uned da byw fesul hectar, gan ddefnyddio system bori cylchdro a rhaglen fwydo dogn cymysg cyflawn, gan gynnwys haidd y gwanwyn a dyfir gartref. Mae’r fferm yn cadw 300 o wartheg bîff o wartheg llaeth a 500 o famogiaid Miwl Gogledd Lloegr. Fe wnaeth adolygiad diweddar ganfod cyfleoedd i wella’r fenter bîff, megis arallgyfeirio i brotein a dyfir gartref ac ystyried gwerthu gwartheg fel stôr/lloi diddwyn yn hytrach nag wedi’u pesgi. Mae’r cynnig hwn yn amlinellu astudiaeth i asesu gwahanol systemau gwartheg, adolygu perfformiad technegol ac ariannol, ac archwilio newidiadau mewn rheolaeth i wella effeithlonrwydd, gan gyfrannu at nodau rheoli tir yn gynaliadwy.

Pwrpas y gwaith 

  • Canfod aneffeithlonrwydd o fewn y system bresennol ar fferm Graianfryn sy’n effeithio ar broffidioldeb ac edrych ar welliannau posibl.
  • Asesu opsiynau rheoli amgen, gan gynnwys newidiadau o ran brîd a geneteg, i wella perfformiad gwartheg.
  • Cynnal dadansoddiad cost-effeithiolrwydd i gymharu magu lloi ar y fferm gyda phrynu lloi wedi’u diddyfnu, gan werthuso goblygiadau ariannol, risgiau a manteision strategol. 

Yr hyn a wnaed

Bu’r astudiaeth ddesg yn adolygu data presennol y fferm i ganfod unrhyw ddiffyg effeithlonrwydd mewn perfformiad gwartheg, ac yn edrych ar addasiadau yn ymwneud â rheoli, newidiadau o ran brîd, a strategaethau i wneud y defnydd gorau o brotein. Bu dadansoddiad cost-effeithiolrwydd yn cymharu system o fagu lloi ar y fferm gyda phrynu lloi wedi’u diddyfnu a gwartheg stôr. 

  • Casglu ac Adolygu Data:
    •  Casglu data cynhyrchiant ac ariannol (cyfraddau twf, trosiant bwyd, data iechyd, elw gros ac ati).
    • Meincnodi yn erbyn data AHDB a’r Adolygiad Busnesau Fferm.
  • Dadansoddi Costau:
    • Cymharu costau magu lloi gyda phrynu lloi wedi’u diddyfnu.
    • Amcangyfrif costau llafur, milfeddygon a bwyd ar gyfer magu lloi.
  • Datblygu Senario a Modelu:
    • Asesu’r dogn gorau posibl, dewis brid a rheolaeth iechyd.
    • Cymharu costau pesgi gyda phrisiau gwerthu gwartheg stôr 18 mis oed. 

Canlyniadau

Mae adolygiad o’r fenter yn dangos bod menter pesgi gwartheg bîff o anifeiliaid llaeth ar fferm Graianfryn yn lled-broffidiol ond yn sensitif iawn i amrywiadau mewn costau porthiant a phrisiau gwerthu gwartheg, a allai arwain at wneud colled. Mae angen monitro parhaus i sicrhau hyfywedd hirdymor.

