Fferm gymysg yw Cwmcowddu sy’n cynnwys buches o 120 o fuchod llaeth, 550 o famogiaid magu ac uned ieir dodwy 32,000. Mae’r fenter laeth wedi cynyddu mewn niferoedd dros y ddwy flynedd ddiwethaf a gosodwyd parlwr godro 20/40 De Laval newydd.
- Statws:
- Cyflawn
- Wedi'i ffermio gan:
- Sian, Aled and Rhodri Davies
- Lleoliad:
- Cwmcowddu, Llangadog
- Sector:
- Llaeth, Dofednod, Defaid
Trosolwg
Fferm gymysg yw Cwmcowddu sy’n cynnwys buches o 120 o fuchod llaeth, 550 o famogiaid magu ac uned ieir dodwy 32,000. Mae’r fenter laeth wedi cynyddu mewn niferoedd dros y ddwy flynedd ddiwethaf a gosodwyd parlwr godro 20/40 De Laval newydd.
Dengys cymariaethau gyda’r traean uchaf o ffermydd yn y Data Arolwg Busnesau Fferm bod y defnydd o borthiant (kg/litr) a’r costau porthiant i bob litr yn uchel. Gan weithio ar gynnych o gyfartaledd o 7,000 litr i bob buwch, mae’r porthiant a brynir i mewn yn cyfrif am 2.7 tunnell o ddwysfwyd i bob buwch.
Nod y prosiect hwn fydd gwella effeithlonrwydd porthiant yn y fuches laeth gan roi pwyslais arbennig ar gydbwyso’r porthiant sydd ar gael gyda lefel briodol o fwydydd wedi eu prynu i mewn wedi eu dogni’n gywir. Bydd proffilio metabolig gwaed yn cael ei gyflawni ar fuchod sych ac ar ôl lloia i sicrhau bod y dogn yn bodloni’r gofynion ar bob cyfnod yn y llaethiad, a’u monitro mewn cymhariaeth â’r cynnyrch llaeth a’i ansawdd, cyflwr y buchod a dangosyddion perfformiad ffrwythlondeb allweddol.
Gan ei bod yn fferm gymysg â thail dofednod a gwartheg ar gael i dyfu cnydau, bydd y prosiect hefyd yn anelu at gynhyrchu mwy o borthiant gartref i wella cynaliadwyedd a gwytnwch. Yn dibynnu ar y cyfuniadau am y costau lleiaf ar gyfer y gaeaf hwn, bydd cyfnewid elfen sy’n cael ei phrynu i mewn o’r dogn yn ffocws ar gyfer gwanwyn 2024 trwy dyfu cnwd newydd a lleihau’r ddibyniaeth ar fwydydd wedi eu prynu.
Trwy yrru gwelliannau mewn effeithlonrwydd bwyd, bydd y prosiect yn cyfrannu at ddeilliannau Rheoli Tir yn Gynaliadwy trwy:
- Leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr y fferm
- Cefnogi gwelliant mewn storio ac atafaelu carbon gan leihau ôl troed carbon y fferm gyfan
- Cynnal a gwella’r ecosystem yn Cwmcowddu
- Cyfrannu at iechyd a lles da i’r fuches
Llinell Amser Prosiect Diweddaraf
Adroddiad Terfynal
Prif ganlyniadau
- Arweiniodd gwelliannau o ran effeithlonrwydd porthiant a chynhyrchiant llaeth at well rheolaeth costau a lleihau gwastraff bwyd drwy wella cymeriant deunydd sych.
- Cynhyrchodd y gwartheg 26-27 litr o laeth fesul diwrnod ar gyfartaledd yn ystod tymor pori heriol.
Cefndir:
Yn ystod gaeaf 2023-24, bu’r prosiect yn canolbwyntio ar wella cynhyrchiant llaeth y fuches ar fferm Cwmcowddu, yn benodol drwy addasu’r dogn i reoli costau bwydo. Y brif her oedd lleihau cyfraddau bwydo heb effeithio’n negyddol ar gynnyrch llaeth. Bu’r prosiect yn canolbwyntio ar wneud y gorau o gymeriant deunydd sych ar ddechrau’r cyfnod llaetha a gwella cynnyrch brig a dyfalbarhad llaetha. Amlygodd gwaith proffilio metabolig ar y gwartheg bryderon yn ymwneud â beichiogrwydd hwyr ac iau brasterog, a allai arwain at broblemau iechyd sy’n effeithio ar gynhyrchiant. Y nod oedd cyflwyno strategaeth a fyddai’n gwella cynhyrchiant ac iechyd gwartheg gan hefyd reoli costau porthiant.
