BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Prosiect Fferm Gelli Goll

Prosiect Fferm Gelli Goll

Mae Gelli Goll yn fferm Bîff, Defaid ac Âr ar gyrion y Bont-faen, sy’n cael ei rhedeg ar hyn o bryd gan Mark Jarvis a’i ferch Bethany.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Mehefin 2026
Diweddarwyd diwethaf:
12 Mehefin 2026
Statws:
Cyflawn
Wedi'i ffermio gan:
Mark & Bethany Jarvis
Lleoliad:
Fferm Gelli Goch, Cowbridge
Sector:
Biff

Trosolwg

Deall manteision tyfu cymysgedd o rawnfwyd a chodlysiau fel porthiant cyflawn

Mae Gelli Goll yn fferm Bîff, Defaid ac Âr ar gyrion y Bont-faen, sy’n cael ei rhedeg ar hyn o bryd gan Mark Jarvis a’i ferch Bethany. Ar hyn o bryd, mae'r fferm yn gweithredu ar lwyfan o 450 erw. Mae'r system yn cynnwys menter pesgi bîff, lle mae rhwng 100 a 150 o wartheg stôr Charolais a Limousin yn cael eu prynu yn 12 mis oed a'u pesgi ar y fferm, ac yn eu gwerthu pan maent tua 24 mis oed. Mae gan y fferm hefyd ddiadell o 750 o Suffolk Croes Miwl Seland Newydd a 200 o famogiaid Miwl Cymreig.

Fel ffordd o ddod yn fwy hunangynhaliol a chreu diet gaeafol cyflawn, eleni bydd y fferm yn tyfu cymysgedd o rawn a chodlysiau, sy’n gymysgedd cymwys ar gyfer y Grant Tyfu er mwyn yr Amgylchedd. Er mwyn bodloni anghenion maeth da byw, mae'n ofynnol dod â phrotein ychwanegol i mewn yn aml. Drwy dyfu’r cnwd hwn, ein nod yw bodloni’r galw heb ddibynnu ar borthiant a brynir i mewn a chynyddu gwerthoedd protein a dyfir gartref rhwng 30 a 50% ynghyd â chynnyrch cynyddol, o gymharu â chnydau un math.

Mae hefyd nifer o fanteision hysbys eraill o ymgorffori codlysiau, megis eu heffaith ar ddarparu nitrogen gweddilliol yn y pridd tra hefyd yn dileu clefyd ffwngaidd y dail, gan ddileu'r angen am ffwngladdwyr a phryfladdwyr. Felly, yn y treial hwn, byddwn yn adolygu addasrwydd cyffredinol y cnwd mewn cylchdro âr ynghyd â chymharu gwerthoedd o ran y cnwd, ansawdd a bwydo o gymharu â chnydau un math.

 Nodau’r prosiect hwn yw:

  • Datblygu strategaeth gost-effeithiol a chynhyrchiol ar gyfer porthi yn ystod y gaeaf yn seiliedig ar dyfu cymysgedd o rawn a chodlysiau

  • Mesur cnwd, ansawdd ac economeg tyfu cnwd protein uwch

  • Lleihau'r angen i gyflwyno mewnbynnau ychwanegol, ac felly gwella hunangynhaliaeth 

Bydd y prosiect hefyd yn cyfrannu at ganlyniadau’r cynllun Rheoli Tir yn Gynaliadwy gan gynnwys:

  • Lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr

  • Cynnal a gwella’r ecosystem

  • Gwelliant o ran gwneud y mwyaf o storio ac atafaelu carbon wrth leihau ôl troed carbon y fferm gyfan

Llinell Amser Prosiect Diweddaraf

Prif ganlyniadau:

  • Arweiniodd y diet at sicrhau cynnydd pwysau byw dyddiol (DLWG) o 1.01 kg/dydd (Grŵp 1) a 0.82 kg/dydd (Grŵp 2). Roedd hyn yn llai na’r targed a ragwelwyd o 1.1-1.2 kg/dydd, er gwaetha’r ffaith bod cymeriant cyffredinol yn unol â’r rhagfynegiadau.
  • Dangosodd dadansoddiad dilynol mai prinder protein dietegol oedd y prif reswm bod gwartheg yn methu â chyrraedd targedau cynnydd pwysau byw dyddiol, gan gyfyngu ar dreuliad ffibr a thwf.
  • Mae argymhellion at y dyfodol yn cynnwys ychwanegu triog neu flawd rêp uchel mewn protein, neu gynyddu lefel y silwair glaswellt protein uwch yn gymesurol yn y gymysgedd (o bosibl drwy gynnwys meillion a dewis dyddiadau torri addas).

