BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Prosiect Carneddau

Adolygiad yn seiliedig ar ddata o addasiadau ar y fferm a’u rôl wrth wella hyfywedd a gwytnwch hirdymor cynhyrchu cig oen Cymreig

Mae fferm y teulu Lewis yn ymestyn dros ardal o 275 hectar ar draws dau ddaliad rhwng Sir Faesyfed a Brycheiniog, gan fagu bîff a defaid o ansawdd uchel.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Mai 2026
Diweddarwyd diwethaf:
20 Mai 2026
Statws:
Cyflawn
Wedi'i ffermio gan:
Caryl Hughes and Jonathan Lewis
Lleoliad:
Carneddau, Builth Wells
Sector:
Biff

Cynnwys

Trosolwg

Mae fferm y teulu Lewis yn ymestyn dros ardal o 275 hectar ar draws dau ddaliad rhwng Sir Faesyfed a Brycheiniog, gan fagu bîff a defaid o ansawdd uchel. Mae Jonathan Lewis a’i deulu wedi ymrwymo i gynhyrchu da byw ardderchog mewn modd cynaliadwy. Gan gydnabod bod hyfywedd economaidd yn hanfodol ar gyfer sicrhau llwyddiant hirdymor, maent yn mynd ati’n rhagweithiol i wella eu harferion ffermio.

Fel aelod newydd o’r rhwydwaith Ein Ffermydd, bydd Jonathan yn dechrau ar brosiect adolygu newydd yn canolbwyntio ar ei ymdrechion i wella cynaliadwyedd y busnes fferm. Mae gan y fferm ddata yn ymestyn yn ôl dros flynyddoedd, wedi’i gasglu a’i storio gan ddefnyddio’r feddalwedd FarmIT 3000. Bydd yr astudiaeth ddesg hon yn defnyddio’r data a gasglwyd i archwilio effaith sawl newid allweddol: gwaith Jonathan ar gyflwyno polisi difa i leihau cloffni yn y ddiadell, trawsnewid i ŵyna yn yr awyr agored a chyflwyno betys porthiant i leihau’r defnydd o ddwysfwyd a gwrthfiotigau, a chyflwyno geneteg colli gwlân. Nod y prosiect yw dangos y canlyniadau a’r gwersi a ddysgwyd o’r addasiadau hyn ar y fferm i wella hyfywedd a gwytnwch hirdymor systemau cynhyrchu cig oen Cymreig.

Bydd y prosiect hefyd yn cyfrannu at ganlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy gan gynnwys:

  • Ecosystemau cydnerth
  • Safonau iechyd a lles anifeiliaid uchel

I gael cymorth neu gyngor busnes ffoniwch

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30yb a 5yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.