BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Prosiect Cornwal Uchaf

Dadansoddiad o farwolaethau ŵyn wedi’i lywio gan ddata

Nod y prosiect hwn yw datblygu dealltwriaeth o’r prif ffactorau sy’n arwain at farwolaethau ŵyn ar fferm Cornwal Uchaf. Trwy nodi’r cyfnodau penodol a’r hyn sy’n achosi’r colledion, gall y fferm weithredu ymyriadau wedi’u targedu o ran y cylch bridio a rheolaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Mawrth 2026
Diweddarwyd diwethaf:
26 Mawrth 2026
Statws:
Cyflawn
Wedi'i ffermio gan:
Dylan, Gwenda and Gwion Roberts
Lleoliad:
Gornwal Ucha, Gwytherin
Sector:
Biff, Defaid

Trosolwg

Nod y prosiect hwn yw datblygu dealltwriaeth o’r prif ffactorau sy’n arwain at farwolaethau ŵyn ar fferm Cornwal Uchaf. Trwy nodi’r cyfnodau penodol a’r hyn sy’n achosi’r colledion, gall y fferm weithredu ymyriadau wedi’u targedu o ran y cylch bridio a rheolaeth.

Bydd y teulu ar fferm Cornwal Uchaf yn gwneud gwaith cofnodi manwl a systematig ar gyfer pob oen a gollir yn ystod y cyfnod ŵyna. Bydd y Daflen Gofnodi Colledion Ŵyn yn cael ei defnyddio i gofnodi’r wybodaeth, o niferoedd sganio cychwynnol hyd at y cyfnod ar ôl diddyfnu.

Bydd olrhain y data hwn yn caniatáu ar gyfer nodi’r cyfnodau allweddol lle mae nifer y marwolaethau ar ei uchaf yn gyflym, gan gynnwys:

  • Colledion newydd-anedig (o fewn dyddiau cyntaf bywyd)
  • Colledion cyn 12 wythnos oed (cyn y drensh cyntaf)
  • Colledion yn ystod diddyfnu ac ar ôl diddyfnu

Bydd y dull hwn sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn galluogi’r fferm i osod nodau pendant ar gyfer gwella protocolau rheolaeth, cynllun iechyd neu strategaeth fwydo, gan sicrhau bod camau gweithredu’r dyfodol wedi’u targedu ac yn effeithiol.

Yn ogystal, mae’r dull hwn sy’n cael ei arwain gan ddata yn cefnogi’r canlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy canlynol yn uniongyrchol:

  • Cyfrannu at safonau iechyd a lles uchel y ddiadell.
  • Defnyddio adnoddau’n effeithiol
  • Lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr y fferm

Llinell Amser Prosiect Diweddaraf

Adroddiad Terfynol

Dadansoddiad yn seiliedig ar ddata o gyfraddau marwolaeth ŵyn – Adroddiad Terfynol

Prif ganlyniadau:

  • Erthylu oedd y prif ffactor a oedd yn gyfrifol am farwolaethau ŵyn, yn gyfrifol am dros 50% (18 o 34) o’r colledion a gofnodwyd yn ystod y tymor.
  • Nodwyd diffyg magu gan y famog hefyd fel un o’r prif ffactorau ar gyfer colledion ŵyn – byddai modd mynd i’r afael â hyn drwy wella Sgôr Cyflwr Corff y mamogiaid.
  • Roedd y risgiau ar ôl eu troi allan yn isel o ran cyfraddau marwolaeth, ond dangosodd dadansoddiad clinigol arwyddion o Gastroenteritis Parasitig (PGE) a diffyg Cobalt/Fitamin B12.

Cefndir:

Mae gwella cynhyrchiant y ddiadell yn hanfodol, ac mae cynyddu allbynnau o ran nifer yr ŵyn sy’n cael eu magu’n rhan fawr o hynny. Mae’r prosiect hwn yn archwilio data marwolaethau tymor ŵyna 2025 o ddiadell o 400 o famogiaid er mwyn meincnodi perfformiad a nodi meysydd gweithredu posibl er mwyn gwella cyn tymor 2026.

Diben y gwaith:

  1. Meintoli’r ganran benodol o golledion ŵyn ar bob cam o’r gylchred gynhyrchu er mwyn gallu meincnodi’n gywir ar y fferm.
  2. Nodi’r prif ffactorau sy’n achosi marwolaethau ŵyn yn ystod y cyfnod cyn geni er mwyn rhoi strategaeth atal clefydau wedi’i thargedu ar waith.
  3. Cynllunio protocol syml, cost effeithiol i’w roi ar waith ar unwaith i leihau colledion ymhellach i fod yn is na’r gyfradd bresennol o 6.5%.

Yr hyn a wnaed:  

Roedd y fethodoleg yn cynnwys y ffermwr yn casglu data cynhwysfawr ac yn ei anfon i gael ei ddadansoddi gan filfeddyg. Cafodd pob colled ei gofnodi yn ystod cyfnod ŵyna 2025, gan eu gosod o dan gategori yn ôl rheswm (e.e. erthylu, diffyg magu gan y famog), a’r cam yn y gylchred gynhyrchu. Cafodd y data crai hwn ei ddadansoddi i ddatblygu cynllun er mwyn gwella yn ystod tymhorau dilynol.  