Diben y gwaith:
- Gwneud y gorau o effeithlonrwydd porthiant: Cynyddu cynhyrchiant llaeth gan hefyd leihau costau bwydo fesul litr.
- Gwella iechyd y fuwch: Canolbwyntio ar atal problemau metabolig a gwella rheolaeth gwartheg yn ystod y cyfnod pontio.
- Cynyddu cynnyrch llaeth: Canolbwyntio ar wella cynnyrch brig a dyfalbarhad llaetha drwy addasiadau maethol.
Yr hyn a wnaed:
Roedd y fethodoleg yn cyfuno sawl strategaeth i wneud y gorau o berfformiad y fuches:
- Bwydo dogn ac addasu porthiant: Canolbwyntio ar leihau cyfraddau bwydo gan hefyd gynyddu cynnyrch llaeth drwy gynyddu dwysedd egni a lefelau starts, gan gynnwys cyflwyno 13.5kg o india-corn fesul buwch.
- Proffilio metabolig: Cynnal profion metabolig ar drawstoriad o wartheg i ganfod problemau iechyd, megis iau brasterog, a oedd yn cael eu rheoli drwy addasu’r dogn ar gyfer gwartheg yn y cyfnod pontio.
- Gwella iechyd gwartheg: Cyflwyno rholiau gwartheg sych a Mag Clorid i gefnogi lefelau egni a lleihau’r risg o dwymyn llaeth. Rhoddwyd ffocws ar sicrhau bod gwartheg yn barod ar gyfer dechrau’r cyfnod llaetha.
Rheoli’r borfa: Yn ystod yr haf, cafodd y gwartheg eu bwydo ar ddwysfwyd yn unig drwy’r parlwr godro, a buont yn pori mwy i gefnogi cynhyrchiant llaeth yn ystod tymor heriol
Canlyniadau:
- Cynnyrch llaeth: Roedd gwartheg yn cynhyrchu 26-27 litr y dydd ar gyfartaledd yn ystod tymor pori heriol.
- Effeithlonrwydd bwyd: Rhoddodd yr addasiadau protein a chyflwyno india-corn hwb i gynhyrchiant llaeth a lefelau protein llaeth gan hefyd reoli costau bwydo.
- Iechyd y fuwch: Trwy fynd i’r afael â phroblemau metabolig a gwella’r cyfnod pontio, gwelwyd lleihad yn y nifer o glefydau’n agos at enedigaeth, a bydd hynny’n cefnogi gwell ffrwythlondeb.
- Cymeriant bwyd: Llwyddwyd i sicrhau mwy o gymeriant deunydd sych drwy fwydo porthiant cymysg, gan arwain at well bodlonrwydd cyffredinol ymysg y gwartheg.
- Heriau: Roedd troi’r gwartheg i’r borfa’n hwyrach a silwair o ansawdd is yn amlygu’r angen i wella rheolaeth silwair dros fisoedd y gaeaf.
Sut i’w roi ar waith ar eich fferm:
- Addasu dognau’r gwartheg: Cyflwyno strategaeth fwydo gydag opsiynau dwys o ran egni sydd hefyd yn gost effeithiol megis silwair india-corn i gefnogi cynhyrchiant llaeth.
- Monitro iechyd metabolig: Cwblhau proffiliau metabolig yn rheolaidd i adnabod a rheoli problemau iechyd posibl megis iau brasterog.
- Cefnogi’r cyfnod pontio: Cyflwyno rholiau gwartheg sych a defnyddio Mag Clorid yn ystod wythnosau olaf beichiogrwydd i leihau’r risg o dwymyn llaeth.
- Gwneud y gorau o’r borfa: Yn ystod yr haf, canolbwyntio ar bori ac addasu dwysfwyd yn seiliedig ar ansawdd y glaswellt sydd ar gael i leihau costau porthiant.
- Sicrhau silwair o ansawdd uchel: Cynhyrchu a storio silwair glaswellt o ansawdd uchel i osgoi prinder a sicrhau cynhyrchiant llaeth parhaus yn y gaeaf.