BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Prosiect Glascoed

Prosiect Glascoed

Gweler isod am ragor o fanylion am y prosiectau a gwblhawyd ar fferm Glascoed.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Mehefin 2026
Diweddarwyd diwethaf:
15 Mehefin 2026
Statws:
Cyflawn
Wedi'i ffermio gan:
Alwyn & Dylan Nutting
Lleoliad:
Glascoed, Newtown
Sector:
Biff

Trosolwg

Adolygu’r ddiadell i gyflawni nodau busnes hirdymor

Mae Fferm Glascoed yn ddaliad 250 erw sy'n rhedeg tair diadell sy'n cynnwys mamogiaid croes Aberfield, mamogiaid croes Highlander, a mamogiaid Cymreig, ochr yn ochr â buches o wartheg. Mae Fferm Glascoed wedi ymrwymo i welliant parhaus, ac mae wedi gwella ei effeithlonrwydd gweithredol dros y blynyddoedd diwethaf. Cyflawnwyd hyn trwy ffocws strategol ar wneud y defnydd gorau o borthiant ac ymgorffori gwndwn aml-rywogaeth yn eu rhaglen pori cylchdro. Mae'r dull hwn wedi arwain at ostyngiad nodedig mewn mewnbynnau allanol wrth gynnal lefelau cynhyrchu a lleihau ôl troed carbon y fferm.

Gan adeiladu ar y llwyddiant hwn, mae Fferm Glascoed yn cynnal adolygiad perfformiad cynhwysfawr. Bydd y prosiect hwn yn darparu dadansoddiad manwl o berfformiad presennol y fferm, gan nodi meysydd cryfder a chyfleoedd ar gyfer optimeiddio pellach o ran effeithlonrwydd a'u hôl troed carbon. Bydd yr adolygiad yn trosoli llwyddiannau’r gorffennol er mwyn llywio’r gwaith o ddatblygu cynllun gweithredu wedi’i ddiffinio’n dda, gan sicrhau cynaliadwyedd hirdymor Fferm Glascoed a’i ffyniant parhaus.

Bydd y prosiect hefyd yn cyfrannu at ganlyniadau’r cynllun Rheoli Tir yn Gynaliadwy gan gynnwys:

  • lefel uchel o iechyd a lles anifeiliaid
  • defnyddio adnoddau’n effeithiol
  • ecosystemau cydnerth

Llinell Amser Prosiect Diweddaraf

Prif ganlyniadau

  • Tyfodd yr ŵyn ar y tair triniaeth ar yr un gyfradd bron iawn drwy gydol yr arbrawf, gan awgrymu nad ychwanegu elfennau hybrin ar ffurf seleniwm, ïodin a chobalt oedd y ffactor a oedd yn cyfyngu ar eu perfformiad
  • Mae’n bosibl bod tywydd gwael a phorfa gyda lefel isel o ddeunydd sych oedd y prif ffactorau a oedd yn achosi cyfraddau twf isel, ond gallai ymchwiliad trylwyr o statws copr yr ŵyn fod o fudd i helpu i ddeall a oes hefyd angen copr. Gellir gwneud hyn drwy samplu gwaed, neu’n fwy manwl drwy fesur storfeydd copr yn yr iau  
  • Er bod yr arbrawf i’w weld yn dangos dim gwahaniaeth rhwng y tri dull o roi ychwanegion, mae’r canlyniadau’n pwysleisio bod modd gwastraffu llawer o arian ar ychwanegion os mae ffactorau pwysig eraill – megis y tywydd, maeth ac iechyd - yn dylanwadu’n sylweddol.
  • Roedd costau’r tair triniaeth yn wahanol iawn gyda’r ychwanegion a brynwyd ar ffurf dos a bolws yn llawer drytach na’r dos a gymysgwyd gartref. Byddai ailadrodd y gwaith yn fuddiol, gan gynnwys copr o fewn un neu bob un o’r triniaethau o bosibl

Cefndir

Mae diffyg elfennau hybrin wedi cael ei nodi ar fferm Glascoed dros y blynyddoedd diwethaf, a dangosodd archwiliad mwynau a ariannwyd yn rhannol drwy Wasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio yn 2021 fod ïodin a seleniwm yn bryder penodol. Roedd rhywfaint o bryder hefyd ynglŷn â chopr gan fod lefelau sylffwr a molybdenwm yn y porthiant yn gymharol uchel, a allai fod yn effeithio ar amsugniad copr. Argymhellwyd y dylid monitro copr drwy ddadansoddiad o’r iau a'r gwaed. 