Canlyniadau:  

Roedd canlyniadau sganio cychwynnol yn nodi cyfradd sganio addawol o 130%, gan ragfynegi cyfanswm posibl o 520 o ŵyn. Cynhaliwyd dadansoddiad o golledion ôl-weithredol, gan feintoli cyfraddau marwolaeth yn ystod dau gyfnod hanfodol: rhwng y sganio a’r geni a rhwng geni a throi allan.

Pennwyd bod cyfanswm cyfraddau marwolaeth ŵyn yn 6.5% (34 oen), sydd o fewn safon sefydledig y diwydiant ar gyfer diadelloedd masnachol (<13%). Er bod y canlyniad hwn yn dderbyniol yn ystadegol, nod yr ymchwiliad hwn yw symud y tu hwnt i gyfartaledd y diwydiant. Y prif ffocws yw edrych yn fanwl ar y data er mwyn canfod rhesymau penodol dros golledion y gellir eu hosgoi, fel bod modd cyflwyno newidiadau rheolaeth wedi’u targedu ar gyfer tymor ŵyna 2026, gan arwain yn pen draw at ostwng y gyfradd farwolaeth i fod yn is na’r meincnod.

Datgelodd dadansoddiad o’r 34 o golledion a gofnodwyd mai erthylu oedd y prif reswm dros farwolaeth, gan fod yn gyfrifol am 18 o golledion, neu dros 50% o’r cyfanswm a gofnodwyd yn ystod y tymor hwn. Amlygodd archwiliad pellach gyfradd uwch na’r targed o famogiaid gwag, gyda 5% o’r mamogiaid (cyfanswm o 20) yn wag, gan arwain at ddiffyg posibl o 30 o ŵyn yn erbyn nod y fferm o fod o dan 2%. Dangosodd dadansoddiad blaenorol fod Tocsoplasmosis yn ffactor tebygol yn y grŵp o famogiaid gwag; defnyddiwyd y canfyddiad hwn i roi’r gyfradd uchel o erthyliadau a gofnodwyd yn ystod y tymor mewn cyd-destun.

Digwyddodd y rhan fwyaf o golledion (29 o ŵyn) rhwng sganio a’r 12 awr gyntaf ar ôl genedigaeth, gydag achosion penodol o ran marwolaeth ar ddechrau bywyd yn cynnwys diffyg magu gan y famog a mygu (cyfanswm o 8 colled) gan awgrymu’r angen ar gyfer gwella rheolaeth o Sgôr Cyflwr Corff mamogiaid. Er bod nifer y marwolaethau ar ôl troi allan yn isel, dangosodd dadansoddiad clinigol arwyddion o Gastroenteritis Parasitaidd (PGE) a diffyg Cobalt/Fitamin B12 fel ffactorau risg parhaus a allai beryglu cyfraddau twf yr ŵyn sy’n pori.

Sut i’w rhoi ar waith ar eich fferm: 5 cam i leihau colledion ŵyn

  1. Sgrinio erthyliadau: Casglwch samplau gan unrhyw ŵyn sy’n cael eu herthylu yn ystod y tymor sydd ar y gweill er mwyn sgrinio ar gyfer ffactorau erthylu ychwanegol, ac er mwyn gallu cadarnhau neu ddiystyru rhesymau eraill.
  2. Brechu anifeiliaid cyfnewid: Gweithredwch raglen frechu rhag Tocsoplasmosis (Toxovax) ar gyfer mamogiaid bridio cyfnewid o leiaf bedair wythnos cyn eu tymor bridio cyntaf. Er ei fod yn ymddangos yn frechlyn drud, gallai’r elw ar fuddsoddiad ar gyfer y ddiadell ar fferm Cornwal fod hyd at 238% dros 5 mlynedd (gan gymryd fod y brechlyn yn costio £6 a bod 18 o ŵyn yn cael eu hachub bob blwyddyn).  
  3. Asesu cyflwr y mamogiaid: Cynhaliwch asesiad rheolaidd o’r mamogiaid a gwahanwch famogiaid tenau (sgôr cyflwr corff <2) oddi wrth weddill y ddiadell er mwyn darparu porthiant ychwanegol. Mae’n cymryd oddeutu 6-8 wythnos i famog gynyddu’r sgôr cyflwr corff o un pwynt, felly mae monitro rheolaidd yn hanfodol.  
  4. Triniaethau llyngyr wedi’u targedu: Cynhaliwch brofion Cyfrif Wyau Ysgarthol ar ŵyn bob pedair wythnos i ganfod baich llyngyr cyn i arwyddion clinigol ddatblygu, a rhowch driniaeth pan fo’i hangen yn unig.
  5. Ychwanegu B12: Cynlluniwch ar gyfer rhoi Fitamin B12 ychwanegol i’r ŵyn, yn enwedig o gwmpas y cyfnod diddyfnu, i leihau gostyngiadau mewn twf yn ystod y cyfnod pontio i ddiet o laswellt yn unig.

Cysylltwch â timtechnegolcff@mentera.cymru os hoffech dderbyn copi o’r adroddiad llawn ar gyfer y prosiect hwn. 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.