  • Costau Porthiant: Y gost fwyaf yw porthiant, ar gyfanswm o £84,748, sy’n gyfrifol am 73% o’r costau amrywiol a 54% o gyfanswm costau cynhyrchu. Mae hyn yn amlygu’r angen am ddadansoddiad pellach o ddognau gwartheg a phorthiant a dyfir gartref i archwilio cyfleoedd i arbed arian heb leihau allbynnau, a allai gynyddu elw.
  • Proffidioldeb: Yn 2023, llwyddodd y busnes i wneud elw net o £19 fesul anifail wedi’i besgi, neu £0.03/kg o bwysau byw a werthwyd, sy’n well na cholled gyfartalog y diwydiant o £0.31/kg ar gyfer gwartheg bîff wedi’u pesgi. Er ei fod yn broffidiol, mae’r elw’n fach iawn ac yn sensitif i gynnydd mewn costau.
  • Strategaeth Ehangu: Mae’r busnes yn cynyddu nifer y gwartheg, a ddylai helpu i leihau gorbenion fesul uned a chynyddu elw, gan gymryd bod ffigurau elw gros yn aros yn sefydlog. Gallai’r broses ehangu gynnig arbedion maint a gwella perfformiad ariannol ymhellach.
  • Pesgi v gwerthu gwartheg stôr: Mae’r dadansoddiad ariannol yn dangos bod pesgi gwartheg hyd at 600kg yn fwy proffidiol na’u gwerthu yn 450kg fel gwartheg stôr, gydag elw £130.45 y pen yn uwch ar gyfer systemau dan do a £195.90 y pen yn uwch ar gyfer systemau awyr agored. Fodd bynnag, mae angen ystyried costau llafur a gorbenion ychwanegol. 
  • Cyfnod pontio 2023: Mae ffigurau 2023 yn adlewyrchu pontio i system newydd, gan gynnwys costau magu ychwanegol nad ydynt wedi’u cydbwyso gyda gwerthiant hyd yn hyn. Bydd adolygiad dilynol ar ôl i’r system sefydlogi yn cynnig darlun ariannol mwy eglur.

I grynhoi, gall gwella cost-effeithlonrwydd porthiant, cynyddu nifer y gwartheg, a mireinio arferion rheoli wella proffidioldeb a sicrhau cynaliadwyedd hirdymor.

Canllaw 5 cam i gyflwyno gwelliannau i’r fenter bîff ar eich fferm

  1. Monitro ac asesu perfformiad ariannol presennol
  • Adolygwch ddata ariannol eich fferm, gan gynnwys costau cynhyrchiant, costau bwyd a phrisiau gwerthu gwartheg.
  • Cyfrifwch eich elw net fesul anifail wedi’i besgi, a chymharu hynny gyda ffigurau’r diwydiant.
  1. Dadansoddi costau porthiant a gwella effeithlonrwydd porthiant
  • Nodwch gyfran y costau porthiant yng nghyfanswm eich costau cynhyrchu (yn achos Graianfryn, roedd costau porthiant yn 54% o gyfanswm yr holl gostau).
  • Adolygwch ddognau’r gwartheg ac archwiliwch ffyrdd i gynyddu’r defnydd o borthiant a dyfir gartref a lleihau dibyniaeth ar fwyd a brynir i mewn.
  1. Gwerthuso opsiynau rheoli amgen a dewis brid
  • Aseswch a fyddai newid i wahanol fridiau neu fridiau croes yn gwella trosiant bwyd a pherfformiad ar eich system sy’n seiliedig ar borthiant.
  • Arbrofwch gyda gwahanol ddulliau pesgi (e.e. systemau dan do o’i gymharu â systemau awyr agored) i ganfod yr opsiwn mwyaf 
    cost-effeithiol a phroffidiol.
  1. Cymharu magu lloi gyda phrynu lloi wedi’u diddyfnu
  • Cyfrifwch gostau magu lloi ar eich fferm o’i gymharu â phrynu lloi wedi’u diddyfnu neu wartheg stôr.
  • Dylid cynnwys yr holl gostau perthnasol yn eich dadansoddiad, megis porthiant, gofal milfeddygol, llafur a risgiau marwolaeth posibl.
  • Datblygu model ariannol i gymharu cost-effeithlonrwydd a phroffidioldeb pob dull.
  1. Tyfu a monitro
  • Os bydd adnoddau’n caniatáu, ystyriwch gynyddu nifer y gwartheg er mwyn elwa o arbedion maint a lleihau gorbenion.
  • Parhau i fonitro perfformiad ariannol ac amodau’r farchnad er mwyn addasu strategaethau yn ôl yr angen.

Llinellau Amser Prosiect Blaenorol


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.