Cefndir:

Mae Gelli Goll yn fferm Bîff, Defaid a thir âr ar gyrion y Bont-faen, sy’n cael ei rhedeg ar hyn o bryd gan Mark Jarvis a’i ferch Bethany. Ar hyn o bryd, mae'r fferm yn gweithredu ar lwyfan o 450 erw. Mae'r system yn cynnwys menter pesgi bîff, lle mae rhwng 100 a 150 o wartheg stôr Charolais a Limousin yn cael eu prynu yn 12 mis oed a'u pesgi ar y fferm, ac yn eu gwerthu pan maent tua 24 mis oed. Mae gan y fferm hefyd ddiadell o 750 o Fiwl croes Suffolk Seland Newydd a 200 o famogiaid Miwl Cymreig a’u hŵyn.

Er mwyn ceisio bod yn fwy hunangynhaliol a lleihau dibyniaeth ar borthiant a brynir i’r fferm, roedd gan Mark a Bethany ddiddordeb mewn tyfu cymysygedd o rawn a chodlysiau er mwyn i’r fferm allu cynhyrchu porthiant y gaeaf ar gyfer y gwartheg pesgi.

Diben y gwaith:

Nodau’r prosiect oedd:-

  1. Datblygu strategaeth fwydo effeithiol a chynhyrchiol dros y gaeaf yn seiliedig ar dyfu cymysgedd o rawn a chodlysiau.
  2. Mesur ansawdd ac agweddau economaidd tyfu cnwd sy’n cynnwys mwy o brotein.
  3. Lleihau’r angen i gyflwyno mewnbynnau ychwanegol, ac felly cynyddu hunangynhaliaeth.y.

Yr hyn a wnaed:

Casglwyd samplau pridd o’r caeau cyn sefydlu’r cnwd, a oedd yn dilyn cnwd cymysg o  haidd y gaeaf a maip sofl. Gwnaed y gweithgareddau canlynol yn y caeau o 25 Ebrill 2024 ymlaen: -       

  • Chwistrellu gweddill y gwndwn gan ddefnyddio 4 litr/ha o glyffosad;
  • Hau hadau Western Seeds Sovereign Combicrop, sy’n gyfuniad o bys, ceirch a haidd, ar gyfradd o 100kg/erw;
  • Gwasgaru gwrtaith 20.10.10 ar gyfradd o 125kg/erw wrth sefydlu.

Bu’r ffermwr yn cynnal asesiadau gweledol drwy gydol y tymor tyfu nes cynaeafu’r cnwd ar 30 Gorffennaf i gynhyrchu cyfuniad o fyrnau a silwair i’r gladdfa. Cafodd y silwair cnwd cyflawn ei ddadansoddi i asesu ei ansawdd a’i fwydo i’r gwartheg dros y gaeaf, ynghyd â silwair glaswellt a haidd wedi’i rolio.

Canlyniadau:

Ar gyfer pesgi gwartheg, fel y gwelir yn ffigur 1, mae’r silwair cnwd cyflawn yn cynnig starts gwerthfawr (17.2%), sy’n hanfodol er mwyn magu pwysau a gorffeniad y carcas, ond mae’n isel mewn protein (9.1% CP). I’r gwrthwyneb, mae’r silwair glaswellt yn cynnig porthiant uchel mewn protein (14.1% CP) ac egni (10.9 ME, 68.1% Gwerth D) o ffibr treuliadwy. Fodd bynnag, mae’n aml yn brin o’r lefelau uchel o starts sy’n angenrheidiol ar gyfer pesgi.