Diben y gwaith:

Gan fod pob un o’r elfennau a enwyd yn effeithio ar iechyd a pherfformiad ŵyn, penderfynwyd cymharu tri gwahanol fath o ychwanegion i asesu eu heffaith ar gyfradd twf ac iechyd yr ŵyn.

Yr hyn a wnaed

Cafodd yr ŵyn eu neilltuo ar hap i un o’r tri grŵp gan dderbyn un o’r triniaethau canlynol:

  • Bolws ŵyn â phatent (B)
  • Dos defaid â phatent (PD)
  • Dos a gymysgwyd gartref yn cynnwys cobalt, seleniwm ac ïodin (HM)

Roedd yr ŵyn yn gymysgedd o groesiadau: Aberfield, Highlander, Oxford a Texel. Roedd mwy na 55% ohonynt yn ŵyn benyw gan fod mwyafrif yr ŵyn yn yr arbrawf yn deillio o hyrddod mamol ac roedd yr ŵyn benyw yn cael eu cadw. Roedd y nifer fach o ŵyn Oxford a Texel yn ŵyn RamCompare a anwyd yn hwyr iawn.

Iechyd

  • Derbyniodd pob un o’r ŵyn driniaeth Scabivax (i atal orff) a Click Extra (dicylanil) i atal cynrhon, ar 30 Ebrill i’r rhai a oedd yn mynd i’r tir comin ac ar 27 Mai i’r rhai a oedd yn aros ar y fferm.  
  • Rhoddwyd Albex (benzimidazole) i’r holl ŵyn budr rhwng 25-28 Mai.
  • Gan ddefnyddio dull triniaeth ddethol wedi’i thargedu, rhoddwyd dos briodol o Animec (ivermectin) rhwng 20-25 Mehefin i’r holl ŵyn a oedd yn magu llai na 150g y dydd.
  • Rhoddwyd Animec i ŵyn a oedd yn magu llai na 150g y dydd rhwng 19-21 Gorffennaf.
  • Cafodd ŵyn eu brechu rhag clefydau clostridiol gan ddefnyddio Bravoxin rhwng 20-24 Awst.
  • Rhoddwyd Chanavern (levamisole) rhwng 4-6 Medi i ŵyn a oedd yn magu llai na 120g y dydd, a rhoddwyd y driniaeth i’r holl ŵyn rhwng 21 a 23 Medi.
  • Cafodd ŵyn benyw eu brechu rhag tocsoplasmosis (Toxovax) ac erthylu ensöotig (Enzovax) ar 10 Hydref.
  • Ar ôl diddyfnu, rhannwyd yr ŵyn yn ddau grŵp (gyda phob triniaeth wedi’i chynrychioli’n deg ym mhob grŵp) a buont yn pori cnydau a ail heuwyd yn ddiweddar neu borfeydd llysieuol. Cafodd yr ŵyn eu tynnu allan ddechrau mis Hydref a rhoddwyd dwysfwyd i’r gweddill a oedd yn cael eu cadw dan do ar 24 Hydref (diwedd yr arbrawf).

Triniaethau

Cafodd y dos a gymysgwyd gartref ei gymysgu ar y fferm (gan ddilyn yr holl gamau diogelwch angenrheidiol) dwy hydoddi 4.2g o sodiwm selenat, 20g o botasiwm ïodid a 33g o gobalt mewn 5 litr o ddŵr. Cost y cynhwysion oedd £15.58/5 litr neu £3.27c/dos 10.5ml. Roedd hyn yn ddigon i drin 100 o ŵyn wedi’u diddyfnu bob 3 wythnos ar gyfradd o 10.5ml/dos – 4 gwaith gyda rhywfaint dros ben. Mae fformiwleiddiad pob cynnyrch i’w weld yn nhabl 1 isod.

