Un o brif yrwyr George Wozencraft yn Glanalders yw dod yn fwy hunangynhaliol mewn ynni wrth wella iechyd a lles adar. Mae gan George baneli solar 20kW wedi'u gosod ar ei system dec fflat 16,000 haen. Fodd bynnag, mae'r ynni a gynhyrchir ond yn cyfrannu tua thraean o'r gofyniad blynyddol ar gyfer y sied.
- Statws:
- Cyflawn
- Wedi'i ffermio gan:
- George Edward Wozencraft
- Lleoliad:
- Glanalders, Rhayader
- Sector:
- Dofednod
Trosolwg
Un o brif yrwyr George Wozencraft yn Glanalders yw dod yn fwy hunangynhaliol mewn ynni wrth wella iechyd a lles adar. Mae gan George baneli solar 20kW wedi'u gosod ar ei system dec fflat 16,000 haen. Fodd bynnag, mae'r ynni a gynhyrchir ond yn cyfrannu tua thraean o'r gofyniad blynyddol ar gyfer y sied.
Mae gan ddofednod fwy o sensitifrwydd i liwiau a gwelededd ar y sbectrwm uwchfioled. Gall presenoldeb gwahanol liwiau, dwyster, a chyfnodau o olau oll gael dylanwad ar eu hymddygiad a'u perfformiad. Er mwyn gweithio tuag at welliant pellach mewn hunangynhaliaeth ynni, bydd Glanalders yn tynnu stribedi golau 2 droedfedd presennol y sied a gosod 3 llinell o 35 48V / 9.6W gwyn cynnes LED (deuod allyrru golau) yn eu lle.
Y nod i Glanalders yw gweld a fydd y newidiadau mewn goleuadau yn gwella iechyd a lles adar wrth leihau defnydd ynni ac ôl troed carbon y fferm.
Bydd y prosiect hefyd yn cyfrannu at ganlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy, gan gynnwys:
- Cyfrannu at iechyd a lles uchel
- Effeithlonrwydd o ran adnoddau
Llinell Amser Prosiect Diweddaraf
Prif ganlyniadau
- Gwelwyd cynnydd o 6.1%, gwerth £27,192 mewn cynhyrchiant wyau ar ôl gosod y goleuadau LED
- Mae gosod y goleuadau LED wedi arwain at ostyngiad o £2,724.08 o ran costau ynni dros y gylchred ddodwy 78 wythnos nesaf
- Mae hyn wedi arwain at gyfanswm arbediad carbon blynyddol o 1,218 kg CO₂e
Cefndir
Y prif nodau ar fferm Glanalders yw bod yn fwy hunangynhaliol o ran ynni gan hefyd wella iechyd a lles adar. Er bod paneli solar 20kW wedi’u gosod ar y system lwyfan wastad gyda 16,000 o ddofednod dodwy, roedd yr ynni a gynhyrchwyd yn cyfrannu tua thraean yn unig o’r gofynion blynyddol ar gyfer y sied.
O’i gymharu â fflworoleuadau, mae goleuadau LED (deuodau allyrru golau) yn cynnig mwy o effeithlonrwydd ynni, yn para am gyfnod hwy, ac yn bwysicaf oll o safbwynt lles, nid ydynt yn fflachio. Mae’r gallu i deilwra’r sbectrwm golau yn fantais arall sylweddol ar gyfer LED o’i gymharu â thechnolegau goleuo hŷn, sy’n aml yn cynnwys allbynnau sbectrol sefydlog a llai delfrydol ar gyfer dofednod.
Mae dofednod yn fwy sensitif i liwiau a gwelededd ar y sbectrwm uwchfioled. Gall presenoldeb gwahanol liwiau, dwyster a chyfnodau o oleuni ddylanwadu ar eu hymddygiad a’u perfformiad. Mae goleuadau LED yn lledaenu’n well na goleuadau confensiynol, gan ddileu mannau tywyll a lleihau straen. Felly, mae potensial i oleuadau LED wella ysgogiad o ymddygiad naturiol adar yn ystod y dydd a’r nos ynghyd â gwella perfformiad.
Nodau’r prosiect
- Asesu unrhyw welliannau o ran hunangynhaliaeth o ganlyniad i amnewid y goleuadau stribed 2 droedfedd gyda goleuadau LED
- Asesu effaith y goleuadau LED ar iechyd, lles a chynhyrchiant yr haid
- Cyfrifo budd economaidd y goleuadau newydd
Yr hyn sydd wedi cael ei wneud
Gyda’r haid olaf flaenorol yn gadael ym mis Mawrth 2024, gosodwyd y system oleuo newydd, gyda’r haid newydd yn cyrraedd yn 16 wythnos oed ar ddiwedd mis Ebrill 2024. Roedd yr haid newydd yn dodwy o fis Mai 2024 ymlaen.
Yn ystod y cyfnod newid, cafodd y goleuadau stribed 54 x 2tr presennol eu tynnu a gosodwyd y goleuadau LED yn eu lle. Cafodd y rhain eu cyflenwi gan Dalton Engineering Ltd.
Gosodwyd tair llinell o oleuadau LED, gyda phob llinell yn cynnwys 35 golau. Roedd y rhain yn oleuadau LED gwyn cynnes 48V/9.6W.
