Y prif nod yw sefydlu strategaethau rheoli plâu effeithiol a chynaliadwy sy'n blaenoriaethu llai o ddibyniaeth ar blaladdwyr a rheolaethau cemegol eraill.
- Statws:
- Cyflawn
- Wedi'i ffermio gan:
- Arfon Evans
- Lleoliad:
- 2 Refail Bach, Rhoshirwaun
- Sector:
- Biff
Trosolwg
Mae Bugeilus Fawr yn weithrediad ffermio cymysg 320 erw sydd wedi’i leoli ym Mhen Llŷn yng Nghymru. Prif bwyslais y fferm yw cynhyrchu da byw, gan ddefnyddio system gylchdroi porfa bob 6-7 mlynedd ochr yn ochr â thyfu 30 erw o haidd y gwanwyn bob blwyddyn. Er mwyn gwella iechyd y pridd ac ansawdd y porthiant, mae meillion coch a gwndwn llysieuol amrywiol yn cael eu hymgorffori yn y cylchdro.
Mae'r fferm yn cynnal buches sugno â 120 o fuchod sugno croes Belgian Blue, a buchod croes Limousin (gan gynnwys rhai cyfnewid) gyda theirw Charolais a Limousin, yn ogystal â diadell o 500 o ddefaid Texel x Miwl.
Mae'r prosiect hwn yn ceisio datblygu strategaeth Rheoli Plâu yn Integredig (IPM) ar gyfer Bugeilus Fawr. Bydd y ffocws yn cwmpasu systemau glaswelltir a thir âr y fferm.
Y prif nod yw sefydlu strategaethau rheoli plâu effeithiol a chynaliadwy sy'n blaenoriaethu llai o ddibyniaeth ar blaladdwyr a rheolaethau cemegol eraill. Mae amcanion allweddol yn cynnwys:
Nodi ac asesu rhywogaethau plâu cyffredin (pryfed, clefydau, chwyn, ac eraill) a lefelau pwysau ar draws y fferm.
Pwyslais ar nodi a rheoli chwyn ar gyfer strategaethau rheoli effeithiol.
Gwerthuso potensial dulliau rheoli ffermwrol, mecanyddol a biolegol ar gyfer pob pla a nodwyd.
Cynllunio dull IPM amlochrog sy'n cyfuno'r arferion mwyaf addas ar gyfer anghenion penodol Bugeilus Fawr.
Bydd strategaeth IPM lwyddiannus yn cynnig y manteision posibl canlynol i Fferm Bugeilus Fawr:
Gwell iechyd cnydau a da byw trwy lai o bwysau gan blâu, afiechydon a chwyn.
Llai o ddefnydd o blaladdwyr, a fydd yn hybu iechyd ecolegol ac o bosibl yn lleihau costau mewnbwn.
Gwell bioamrywiaeth o ganlyniad i gefnogi poblogaethau pryfed buddiol a mecanweithiau naturiol i reoli plâu.
Bydd y prosiect hefyd yn cyfrannu at ganlyniadau’r cynllun Rheoli Tir yn Gynaliadwy gan gynnwys:
Defnyddio Adnoddau’n Effeithlon
Llai o allyriadau nwyon tŷ gwydr
Tirweddau naturiol ac amgylchedd hanesyddol gwarchodedig
Lefel uchel o iechyd a lles anifeiliaid
Dŵr Glân, Lliniaru perygl llifogydd a sychder
Llinell Amser Prosiect Diweddaraf
Prif ganlyniadau:
- Cynyddu cynnyrch cnydau drwy wneud y defnydd gorau o dechnegau gwrteithio a hau.
- Defnyddio 25% yn llai o blaladdwyr a gwrtaith, gan wella iechyd y pridd a’r amgylchedd a lleihau dŵr ffo.
- 20% yn llai o oriau llafur drwy ddefnyddio dulliau hau a drilio effeithlon.