Mae bwydo’r ddau fath o borthiant gyda’i gilydd yn fuddiol gan fod y starts yn y cnwd cyflawn yn ategu’r ffibr treuliadwy a’r protein yn y silwair glaswellt, gan greu proffil egni mwy cytbwys. Mae’r cyfuniad hwn yn hybu amgylchedd sefydlog yn y rwmen, gan leihau’r risg o asidosis, ac yn gwella’r blas yn gyffredinol, gan arwain at gymeriant uwch o ddeunydd sych.

NIR Analysis of the wholecrop and grass silages.

Ffigur 1. Dadansoddiad NIR o’r silweiriau cnwd cyflawn a glaswellt.

Trwy gydol y gaeaf, cafodd y ‘combicrop’ ei gymysgu gyda silwair glaswellt gan ddefnyddio peiriant bwydo a thaenu gwellt, ac yna’i fwydo i ddau grŵp o wartheg. Cafodd cyfanswm o 18kg y pen o laswellt a ‘combicrop’ ei fwydo unwaith y dydd, gyda’r ddau borthiant yn cael eu cymysgu’n gyfartal. Roedd y gwartheg hefyd yn derbyn oddeutu 3.5kg o haidd wedi’i rolio a’i rannu mewn dau gyfnod bwydo. Roedd cyfanswm y cymeriant yn unol â’r cymeriant a ragwelwyd ar gyfer y gwartheg ac roedd cyfanswm costau’r cnwd cyflawn yn £29.30/t a fwydwyd.

Roedd yr enillion pwysau byw dyddiol a ragwelwyd ar gyfer y gwartheg rhwng 1.1-1.2kg. Ni lwyddodd yr un o’r grwpiau o wartheg i gyflawni’r targed hwn, gyda chynnydd pwysau byw dyddiol un grŵp yn 0.82kg a’r llall yn 1kg. Yn dilyn dadansoddiad pellach o’r diet, gwelwyd diffyg protein a allai fod yn cyfyngu ar dreuliad ffibr a’r protein sydd ar gael ar gyfer twf cyhyrau, gan gyfyngu ar eu cynnydd pwysau byw dyddiol yn y pen draw.

Byddai modd ystyried yr opsiynau canlynol yn y dyfodol i wella cynnwys protein y diet: -

  • defnyddio hylif uchel mewn protein sy’n seiliedig ar driog, a byddai modd ei arllwys dros y silwair/cnwd cyflawn yn y peiriant bwydo neu ei arllwys dros ben y porthiant cyn ei fwydo.
  • defnyddio ychydig o flawd rêp (os byddai modd ei brynu a’i storio), a byddai hwn yn cael ei roi gyda’r silwair/cnwd cyflawn a’i fwydo drwy’r peiriant bwydo.
  • bwydo mwy o silwair glaswellt o’i gymharu â’r combicrob sy’n cynnwys llai o brotein ac egni. Gallai’r ffermwr geisio cynyddu’r protein yn y silwair glaswellt trwy gynyddu faint o feillion sydd yn y gwndwn ac asesu’r dyddiad torri a faint o brotein sy’n cael ei gadw yn ystod y broses eplesu.

Sut i’w roi ar waith ar eich fferm:

  1. Ystyried y cnwd gorau i’w dyfu ar y fferm yn seiliedig ar ofynion y da byw
  2. Os ydych yn bwriadu bwydo ‘combicrop’ ochr yn ochr â silwair, ceisiwch gynyddu lefelau protein y silwair glaswellt trwy ystyried cynnwys meillion y gwndwn a’r dyddiad torri.
  3. Ystyried a fyddai hau cnwd o dan y prif gnwd yn addas ar gyfer eich fferm.
  4. Dadansoddi’r silwair a’r ‘combicrop’ i ganfod eu gwerthoedd fel porthiant, gan ganiatáu ar gyfer llunio dogn i sicrhau bod y gwartheg yn derbyn y diet cywir i fodloni eu gofynion er mwyn cyflawni eu cynnydd pwysau byw disgwyliedig.
  5. Pwyso gwartheg yn rheolaidd i fonitro eu perfformiad.  

NIR Analysis of the wholecrop and grass silages.

Ffigur 2. Y cnwd yn cael ei gynaeafu. 


I gael cymorth neu gyngor busnes ffoniwch

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30yb a 5yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.