Tabl 1 – Fformwla’r cynhyrchion 

  CobaltSeleniwmÏodinCost drwy gydol yr arbrawf £/oen
BolwsCyfanswm g185100660 
 mg/dydd0.670.332.40.89
Dos â phatent (dos 5 ml)Cyfanswm mg/l50025010001.00 (am 5 dos) 
Am dair wythnosmg/dydd0.120.060.24 
Dos a gymysgwyd gartrefCyfanswm mg/l1.390.3533.06 
Dos 10.5ml /21 diwrnodmg/dydd0.690.181.530.164 (am 5 dos)

Cafodd yr ŵyn cyntaf i gael eu cynnwys yn yr arbrawf eu pwyso ar 20 Gorffennaf (96 diwrnod yn yr arbrawf) a’u neilltuo ar hap ar gyfer triniaethau, gan dderbyn y dos neu’r bolws a ragnodwyd. Cafodd mwy o ŵyn eu hychwanegu i’r grwpiau ar 28 Gorffennaf (88 diwrnod), 9 Awst a 13 Awst.  Rhoddwyd y bolws wrth i’r ŵyn ymuno â’r arbrawf, yn yr un modd â’r triniaethau gyda dos, ond cafodd y dos a gymysgwyd gartref a’r triniaethau dos â phatent eu hailadrodd pedair/pum gwaith gyda bwlch o oddeutu 3 wythnos.

Canlyniadau

  • Roedd ŵyn yn iach ar y cyfan drwy gydol cyfnod yr arbrawf, gydag oddeutu traean o’r ŵyn yn derbyn triniaeth llyngyr ar ôl i’r gyfradd twf ddisgyn yn is na’r targed ar 20 Gorffennaf, 5 Medi a 22 Medi.
  • Mae cyfrif wyau ysgarthol yn cael ei wneud yn rheolaidd ar y fferm ac ni ystyriwyd fod parasitiaid mewnol yn broblem sylweddol yn ystod haf/hydref 2024, er gwaetha’r tywydd gwael.  
  • Roedd nifer fach o’r ŵyn yn rhan o’r arbrawf am lai na 40 diwrnod, a chafodd y rhain eu heithrio o gyfrifiadau enillion pwysau byw dyddiol. Cafodd pob un o’r ŵyn eu pwyso wrth ymuno â’r arbrawf ac unwaith eto ar 14 Awst, 6 Medi a 24 Hydref, oni bai eu bod wedi cael eu dethol i’w hanfon i’r lladd-dy. Yn ystod yr arbrawf, gwerthwyd cyfanswm o 8, 2 a 6 oen o’r grwpiau HM, B a PD yn y drefn honno. Cyfrifwyd cynnydd pwysau byw dyddiol ar gyfer pob oen dros gyfnod yr arbrawf cyn cyfrifo cyfartaledd. Roedd perfformiad yr ŵyn yn wael ar y cyfan, ar gyfartaledd o oddeutu 87g/dydd o fis Gorffennaf hyd fis Hydref, sy’n cael ei ystyried yn llawer is na’r targed ar gyfer ŵyn 4 i 6 mis oed (targed o 150g/dydd neu fwy).
  • Gallai’r tywydd gwael yn ystod haf 2024 fod yn gyfrifol am hyn gyda glawiad ymhell dros y cyfartaledd yn lleihau deunydd sych yn y glaswellt, cymeriant deunydd sych yr ŵyn a chyfyngu ar dwf.

Cofiwch drafod gyda’ch milfeddyg a maethegydd annibynnol cyn gwneud unrhyw newidiadau i ychwanegiadau i’ch diadell.

Tabl 2: Canlyniadau


 

Dos â phatent

Dos a gymysgwyd gartref


Bolws

    
Cyfanswm yr ŵyn yn yr arbrawf  >40 diwrnod

90

92

Cyfanswm yr ŵyn yn yr arbrawf  >40 diwrnod
Ŵyn benyw

53

50

Ŵyn benyw
Enillion pwysau byw dyddiol (DLWG) ŵyn benyw (g/dydd)

94

90

Enillion pwysau byw dyddiol (DLWG) ŵyn benyw (g/dydd)
Meheryn

37

42

Meheryn
Enillion pwysau byw dyddiol meheryn (g/dydd)

74

79

Enillion pwysau byw dyddiol meheryn (g/dydd)
DLWG cyfun (g/dydd)

86

88

DLWG cyfun (g/dydd)
Ŵyn bridiau croes  Ŵyn bridiau croes
Croesiadau Aberfield  

32

30

Croesiadau Aberfield  
Croesiadau Highlander  

56

60

Croesiadau Highlander  
Oxford x

2

1

Oxford x
Texel x

-

1

Texel x

Diolchiadau

Diolch o galon i Alwyn Nutting am gynnal a rheoli’r arbrawf, trin yr anifeiliaid a chasglu’r data. Diolch i Cyswllt Ffermio am gyflenwi’r ychwanegion elfennau hybrin.

Kate Phillips
21 Ionawr 2025


I gael cymorth neu gyngor busnes ffoniwch

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30yb a 5yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.