Cefndir:
Mae Bugeilus Fawr, sy’n berchen i’r Meistri Evans, yn canolbwyntio ar wella cynhyrchiant a chynaliadwyedd ar draws 30 erw o haidd y gwanwyn, 12 erw o haidd y gaeaf, a chymysgedd rhygwellt parhaol a meillion coch. Defnyddiodd y fferm dechnegau aredig confensiynol i leihau baich chwyn wrth sefydlu’r haidd a drilio uniongyrchol ar gyfer y gymysgedd o laswellt a meillion, gyda’r nod o gynyddu cynnyrch, lleihau costau mewnbynnau a gwella cynaliadwyedd amgylcheddol. Roedd y prosiect hefyd yn canolbwyntio ar gynlluniau gwrtaith wedi’u teilwra, rheoli chwyn a rheoli plâu i sicrhau iechyd a chynnyrch cnydau.
Diben y gwaith:
- Cynyddu cynnyrch haidd y gaeaf a’r gwanwyn drwy wneud y gorau o dechnegau gwrteithio a hau
- Llwyddo i sefydlu cymysgedd rhygwellt parhaol a meillion coch gan amharu cyn lleied â phosibl ar y pridd.
- Gwella effeithlonrwydd adnoddau drwy roi arferion iechyd y pridd manwl gywir ar waith, rheoli plâu a rheolaeth chwyn wedi’i dargedu.
Yr hyn a wnaed:
- Aredig a thechnegau hau cyfunol ar gyfer haidd gan integreiddio gwasgariad gwrtaith.
- Casglwyd samplau pridd i greu cynlluniau gwrtaith wedi’u teilwra gan ddefnyddio canllawiau RB209 AHDB.
- Drilio’r gymysgedd rhygwellt parhaol a meillion coch yn uniongyrchol, gan darfu llai ar y pridd a gwella’r gallu i gadw dŵr.
- Gwasgaru chwynladdwyr cyn hau i reoli chwyn lluosflwydd megis dail tafol a gwlydd.
- Defnyddio trapiau gwlithod i fonitro poblogaethau a gwasgaru pryfleiddiaid pan fo’r trothwy pryfed gleision ar gyfer BYDV yn cael ei groesi.
- Sicrhau bod unrhyw ddefnydd o gemegau yn cael ei arwain gan arbenigwyr achrededig FACTS a BASIS.
Canlyniadau:
- Lleihau’r defnydd o wrtaith a phlaladdwyr: Lleihad o 25% yn y gwrtaith a’r plaladdwyr a ddefnyddiwyd o’i gymharu â blynyddoedd blaenorol drwy deilwra gwasgariad.
- Rheoli chwyn: Wedi llwyddo i leihau pwysau dail dafol, gwlydd a mwstard gwyllt, gan wella sefydliad y cnwd.
- Rheoli gwlithod: Defnyddio trapiau gwlithod a molysgladdwyr yn amserol i leihau difrod sylweddol i’r cnwd.
- Lleihau risg BYDV: Roedd monitro pryfed gleision yn helpu i leihau risgiau BYDV mewn haidd y gaeaf.
- Effeithlonrwydd llafur: Lleihad o 20% mewn oriau llafur drwy ddefnyddio dulliau hau cyfunol a drilio uniongyrchol.
Sut i’w roi ar waith ar eich fferm:
- Samplu pridd i asesu lefelau maetholion cyn plannu.
- Defnyddio Argymhellion Gwrtaith RB209 AHDB i greu cynlluniau gwrtaith ar gyfer cnydau penodol.
- Defnyddio technegau aredig confensiynol a hau cyfunol ar gyfer cnydau haidd.
- Drilio cymysgeddau rhygwellt parhaol a meillion coch yn uniongyrchol er mwyn cadw mwy o leithder a gwella sefydliad eginblanhigion.
- Defnyddio chwynladdwyr wedi’u targedu a thrapiau gwlithod i reoli pwysau gan chwyn a phlâu yn effeithiol.