Mae’r prosiect wedi defnyddio data a gasglwyd ac a gofnodwyd yn fisol gan ddefnyddio meddalwedd ‘Eggbase’ ar gyfer yr haid newydd o ieir o’i gymharu â’r haid flaenorol.

Ffigur 1: Haid newydd o adar ar ôl gosod goleuadau LED
Canlyniadau
Cynhyrchiant adar
Cafodd data o’r rhaglen feddalwedd ‘Eggbase’ ei gymharu ar gyfer y cyfnodau 16 i 40 wythnos o’r haid flaenorol yn erbyn haid mis Mai 2024 (Ffigur 2). Dechreuodd yr haid a gyflwynwyd ar ôl gosod y goleuadau LED ddodwy ynghynt (llinell las), ac o ganlyniad, i ddodwy mwy o wyau (llinell goch) o’i gymharu â’r haid flaenorol.

Ffigur 2: Cynhyrchiant wyau gwirioneddol a chronnus ar gyfer y ddwy haid (mae’r wybodaeth hon ar gael yn Saesneg yn unig)
Tabl 1: Nifer yr wyau a gynhyrchwyd gan y ddwy haid
Cynhyrchiant wyau | 2024 | 2023 | %cynnydd |
Erbyn 20 wythnos oed | 5869 | 735 | +699 |
Cyfanswm cronnus | 2,723,738 | 2,566,857 | +6.1 |
Er bod hyn yn dangos cynnydd sylweddol mewn cynhyrchiant wyau gwerth £27,192 ar gyfer yr haid a gyflwynwyd ar ôl gosod y goleuadau LED (Tabl1), mae nifer o ffactorau’n gallu dylanwadu ar gynhyrchiant wyau megis sicrhau’r llwyddiant gorau posibl wrth fagu, tymheredd amgylchol, tymor a hyd y dyddiau, er bod hyd y dyddiau ar gyfer yr haid yn cael ei reoli drwy gynllun goleuo rhagnodol yn ystod y cyfnodau cynnar i’w hannog i ddodwy.
Ni welwyd unrhyw effeithiau amlwg o ran iechyd, ymddangosiad na chyfraddau marwolaeth rhwng y ddwy haid o adar.
Effeithlonrwydd ynni
Wrth gyfrifo arbedion ynni ar gyfer y gosodiad goleuadau LED, gwnaed y tybiaethau canlynol:
- Cylchred ddodwy o 78 wythnos
- Patrwm goleuo yn ystod y gylchred ddodwy:
- 10 awr y dydd yn ystod 8 wythnos gyntaf y gylchred ddodwy
- 14.5 awr y dydd ar gyfer gweddill y gylchred ddodwy
- Gwariant cyfalaf y prosiect - £9,200
- Cost trydan o’r grid - 30.85 c/kWh
- Ffactor allyriadau’r grid - 0.20705 kg CO₂e/kWh
Tabl 2: Cymhariaeth o ddefnydd ynni
Tiwb fflworolau | LED | |
Defnydd trydan yn ystod yr 8 wythnos gyntaf (kWh) | 1,210 | 564 |
Defnydd trydan yn ystod yr wythnosau sy’n weddill (kWh) | 15,347 | 7,162 |
Cyfanswm a ddefnyddiwyd dros gyfnod o 78 wythnos | 16,556 | 7,726 |
Mae’r ffigyrau yn Nhabl 2 yn arwain at yr arbedion canlynol o safbwynt trydan a charbon:
Cyfanswm yr arbedion trydan dros gyfnod o 78 wythnos = 8,830 kWh
Cyfanswm yr arbedion carbon dros gyfnod o 78 wythnos = 1,828 kg CO₂e
Cyfanswm arbedion trydan blynyddol = 5,886 kWh
Cyfanswm arbedion carbon blynyddol = 1,218 kg CO₂e
Tabl 3: Dadansoddiad ariannol o arbedion ynni
Arbediad cost dros y gylchred dodwy (78 wythnos) | £2,724.08 |
Arbediad cost cymedrig fesul diwrnod | £4.99 |
Buddsoddiad cyfalaf | £9,200.00 |
Ad-daliad syml (dyddiau) | 1,844 |
Ad-daliad syml (blynyddoedd) * | 5.10 |
* Noder: Nid ydym wedi cynnwys amlder adnewyddu goleuadau yn y cyfrifiadau hyn. Dylai goleuadau LED bara hyd at 5 gwaith yn fwy na thiwb fflworolau fel arfer, a fyddai’n lleihau’r cyfnod ad-dalu.
Casgliadau
Mae gosod y goleuadau LED wedi profi’n fuddsoddiad gwerth chweil gyda’r arbedion ynni eu hunain yn talu am y buddsoddiad cyfalaf ymhen pum mlynedd. Mae’r cynnydd o 6.1% mewn cynhyrchiant wyau o ganlyniad i’r ieir yn dodwy ynghynt wedi bod yn ddramatig, ac mae’n hen ddigon i dalu am y costau gosod, er bod sawl ffactor yn gallu dylanwadu ar lwyddiant haid newydd yn dechrau dodwy. Nid oedd unrhyw wahaniaethau nodedig o ran canlyniadau iechyd a lles yr haid hon o’i gymharu â’r haid flaenorol.
Gwnaed arbedion carbon blynyddol o 1,218 kg CO₂e hefyd o ganlyniad i ddisodli’r hen oleuadau stribed gyda goleuadau LED mwy effeithlon o ran ynni.